This post describes three different routes for cycling from Cardiff to Carmarthen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
O dro i dro byddaf yn cael cyfle i feicio rhwng Gaerdydd a Chaerfyrddin, a death yr achlysur diwethaf dros y penwythnos. Rwy bellach wedi rhoi cynnig ar dair ffordd wahanol: ysgwnni oes gan rhywun awgrymiadau eraill fyddai werth rhoi cynnig arnynt?
Cliciwch ar y mapiau isod i agor y dudalen berthnasol yn Strava a gweld mwy o fanylion…
Ffordd 1: Y traws-Bannau
Pellter: 85.9 milltir Dringo: 4,925tr Amser symud: 6 awr 17 munud
Y rhan fwyaf o’r dringo yn digwydd yn y canol rhwng Llanymddyfri neu Aberdâr a’r bwlch rhwng Fan Nedd a Fan Llia yn y Bannau. Ffyrdd ddim rhy brysur ar y cyfan. Golygfeydd ysblennydd yn y Bannau a sbin digon dymunol lawr dyffryn Tywi.
Ffordd 2: Ar hyd y Gwastadeddau
Pellter: 82.5 milltir Dringo: 2,674tr Amser symud: 7 awr 29 munud
Mi es i’r ffordd yma yn dilyn rhywun arall oedd yn ymdrechu i gadw at y rhwydwaith beicio cenedlaethol gymaint a phosib. Lot o lwybrau a lonydd tawel felly, ond ambell i ddarn ar hyd ochr ffordd fawr. Angen canolbwyntio er mwyn cadw at y llwybr iawn. Arafach o’r herwydd, er y mwyaf gwastad a hamddenol o’r tri o dipyn. Am roi cynnig arall arni rywbryd, gan ddilyn trywydd ychydig yn fwy uniongyrchol.
Ffordd 3: Y rollercoaster rhyng-sirol
Pellter: 78.1 milltir Dringo: 4,653tr Amser symud: 5 awr 49 munud
Y fyrraf o’r dair, ond nid yr hawsaf, gyda chyfnodau gwastad yn brin tan y deng milltir olaf ac erbyn hynny roedd hyd yn oed yr elltydd lleiaf yn brifo. Yr uchafbwynt (yn llythrennol!) ydi croesi’r Rhigos o’r Rhondda i Gwm Nedd, ond gallech osgoi tua 1,000 troedfedd o ddringo drwy fynd drwy Gwm Cynon yn lle, heb ychwanegu at y pellter. Ar y ffordd fe ewch drwy Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Castell-nedd Port Talbot (eto), Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot (eto), Sir Gâr (eto), Gastell-nedd Port Talbot (eto), a Sir Gâr (eto) i orffen! Gan fod cymaint o’r siwrnai drwy bentrefi, ar y cyfan mae’r ffyrdd yn weddol dawel gyda chyfyngiadau cyflymder. Fy ffefryn o’r dair.


