This post introduces a series of linear walks in the south Wales valleys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Mae’r llyfr Walking in the South Wales Valleys yn cynnwys pum taith llinellol sydd gyda’i gilydd yn creu un llwybr parhaus o dref Glyn Ebwy i Faesteg. Bydd rhaid i chi brynu’r llyfr i gael manylion y rheiny ond mae’r map isod yn rhoi amlinelliad o’r trywydd, a sut mae’r 5 taith wedi eu rhannu.

Mae bob un o’r teithiau hynny yn cychwyn a gorffen mewn gorsaf drenau. Debyg bod de Cymru yn unigryw yn ei bod yn ardal fynyddig sydd hefyd yn boblog iawn, ac felly yn meddu ar rwydwaith rheilffyrdd eang (er nid mor eang ag y bu wrth gwrs). Mae’n ardal berffaith felly ar gyfer teithiau cerdded llinellol, ble gellir manteisio ar y rhwydwaith hwn i fynd a chi yn ol adref neu i’ch man cychwyn, yn hytrach na gorfod trafferthu gyda dau gar.
Tra bo’r rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd yn y cymoedd ar y cyfan yn dilyn patrwm y tirwedd a’r datblygiadau trefol ac yn rhedeg o’r de i’r gogledd, mae teithiau cerdded llinellol yn galluogi teithio ar draws yr ardal o un cwm i’r llall ar draws y bryniau sy’n eu gwahanu. Drwy wneud hynny ceir golwg newydd ar natur yr ardal a sut mae’n plethu gyda’i gilydd – mae Treorci a Ferndale, neu Blaengarw a Maesteg, er enghraifft, yn llawer agosach at ei gilydd na fyddai siwrnai car yn ei awgrymu.
Yn bersonol, rwy hefyd yn cael boddhad arbennig o ddefnyddio hen lwybrau – rhai ohonynt yn filoedd o flynyddoedd oed – fel y byddai ein hynafiaid wedi eu defnyddio hwy, sef i gael o un lle i’r llall, ac nid i fynd o gwmpas mewn cylch fel yw’r tueddiad modern wrth hamddena.
Dros y misoedd nesaf, byddaf yn cofnodi teithiau llinellol eraill ar y wefan yma, sydd yn adeiladu ar ac yn ymestyn y bump wreiddiol, gyda’r nod o greu cylchdaith lawn o gwmpas y cymoedd. Bydd y gyntaf yn ‘estyniad’ neu ‘atodiad’ i’r llwybr gwreiddiol, gan fynd a ni o Faesteg i Gastell-nedd.
Hysbysiad Cyfeirio: Maesteg i Gastell Nedd | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Maesteg i Gastell-nedd | Silwria