This post provides an overview of the different classes of hills by height and prominence, in the context of south Wales. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Fel pob stereoteip, tydi’r un sy’n cysylltu cerddwyr/mynyddwyr gyda’r tueddiad i fod yn farfog, i wisgo sandalau gyda sannau, a hoffter o ‘gwrw go iawn’ ddim wastad yn dal dŵr, ond mae’n debygol y byddai diagram Venn mawr y ddynoliaeth yn dangos nad yw’r dybiaeth yn ddi-sail ychwaith. Debyg bod yr un peth yn wir pan mae’n dod at gerddwyr/mynyddwyr, a hoffter o ddosbarthu, rhestru a chasglu: dyna’r unig esboniad posib am y ffaith fod nifer o bobl wedi mynd ati dros y blynyddoedd gategoreiddio ein bryniau a mynyddoedd. Pinacl modern yr arfer hon heb os ydi gwefan Hill-bagging.co.uk.
Rŵan, os ydych chi wedi cymryd cip sydyn ar y wefan yna a meddwl ‘wel dyna nonsens’ neu ‘be ydi’r pwynt?’ byddai’n well i chi beidio darllen yn bellach…! Tydw i heb dalu llawer o sylw i’r fath categorïau fy hun yn y gorffenol gan fy mod wastad wedi mwynhau teithiau hirach – boed yn gylch neu’n llinellol – gyda’r bwriad o gael blas o ardal gyfan yn hytrach na dim ond cyrraedd rhyw gopa penodol. Ond, wrth geisio meddwl am sut i sicrhau amrywiaeth o deithiau cerdded yn y dyfodol, a hefyd mwy o deithiau byrrach gan fod amser yn fwy prin nag y bu, dyma feddwl efallai byddai budd mewn canolbwyntio ar rhyw gategori neu ei gilydd o fryniau.
Yr hyn sydd yn dilyn felly ydi amlinelliad o’r hyn yr ydw i wedi ei ddysgu am y categorïau yma yn gyffredinol. Roeddwn i wedi bwriadu mynd ymlaen i edrych ar sut y gellid defnyddio’r categorïau at y pwrpas o gerdded bryniau de Cymru, ac yn arbennig felly Morgannwg a Gwent. Ond aeth hwn yn fwy o druth nag oeddwn wedi ddisgwyl, felly bydd cofnod arall yn edrych ar hynny yn y dyfodol. Mae’r wybodaeth i gyd i’w gael mewn gwahanol ffurfiau ar y wefan Hill-bagging, ond gobeithio bydd rhai yn gweld y cyflwyniad yma yn ddefnyddiol yng nghyd-destun Cymru, a’r de yn arbennig.
Categorïau
Gellir dosbarthu copaon ar sail eu huchder uwch y môr, neu ar sail eu ‘amlygrwydd’, sef eu hannibyniaeth oddi wrth gopaon eraill gerllaw. Mae rhai categorïau yn cyfuno y ddau fesur, fel y dengys y tabl isod o’r prif gategorïau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru.

Y categori o fynyddoedd sydd yn fwyaf cyfarwydd mae’n siwr yw’r ‘Munros’, sef y copaon hynny yn yr Alban sydd dros 3,000 troedfedd o uchder. Fe’u cofnodwyd gyntaf gan Hugh Munro yn 1891. Ond gan nad oes rheol glir ynghylch beth sy’n cyfri fel copa annibynnol at bwrpas y Munros, mae’r rhestr wedi ei adolygu droeon gan Glwb Mynydda’r Alban, ac mae statws rhai copaon yn dal i fod yn ddadleuol. Yn y rhestr ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn 2012, roedd 282 Munro swyddogol, ac mae dros 5,000 o bobl wedi eu cwblhau i gyd.
Mae’r Munros yn un o sawl categori sydd yn unigryw i’r Alban, sy’n adlewyrchiad o nifer ac uchder cymharol y mynyddoedd yno o’i gymharu a gweddill Prydain ac Iwerddon. Ymysg y categorïau Albanaidd eraill mae’r Corbetts, y Grahams, y Donalds, a hyd yn oed y Donald Deweys.
Y dosbarth cyffelyb ar gyfer copaon dros 3,000 troedfedd y tu allan i’r Alban ydi’r ‘Furths’. Ceir chwech ohonynt yn Lloegr, 13 yn Iwerddon, a pymtheg copa yn Eryri. Mae rhai yn llwyddo i ddringo’r pymtheg Cymreig i gyd mewn un diwrnod, ond mae’r tro y rhoddais i gynnig aflwyddiannus ar hynny yn stori arall! Fel gyda’r Munros eu hunain, gan nad oes trothwy pendant wedi ei osod ar gyfer ‘amlygrwydd’ copa, gellir cael anghytuno ynghylch pa gopaon sydd yn cyfri. Ymddengys fod Carnedd Gwenllian bellach yn cael ei chydnabod fel copa annibynnol ar y sail bod ganddi hi amlygrwydd o dros 30 medr, tra bo statws Castell y Gwynt (amlygrwydd 16 medr) rhwng y ddwy Glyder yn parhau yn israddol .
Daw dosbarthiadau’r Nuttalls a’r Hewitts a ni yn nes at adref. Copaon o dros 2,000 troedfedd (610 metr) a geir yn y ddau gategori, ac mae’n siwr fod hynny yn drothwy digon synhwyrol ar gyfer cyfri fel mynydd yn y cyd destun Cymreig/Prydeinig. Y gwahaniaeth rhwng y ddau ydi bod cael amlygrwydd o 15 medr yn ddigon i gael ar y rhestr a gasglwyd gan Mr a Mrs Nuttall tra bo’r Hewitts yn cynnwys dim ond y rhai gyda dros 30 medr o gwymp. Ceir 190 Nuttall yng Nghymru, gyda 137 ohonynt hefyd yn Hewitts. Mae tri-chwarter y rhain yn y gogledd – yn Eryri a’r Berwyn – tra bo llond llaw i’w cael ym Mhumlumon, Fforest Maesyfed a Chwm Elan.
Mae hyn yn gadael 35 Nuttall yn ne Cymru, pob un ohonynt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r uchaf ohonynt wrth gwrs yw Pen-y-Fan. O’r 35, mae gan 24 amlygrwydd o dros 30 medr, ac felly yn cyfri fel Hewitts hefyd. Dyw Corn Du – chwaer gopa Pen-y-Fan, a’r ail uchaf o holl gopaon de Cymru – ddim yn cyrraedd y safon ar gyfer Nuttall, gan ddisgyn 2 fedr yn brin o’r amlygrwydd angenrheidiol. Byddai dringo y rhain i gyd yn nod digon realistig i rywun sy’n byw o fewn cyrraedd rhwydd iddynt: o edrych ar y rhestr, dwi’n meddwl fy mod wedi gwneud 25 o’r 35, gyda mwyafrif y rhai sydd yn weddill yn y Mynyddoedd Duon. Mae Hill-bagging.com wedi rhannu’r bryniau hyn rhwng y Bannau a’r Mynyddoedd Duon, ond yn y tabl isod rwy wedi torri’r Bannau i lawr ymhellach i’w dair prif rhan, o’r gorllewin i’r dwyrain: Y Mynydd Du, Fforest Fawr, a Bannau Brycheiniog.
Gyda digonedd o fynyddoedd dros 2,000 troedfedd i’w cael yn y Bannau, wnaf i ddim i edrych mewn manylder ar y copaon llai yn yr ardal yna ar hyn o bryd. Ond wrth droi’n golygon tuag at dde Cymru y tu hwnt i’r Bannau, mae’n werth ei nodi ar y pwynt hwn bod y ffordd mae rhai dosbarthiadau’n gweithio o ran y pwys a roir ar ‘amlygrwydd’, yn gallu arwain at ganlyniadau sy’n groes i’r disgwyl: diffyg statws Corn Du, er enghraifft. Mae hyn yn dod yn fwyfwy gwir wrth i ni symud at y categoriau hynny sy’n ystyried amlygrwydd yn unig. Drwy ystyried dim ond annibyniaeth copa, heb roi unrhyw bwys ar ei uchder, gellid dweud bod rhywbeth ‘egalitaraidd’ am y rhestrau yma, ac mae hynny yn gweithio o’n plaid wrth chwilio am fryniau o ddiddordeb yng ngweddill de Cymru.
Fe welwch ar y rhestr o gopaon Eryri a’r Bannau fod rhai ohonynt hefyd wedi eu categoreiddio fel ‘Marilyn’. Hwn yw’r dosbarth uchaf o’r rhai sydd wedi eu seilio ar amlygrwydd yn unig, ac mae’n cynnwys y copaon sydd ag amlygrwydd o 150 medr neu fwy (jôc ydi’r enw Marilyn a roddwyd arnynt – Marilyn Munro…deall?). Efallai byddech yn disgwyl y byddent i’w canfod yn bennaf mewn ardaloedd mynyddig, ond gan na roddir unrhyw bwys ar uchder, nid yw hynny o reidrwydd yn wir. Er enghraifft, dim ond 16 Marilyn sydd ym Mharc Mannau Brycheiniog, ond mae yna 23 i gyd ym Morgannwg a Gwent.
Mae’r un peth yn wir am y dosbarthiadau amlygrwydd eraill, yr Humps (100 medr) a’r Tumps (30 medr). O ganlyniad mae cyfanswm o 280 copa ‘amlwg’ ym Morgannwg a Gwent – felly digon o ddewis ar gyfer hyd yn oed y cerddwr mwyaf brwd. Byddaf yn edrych mewn fwy o fanylder ar y rheiny yn rhan 2…


Hysbysiad Cyfeirio: Y Garth | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Marilyn yr Hump 2 | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Pont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy | Silwria