This post describes a short 3 mile walk up Y Garth, along with information on some points of interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Y Garth
Hyd: 3 milltir
Her: hawdd
Amser: tua awr a hanner
Man cychwyn a gorffen (a lluniaeth): tafarn Gwaelod y Garth
Uchder: 307m
Categori: Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Mae’r blog cyffredinol ar fryniau Morgannwg a Gwent ar ei ffordd, ond yn y cyfamser dyma damaid i aros pryd gyda thaith sydyn i fyny un o’r mwyaf poblogaidd ohonynt oll ac, fel mae’n digwydd, Marilyn mwyaf deheuol Cymru.
Wrth reswm, lleoliad y Garth sy’n esbonio pam ei bod yn denu mwy o bobl na llawer o gopaon cyffelyb. Mae’r copa’n hawdd ei gyrraedd ac yn cynnig golygfeydd bendigedig dros Gaerdydd a Môr Hafren yn ogystal a thua’r Bannau i’r gogledd. Siawns bod y rhan fwya o drigolion y ddinas wedi ymweld â hi rywdro, ac mae’n debyg mai dyma’r unig fryn yn lleol y mae llawer un wedi bod ar ei gyfyl.
Er ei fod dim ond chwe milltir o ganol Caerdydd, mae’r Garth a’r ardal o’i chwmpas wedi eu lleoli ar y gefnen sy’n nodi ffin ddeheuol y maes glo, ac felly yn ddaearyddol yn perthyn i ucheldir Morgannwg ac nid i wastadeddau’r Fro. Dim ond yn ddiweddar iawn y daeth hi’n wir ar unrhyw gyfrif i ddweud fod y Garth yng Nghaerdydd. Mor ddiweddar â 1974, pan rannwyd Morgannwg yn dair, bwriwyd bod plwy Pentyrch yn perthyn gyda’r cymoedd yn y ‘Canol’ yn hytrach nag yn y De gyda Chaerdydd a’r Fro. Newidiodd hynny ym 1996, pan ehangwyd ffin y ddinas a’r sir newydd i gynnwys pentrefi Pentyrch a Gwaelod-y-Garth, yn ogystal â’r Garth ei hun. Os gwireddir cynlluniau presennol y cyngor, bydd maestrefi’r ddinas wedi cyrraedd ei throed o fewn degawd.

Edrych yn ol o’r copa
Gellir mynd i fyny’r Garth o sawl cyfeiriad, ond mae’n briodol taclo unrhyw fryn o’i waelod, ac yn achos y Garth gellir gwneud hynny’n llythrennol o bentref Gwaelod-y-Garth. O’r cyfeiriad yma, ceir golygfeydd rhagorach dros gwm Taf, ac mae’r llethr yn ddigon serth i chi deimlo eich bod wedi dringo bryn sylweddol.
Mae sawl llwybr posib o’r pentref a’r symlaf wrth reswm fyddai mynd yn syth i fyny ac i lawr yn ôl yr un ffordd. Ond mae’r map yn dangos llwybr sy’n osgoi gormod o ail-droedio, ac yn cynnig ychydig o amrywiaeth. Mae’r daith yn ddigon syml fel nad oes angen cyfarwyddiadau i gyd-fynd a’r map, ond mae’r rhifau yn nodi dau fan o ddiddordeb ar y ffordd.
Ar ben y Garth mae cadwyn o bum crug crwn o’r Oes Efydd – tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl – yn ymestyn ar hyd y gefnen wastad. Mae’r OS wedi gosod piler ar ben yr uchaf ohonynt (1), a’r gred yw mai’r domen yma oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Ffynnon Garw’ yn y nofel The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain a addaswyd yn ffilm ym 1995. Roedd yr awdur Christopher Monger yn frodor o Ffynnon Taf, yr ochr arall i’r afon o’r Garth. Gymaint oedd poblogrwydd y Garth a’r domen, yn sgil llwyddiant y ffilm nes bu’n rhaid i Gyngor Cymuned Pentyrch (perchnogion y Garth ers rhodd gan ystâd y Bute yn y 1970au) osod bwrdd gwybodaeth i esbonio’r gwir hanes, ac i rybuddio ymwelwyr rhag ei difrodi!
Gweddillion prin y Colliers’Am gyfnod mae’r llwybr yn dilyn ochr y bryn, ychydig uwchben y ffordd fynydd rhwng Gwaelod y Garth a Phentyrch. Rhwng y llwybr a’r ffordd mae nifer o adfeilion, gan gynnwys sawl hen fwthyn o’r 19eg ganrif. Yn eu hamser, gwelodd y bythynod hyn gyfarfodydd crefyddol ac ambell drasiedi. Y mwyaf gorllewinol o’r adfeilion (rhaid troi i’r dde a mynd i lawr o’r prif lwybr i’w weld) oedd tafarn y Colliers Arms ei hun (2). Yn ogystal â bod yn gyrchfan i weithwyr glo a haearn lleol, roedd yn gartref i gangen o gymdeithas gyfeillgar y Gwir Iforiaid ac yn cynnal eisteddfod flynyddol. Ceir blas ar weithgareddau’r Iforiaid yma, a cherdd o fawl yma. Ond nid pawb oedd yn credu bod holl weithgareddau yr Iforiaid yn rhinweddol. Targedwyd y Colliers ar noson o fyrglera yn yr ardal ar 10 Hydref 1867. Dydw i heb ddod o hyd i ddyddiad penodol ar gyfer cau’r dafarn, ond mae’n anochel y byddai diwedd y gwaith haearn yn yr 1880au wedi effeithio ar fusnes ac efallai fod pethau wedi mynd ar chwâl erbyn dechrau’r 20fed ganrif?
Yn anffodus, tydi peint yn y Colliers efo’r Iforiaid ddim yn opsiwn heddiw, ond mae dewis da o fwyd a chwrw yn nhafarn Gwaelod y Garth.

Hysbysiad Cyfeirio: Craig yr Allt | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Llanharan i Ffynnon Taf | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Mynydd Dinas a Foel Fynyddau | Silwria