Maesteg i Gastell-nedd


This post describes a 13 mile linear walk from Maesteg to Neath in the south Wales valleys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


maesteg-nedd

Maesteg i Gastell-nedd

Hyd: 13 milltir
Her: canolig
Amser: tua 6 awr
Lluniaeth: Parc Coedwig Afan, tafarndai/caffis/siopau Maesteg a Chastell-nedd
Man cychwyn a gorffen: gorsafoedd tren Maesteg a Chastell-nedd. Gwasnaethau rheolaidd rhwng y ddau a Phenybont/Caerdydd. Dim gwasanaeth i Faesteg ar y Sul.

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a Manylion ar OutdoorActive


Roedd yr olaf o’r bum taith linellol wreiddiol ar draws y cymoedd – o Ton Pentre i Faesteg – yn meddu ar y dirwedd fwyaf mynyddig ohonynt oll, wrth i ni groesi Bwlch-y-Clawdd uwchlaw’r Rhondda Fawr a dilyn Craig Ogwr tuag at lethrau Blaengarw.

photo-08-04-16-13-43-18

Amgueddfa Afan Argoed

Rhwng Llynfi a Nedd, mae natur y dirwedd rhywfaint yn wahanol. Dyw’r llwyfandir mynyddig ddim yn cyrraedd yr un uchelderau ag y mae ymhellach i’r dwyrain, ond mae’n fwy parhaus, gyda dim ond dyffryn cul yr Afan a’i llednentydd yn torri ar ei draws. Yr ochr draw i’r Llynfi hefyd, gan gychwyn gyda’r Afan ei hun, mae’r system afonydd yn newid i fod yn llifo ar y cyfan tua’r de-orllewin, yn hytrach na’r de ddwyrain, gyda’r canlyniad fod yr holl  ardal yn wynebu fwy tuag at Abertawe nag at Gaerdydd.

photo-08-04-16-14-55-10

Capel Gyfylchi

Er ei 13 milltir o hyd, taith digon hamddenol ar y cyfan yw hon felly, dros fryniau isel ac ar draws dyffrynnoedd cul, gyda nifer fawr o fannau o ddiddordeb i’w gweld ar y ffordd.

Ar ôl dringo allan o Faesteg tua’r gorllewin a phasio rhwng Foel Trawsnant a Rhiw Tor Cymry, buan y cyrhaeddwn Barc Coedwig Afan ac Amgueddfa Glowyr De Cymru. Yr ochr draw i’r ffordd fawr, aiff pont a chi dros lwybr hen Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe, a gludai lo o ogledd y Rhondda drwy’r twnnel i Flaengwynfi ac i lawr i’r dociau ym Mae Abertawe. Yr ochr arall i’r afon, a hen ryd Ynyscynon,  ceir llwybr reilffordd arall, y South Wales Mineral Railway y tro hwn, oedd yn cysylltu Glyncorrwg gyda’r môr. Mae mynedfa twnnel Gyfylchi i’w gweld ar y dde – mae’r pen arall dros 1,000 o latheni i ffwrdd ger Tonmawr.

photo-08-04-16-16-00-24

Gwersyll Rhufeinig Blaen Cwm Bach

Ar ben y gefnen rhwng cymoedd Afan a Phelenna, saif adfail Capel Gyfylchi, y drws nesaf i ganolfan gweithgareddau awyr agored. Codwyd un o gapeli cynnar y Methodistiaid yma yn 1775, er mae’n debygol bod addoldy wedi bodoli ar y safle cyn hynny i wasanaethu’r rhai a deithiai ar hyd y gefnffordd hynafol.

I lawr oddi yno i Tonmawr, ac ar hyd Cwm Gwenffrwd, ble cloddiwyd glo ar ddechrau’r 20fed ganrif, heibio murddun Blaengwenffrwd, ac ymlaen i wersyll Rhufeinig Blaen Cwm Bach – mae’n dal i fod yn bosib gweld y cloddiau ymysg y brwyn a’r eithin. I lawr yn raddol wedyn i gyfeiriad Tonnau, hyd nes cyrraedd camlas Castell-nedd, a dilyn honno i ganol tref Castell-nedd, gan basio eglwys wyngalchog Sant Illtyd ar y ffordd.

Bydd y daith nesaf hefyd yn cychwyn ym Maesteg, ond yn mynd tua’r dwyrain y tro hwn i orsaf dren Sarn, wrth i ni gychwyn ar y daith hir yn ôl i Lyn Ebwy.

photo-08-04-16-17-10-53

Eglwys Llanilltud Nedd

Un sylw ar “Maesteg i Gastell-nedd

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Teithiau llinellol yn y Cymoedd | Silwria

Gadael sylw