Marilyn yr Hump 2


This post provides an overview of the highest and most prominent hills in Glamorgan and Gwent. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Yn rhan 1 Marilyn yr Hump, edrychais ar y categorïau sy’n cael eu defnyddio i ddosbarthu bryniau a mynyddoedd Cymru yn ôl eu huchder a/neu amlygrwydd, gan roi rhywfaint o sylw i’r prif fynyddoedd sylweddol sydd i’w cael yn y Bannau. Blog ‘damweiniol’ oedd hwnnw mewn gwirionedd, ddaeth yn angenrheidiol pan aeth be oedd i fod yn un paragraff agoriadol i ddarn ar fryniau Morgannwg a Gwent yn dri, yn chwech, yn ddwsin! Rwan felly, gallwn symud ymlaen at yr hyn oedd fod dan sylw yn y lle cyntaf…


Y bwriad oedd edrych ar fryniau a chopaon ardal sydd, er yn fynyddig ei natur, ddim yn gyrchfan adnabyddus ar gyfer cerddwyr bryniau yn y ffordd y mae rhai ardaloedd ucheldir cyffelyb. Yn wir, mae damwain hanesyddol yn golygu fod Blaenau Morgannwg a Gwent yn un o’r ardaloedd mynyddig prin sy’n cael ei diffinio a’i hadnabod yn bennaf nid gan ei bryniau sylweddol, ond gan y darnau cul o iseldir a geir rhyngddynt: y cymoedd.

Unwaith eto, mae’r holl wybodaeth a geir yma wedi ei gael o wefan Hill-bagging, ond gan fod y wefan honno wedi rhannu Cymru i ranbarthau ychydig bach yn od, ac nad oes modd gweld y wybodaeth am Forgannwg a Gwent mewn un lle, rwy wedi trosglwyddo’r wybodaeth i ffeil Excel y gellir ei gweld a’i lawr-lwytho ar waelod y cofnod hwn. Fe welwch fod cyfanswm o 272 copa yn yr ardal sydd yn ddigon annibynnol i gael eu hystyried yn fryniau yn eu rhinwedd eu hunain.

Mae’r ddau dabl uchod yn dangos y categorïau sy’n berthnasol i’r ardal, ac sydd i’w cael yn y daenlen. Mae’r cyntaf yn dangos y tri chategori sy’n ystyried annibyniaeth copa yn unig, tra bo’r ail yn dangos yr amryfal gategorïau uchder y mae copaon gyda dros 30 medr o gwymp yn perthyn iddynt. Mae’r ddau dabl yn dangos sawl copa sydd ym mhob categori ym Morgannwg a Gwent.

Uchder

Mae 18 mynydd ym Morgannwg a Gwent sydd dros 500m, a gellir eu rhannu yn dri grŵp daearyddol..

Gogledd Mynwy

Chwarel y Fan (Llun: Wikipedia)

Rhaid cyfaddef, doeddwn i heb sylwi tan rwan y graddau mae gogledd Sir Fynwy yn gorgyffwrdd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, parc yr ydw i wastad wedi tueddu i feddwl amdano fel ‘de Powys’. Rhwng Blaenafon a’r Fenni, mae’r parc yn ymestyn bys tenau i mewn i’r maes glo er mwyn cynnwys y Blorens o fewn ei ffiniau. Ymhellach i’r gogledd mae Sir Fynwy hithau, am resymau hanesyddol sy’n mynd yn ôl at Arglwyddi’r Mers, yn estyn i berfeddion y Mynyddoedd Duon er mwyn hawlio Dyffryn Ewias iddi eu hun.

O ganlyniad, mae copa uchaf Morgannwg a Gwent o gryn dipyn, Chwarel y Fan (679m), i’w ganfod reit yng ngogledd-ddwyrain yr ardal yn y Mynyddoedd Duon, ar y ffin efo Powys, a thafliad carreg o’r un â Lloegr. Dyma’r unig Hewitt yn y ddwy sir, ond mae tri bryn arall dros 500 medr (Deweys) yng ngogledd Sir Fynwy ac o fewn Parc Cenedlaethol y Bannau: Pen-y-fâl (Sugar Loaf) (596m), y Blorens (561m) a Hatterall Hill (531m). Er ei uchder, tydi Chwarel y Fan ddim yn sgorio’n uchel o ran ei amlygrwydd – Tump bach ydyw ar grib hir gyda chopaon uwch i’r gogledd a’r gorllewin. Er nad ydi hyn cweit ar yr un raddfa a sefyllfa’r Ffindir, mae ychydig yn siomedig efallai na allai ein bryn uchaf fod yn un ychydig yn fwy ‘amlwg’….

Craig y Llyn

Craig y Llyn a’i chriw (Map: www.hill-bagging.co.uk)

Craig y Llyn ydi’r ail fryn uchaf at ein rhestr: y bryn uchaf yn y Forgannwg hanesyddol, a chopa ardal ddaearegol y maes glo. Yn 600m union o uchder mae’n crafu i mewn i’r categori Simm. Yn wahanol i Chwarel-y-Fan, ni ellir cwestiynu ei annibyniaeth, gan ei fod tra-arglwyddiaethu ar ardal eang o dde Cymru rhwng y Bannau a’r môr, gydag amlygrwydd o 392m. O fewn 7 milltir i Graig y Llyn, ac ar yr un talp o dywodfaen, ceir wyth copa arall dros 500 medr, i gyd yn ‘blant’ i Graig y Llyn: Comin Hirwaun (515m) i’r dwyrain, a thua’r de: Werfa (568m), Twyn Crugyrafan (559m), Mynydd Caerau (555m), Mynydd Ton (539m), Mynydd Blaengwynfi (528m), Mynydd Tynewydd/Mynydd Ystradffernol (518m) a Mynydd Ynyscorrwg (502m).

Blaenau Gwent

Byddai’n daclus iawn petai Mynydd Coety (578m) yn drydydd ar y rhestr, ond Pen y Fâl sy’n hawlio’r lle hwnnw, gan wthio Mynydd Coety i’r pedwerydd safle. Wedi ei leoli i’r gorllewin o Flaenafon, mae ei lethrau yn codi yn serth y tu ol i Amgueddfa’r Pwll Mawr hyd at y copa gwastad, gwbl ddinodwedd. Mae’n Farilyn gydag amlygrwydd o 231 medr, a’r uchaf o dri Dewey cyfagos ar y gefnen rhwng yr Ebwy Fach a Chwm Afon: Cefn Coch (571m, ar ochr Torfaen y ffin) a Gwastad (551m) yw’r lleill. Mae’r ddau gopa arall ym Mlaenau Gwent yn annibynnol o Fynydd Coety ac yn sefyll ar ben eu cribau eu hunain: Mynydd Carn-y-cefn (550m) rhwng yr Ebwy Fawr a’r Ebwy Fach, a’r Domen Fawr (504m) rhwng yr Ebwy Fawr a’r Sirhywi. Gellid dadlau mai i’r grŵp yma mae’r Blorens yn perthyn hefyd, gan ei bod yn perthyn yn ddaearyddol i Fynydd Coety yn hytrach na’r Mynyddoedd Duon, er ei bod o fewn ffiniau Sir Fynwy a’r Parc Cenedlaethol.

Marilyn a’r Humps

Marilyns De Cymru (Map: www.hill-bagging.co.uk)

Gwelwn felly fod y copaon uchaf i gyd i’w ganfod yng ngogledd Morgannwg a Gwent, ac mae hynny i’w ddisgwyl wrth gwrs. Fe soniais yn rhan 1 y gall y categorïau sydd yn ystyried amlygrwydd yn unig arwain at ddosbarthiad daearyddol mwy eang o fryniau o ddiddordeb, ac mae edrych ar Marilyns a Humps Morgannwg a Gwent yn cadarnhau hynny. Tra bo’r copaon uchaf wedi eu grwpio gyda’i gilydd, mae’r Marilyns a’r Humps i’w canfod ar draws yr ardal, gydag o leiaf un ym mhob sir fodern heblaw Bro Morgannwg. Os yw’r Marilyns wedi eu crynhoi yn unrhywle, yna yn y bryniau mwy deheuol a gorllewinol mae hynny, ac nid gyda’r bryniau uchaf tua’r gogledd.

Pen y Fâl (Llun: Wikipedia/Hugh McCann)

Mae 23 Marilyn i gyd, a dim ond tri ohonynt sydd wedi eu crybwyll eisoes: Craig y Llyn, Mynydd Coety a Pen-y-fâl. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd ag o ddim yn synnu o glywed mai’r olaf yw’r mwyaf annibynnol ohonynt i gyd, gyda 411 medr o gwymp yn ei wneud yn amlwg iawn yn y dirwedd o’i gwmpas. Mae Ysgyryd Fawr (486m) yn Farilyn arall fydd yn adnabyddus i lawer.

Mae’r rhan fwyaf o’r Marilyns rhwng 300 a 500 medr o uchder, a’r byrraf ohonynt ydi Mynydd Dinas (258m): efallai na fydd yr enw yn gyfarwydd, ond mae’n edrych dros Aberafan a Phort Talbot, ac yn amlwg iawn o’r M4 wrth fynd tua’r gorllewin. Mae Craig-yr-allt (273m) a’r Garth (307m), dau fryn sy’n hawdd iawn eu cyrraedd o Gaerdydd, hefyd ymysg y byrraf, yn ogystal â Mynydd Drumau (272m) ar gyrion Abertawe a Wentwood (307m) ger Casnewydd.

O ran yr Humps, mae 29 i gyd, eto wedi eu dosbarthu yn eang ar draws Morgannwg a Gwent. Ymysg y rhai mwyaf adnabyddus mae’r Blorens (561m), Ysgyryd Fach (271m), Comin Caerffili (271m) a Rhossili Down (193m). Yn wir, er nad yw’n uchel, mae’r olaf yn codi mor serth uwchlaw Bae Rhosili a gwastadedd y Gwyr, dim ond colli allan ar fod yn Farilyn y mae, gydag amlygrwydd o 144 medr.

——————

Dyna ddigon o ran cyflwyniad felly. Gobeithio ei fod yn rhoi blas ar y cyfoeth o fryniau sydd i ymweld â hwy yn yr ardal ‘anffasiynol’ yma. Gall unrhyw un sydd â diddordeb astudio’r tablau yn fanylach, ond y bwriad rŵan ydi mynd ati i’w cerdded. Dydw i ddim am osod nod o gasglu’r Marilyns neu’r Deweys i gyd o fewn rhyw gyfnod penodol, ond gobeithio yn wir y byddan nhw i gyd yn ymddangos yma ymhen amser ynghyd ac ambell fryn o gategorïau, ac ardaloedd, eraill.

Gadael sylw