This is a post about the cycling climb from Pontypridd to Cefn Eglwysilan up Ffordd Penheol Ely, known as the ‘Golf Club climb’, or the Mur de Ponty. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Yn ddiweddar, prynais y llyfr Cycling Climbs of Wales gan Simon Warren. Mae’n gyflwyniad gwych i rai o elltydd mwyaf heriol Cymru ar gyfer y sawl sy’n cael pleser yn eu dringo ar ddwy olwyn. Mae’n berl bach o lyfr, yn llawn addewidion o ffyrdd serth a throellog, golygfeydd godidog, a’r pleser o gyrraedd.

Roedd yn syrpreis bach ychwanegol canfod ffordd yr ydw i’n hynod gyfarwydd â hi ymysg y detholedig rai. Mae’r ffordd o Ddinbych i Llyn Brenig, sydd ar ei mwyaf serth ble mae’n dringo Foel Gasyth, yn 11 milltir o hyd ac yn esgyn cyfanswm o 353 medr. Bedyddiodd yr awdur hi ‘Y Ffordd i Uffern’. Bosib iawn fod y ffaith i mi gael fy magu arni hi rywbeth i wneud a fy hoffter o gerdded a beicio i fyny elltydd heddiw.
Yn y de, mae’r elltydd enwocaf i gyd wedi eu cynnwys fel Bwlch-y-Clawdd, y Rhigos a’r Tymbl, Y Mynydd Du a’r Preseli, yn ogystal a sawl un mwy diarffordd sy’n gwbl ddiarth i mi. Mae’n lyfr bach grêt felly ar gyfer eich ysbrydoli i roi cynnig ar ffyrdd newydd. Ond, fel gydag unrhyw ddetholiad goddrychol gan rywun arall, boed yn ffilmiau, cerddoriaeth, neu’r goliau gorau erioed, mae’n naturiol ein bod yn sylwi hefyd ar y ffefrynau personol sydd heb gael eu cynnwys.

Peidiwch poeni – mae o’n waeth na mae’n edrych
Mynydd yr ydw i’n gyfarwydd iawn ag o ar droed ac ar feic ydi Eglwysilan, yn bennaf oherwydd ei fod o fewn cyrraedd hawdd o Gaerdydd, ond hefyd gan ei fod yn cynnig gymaint o amrywiaeth o fewn ardal fechan. Mae o leiaf pum ffordd i fyny at y pwynt uchaf ar Gefn Eglwysilan (pedair ohonynt yn gorffen ar yr un ffordd), tra bo o leiaf tair ffordd arall i fyny Mynydd Eglwysilan ychydig i’r dwyrain.
Rwy’n siwr y dychwelwn at rai ohonyn nhw yn y dyfodol, ond am y tro rwy am edrych ar y byrraf ond serthaf ohonynt i gyd. Debyg mai dyma’r enwocaf hefyd – daeth yn ail ar restr Cardiffbybike o ddringfeydd mwyaf heriol ardal Caerdydd – sef y ffordd i fyny Ffordd Penheol Ely sy’n cychwyn yng nghanol Pontypridd ac yn gorffen gyda golygfa odidog o gymoedd Rhondda, Cynon a Thaf.
Yn ei chyfanrwydd (gellir osgoir rhan gyntaf drwy ddechrau o ben y comin) mae’n 1.9 milltir o hyd ac yn dringo 270 medr, neu 888 troedfedd. Addas iawn, oherwydd erbyn y diwedd bydd angen is-deitlau i’ch deall chi’n siarad! Ar sail y ffigyrau yn unig, mae’n fwy heriol na sawl allt sydd wedi ei chynwys gan Simon Warren.
Gan ddechrau o’r gylchfan ger Parc Ynysangharad, mae’r ffordd yn serth ar unwaith, a bydd angen dogn o lwc i groesi Ffordd Merthyr heb stopio ar lethr o 13%. Mae’r ffordd yn parhau yn serth wrth ddringo heibio Comin Coedpenmaen, cyn troi i’r chwith i Ty Gwyn Road. Dyna’r hors d’oeuvre wedi ei orffen….

O leia mae’r olygfa bron a bod werth yr ymdrech
Ar ôl ychydig mwy o ddringo serth, cewch seibiant cymharol tan ar ôl pasio mynedfa’r Clwb Golff. Yn raddol wedi hynny, mae’r ffordd yn mynd yn fwy serth eto. Dim byd rhy wael i ddechrau, ond yn raddol bach mae’r llethr yn codi at tua 15% erbyn i chi gyrraedd hanner ffordd.
At ôl croesi’r nant oedd ar y dde i chi, o’ch blaen mae allt syth tua 300 medr o hyd yn dringo rhwng dwy res o goed gan fynd yn fwyfwy serth cyn diflannu i’r chwith rownd cornel. A diolch am y gornel honno, gan ei bod yn cuddio be sydd yr ochr draw. Oherwydd rownd y gornel honno mae pethau yn mynd yn hyll go iawn: cyfres o droeon ar lethr o hyd at 26%, ar wyneb ffordd sy’n rhydd ac yn llawn tyllau, ac i goroni’r cwbl – grid gwartheg. Os ydych chi fel fi, erbyn hyn byddwch am eistedd i fyny i gael eich anadl. Ond o wneud hynny mae peryg i’r olwyn flaen godi oddi ar y ffordd, mor serth yw’r llethr.
Ond mae achubiaeth wrthlaw. Ar ôl un ymdrech olaf yr ochr arall i’r grid tra’n dilyn y ffordd i’r dde, mae’n gwastadu o’r diwedd, a gallwch wneud eich ffordd yn hamddenol ar hyd y ganllath neu ddwy olaf i’r pwynt uchaf un. Efallai, erbyn i chi gyrraedd, byddwch wedi adfer digon o anadl i allu mentro hanner gwen a gwerthfawrogi’r olygfa.
Mae mwy o wybodaeth ar gael fel ‘segment’ ar Strava – cliciwch ar y llun ar y chwith i weld. i’w gweld. Nid fi a’i enwodd yn Mur de Ponty ond mae’n gwbl addas. Ac wn i ddim sut mae rhywun yn mynd fyny mewn 12 munud: does dim cywilydd mewn cymryd bron dwbl hynny, yn enwedig os ydach chi’n gorfod stopio (dim ond i dynnu lluniau wrth gwrs…)