Dafydd Morgan (1840-46) a gwyrth y we

Rwy’n byw yn yr Eglwys Newydd ger Caerdydd ers bron dair blynedd bellach, ond dim ond yn ddiweddar yr ymwelais am y tro cyntaf a safle’r hen Eglwys Fair ar Old Church Road (Hen Ffordd yr Eglwys neu Ffordd yr Hen Eglwys, tydw i ddim yn gwybod- mae’r naill a’r llall yn ddisgrifiad cywir debyg…)

file-06-12-2016-21-44-43

Dafydd Morgan 1840-46

Erbyn heddiw, gardd gyhoeddus fechan yw’r safle, sydd gyferbyn a thafarn y Fox and Hounds, gyda sylfaeni’r hen eglwys yn y canol a cherrig beddi wedi eu gosod at hyd ymyl y safle. Yn ôl fy arfer mewn unrhyw fynwent o’r fath, dyma chwilio yn arbennig am gerrig Cymraeg eu hiaith. Y cyntaf i mi ddod ar ei thraws oedd yr un yn y llun ar y chwith. Roedd yn drawiadol nid yn unig am ei hiaith, ond hefyd am ei bod yn eiddo i fachgen 6 oed o blwy Llanwynno. Dau gwestiwn amlwg felly: sut y bu i’r plentyn bach farw, a pham ei gladdu yn yr Eglwys Newydd yn hytrach nag yn Llanwynno?

Yn gynharach eleni, mynychais ddosbarth nos gwych ar hanes Cymraeg Caerdydd o dan ofal y Dr Dylan Foster Evans, awdur y blog Diferion o’r Pwll Coch ar yr un pwnc. Yn naturiol felly byddaf yn cyfeirio cwestiynau o’r fath ato fo ar Twitter (mae’n amyneddgar iawn chware teg!).  Tra nad oes posib gwybod yr ateb i’r ail gwestiwn, fe welwch o’r Tweet isod fod Dylan wedi dod ‘nôl o fewn munudau gydag ateb cynhwysfawr i’r cyntaf drwy gyfrwng toriad o bapur newydd cyfoes.

A dyna agor fy llygaid i adnodd gan y Llyfrgell Genedlaethol nas gwyddwn amdano cyn hyn: Papurau Newydd Cymru Ar-lein, sydd yn ‘yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad i dros 1,100,000 o dudalennau allan o dros 120 o gyhoeddiadau papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910’. Gwyrth y we yn wir!

Rwyf eisoes wedi treulio llawer gormod o amser yn gwneud gwahanol chwiliadau ar y wefan (mae’n gweithio’n arbennig o dda os ydych yn chwilio am enw tŷ, fferm, neu gapel penodol er enghraifft), ac mae’n ffynhonell o wybodaeth yr ydw i’n siwr o’i defnyddio’n rheolaidd yn y dyfodol er mwyn rhoi ychydig o liw ar hanes gwahanol lefydd y byddaf yn ymweld â hwy.

Gadael sylw