This post describes a 12 mile linear walk from Maesteg to Sarn (Bridgend) in the south Wales valleys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Maesteg i Sarn
Hyd: 12 milltir
Her: canolig
Amser: tua 6 awr
Lluniaeth: Parc Bryngarw a tafarndai/caffis/siopau Maesteg
Man cychwyn a gorffen: gorsafoedd tren Sarn ger Penybont, a Maesteg. Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau a Phenybont/Caerdydd, ac yn uniongyrchol o’r nail i’r llall. Dim gwasanaeth ar y Sul.
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Roedd y daith ddiwethaf o Faesteg i Gastell-nedd yn ‘estyniad’ ar y bum taith linellol wreiddiol o dref Glyn Ebwy i Faesteg, gan roi cyfanswm o chwe thaith yn ymestyn dros 65 milltir o’r dwyrain i’r gorllewin.

getseaM
At y cyfan, mae’r teithiau hynny yn croesi canol y maes glo gan ddringo’r cefnau tywodfaen sy’n gwahanu’r cymoedd yn agos at eu mannau uchaf. Bydd llwybr y teithiau nesaf yn dra gwahanol, gan fynd a ni yn ôl i Lyn Ebwy yn bennaf ar hyd ymyl ddeheuol bryniau de Cymru, gyda Bro Morgannwg a Môr Hafren yn gwmni cyson i’r de. Yn aml, byddwn yn manteisio ar deithiau cerdded hir sydd wedi eu cyfeirbwyntio, yn arbennig felly Cefnffordd Morgannwg.
Mae’r cymal cyntaf hwn yn dilyn llwybr ychydig yn anuniongyrchol (byddai’r llwybr byrraf yn syth i lawr y cwm braidd yn ddiflas!) o Faesteg yng nghwm Llynfi i Sarn, ger cymerau’r afonydd Llynfi, Ogwr a Garw ar gyrion gogleddol Penybont.

Carreg Bodvoc
O’r orsaf drên ym Maesteg, rhaid croesi canol y dref a dringo yr ochr draw i gyrraedd y llwybr i fyny Cwm Sychbant heibio ffermydd Rhiwlas a Blaen-cwmcerwyn i gyfeiriad Mynydd Margam. Dilynnir llwybr Taith Sant Illtyd drwy’r goedwig, heibio carreg goffa WH Vaughan, a Charreg Bodvoc, at Rhyd-blaen-y-cwm.
Mae’r rhan hon o Fynydd Margam yn arbennig o gyfoethog mewn olion hanesyddol o sawl cyfnod. Beddrod ôl-Rufeinig ydi Carreg Bodvoc, sydd yn cynnwys yr enghraifft gynharaf o ach Gymreig (mae’r garreg wreiddiol i’w gweld yn Amgueddfa Cerrig Margam). Mae wedi ei gosod ar ben un o nifer o garneddi cylchog o’r Oes Efydd, a gerllaw ceir cadwyn o fryngeiri o’r Oes Haearn. Mae’ch llwybr yn croesi caer Blaen-y-cwm sy’n amddiffyn croesffordd a rhyd ar gefnffordd hynafol Ffordd-y-Gyfraith. I’r de mae bryngaer Moel-Ton-Mawr, tra i’r gogledd, ar lethr uwchlaw’r Llynfi, mae’r fwyaf o’r dair – Y Bwlwarcau.

Bryngaer Blaen-y-cwm
O Flaen-y-cwm, mae’r daith yn dilyn llwybr Ffordd Las Ogwr ar hyd yr hen gefnffordd, gan golli uchder yn raddol ar ôl pasio Mynydd Baedan i groesi’r Llynfi dros Bont-y-rhyd-ddu. Parhau wedyn i ddilyn llwybr Ffordd Las Ogwr nes cyrraedd cyrion Bettws, a wedyn troi tua’r de a thrwy Barc Gwledig Bryngarw. Ar ôl croesi’r ffordd ym Mrynmenyn, daw llwybr beicio ar lan yr afon Ogwr a chi bron yr holl ffordd i’r orsaf yn Sarn.

Hysbysiad Cyfeirio: Maesteg i Gastell-nedd | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Sarn i Lanharan | Silwria