This post describes a 6 mile circular walk up Mynydd and Cefn Eglwysilan from Senghennydd, along with information on some points of interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Cefn Eglwysilan
Hyd: 6 milltir
Her: canolig
Amser: tua 3 awr
Man cychwyn a gorffen: Senghennydd
Uchder: 382m
Categori: Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive

Senghennydd
Ar ôl troedio ffin ddeheuol y maes glo ar y Garth a Chraig yr Allt, mae’n bryd symud i berfeddwlad Blaenau Morgannwg a does unman gwell i gael cyflwyniad i dirwedd yr ardal honno na Chefn Eglwysilan. Yn wir, go brin fod unrhyw fryn wedi ei leoli’n well o fewn ei gymdogaeth, oherwydd o’r copa gellir edrych nid yn unig i’r ddau gyfeiriad ar hyd cwm Taf, ond hefyd i fyny cymoedd y Rhondda a Chynon: y tri chwm fel sbôcs olwyn yn rheiddio o’r both.
Mae sawl ffordd posib o gyrraedd y copa, gan gynnwys cerdded dim mwy na rhyw 300 medr o’r ffordd fynydd gerllaw. Ond ble mae’r boddhad yn hynny? Byddai cychwyn ym Mhontypridd yn rhoi siwrne serth ac uniongyrchol, ond mi benderfynais yn hytrach gychwyn o’r ochr arall yn Senghennydd, yn rhannol er mwyn cynnwys is-gopa Mynydd Eglwysilan ar y ffordd.
Gan gychwyn wrth y cloc/cofeb rhyfel yng nghanol y pentref, ewch i lawr High St cyn troi

Maes Diofal a Mynydd Eglwysilan
i’r dde lawr Lower Brynhyfryd Terrace, ac yna i’r dde eto i ganfod llwybr sy’n dringo’r llethr ar y chwith. Mae’r llwybr cyhoeddus yn eich tywys drwy nifer o gaeau agored nes cyrraedd tir comin ger ffermdy Maes Diofal, lle bu’r diwygiwr Methodistaidd Hywel Harris yn pregethu ym 1738. Ar ôl dilyn ymyl y comin am gyfnod, fe welwch Fynydd Eglwysilan ar y chwith o’ch blaen. Oddi yno, rhaid dilyn un o’r nifer o lwybrau tua’r gorllewin a chroesi’r ffordd fynydd rhwng Nelson a Senghennydd cyn parhau yn yr un cyfeiriad a chanfod eich hun unwaith eto gyda wal gerrig at y chwith i chi.

Clawdd Senghennydd
Cyn hir, mae’r llwybr yn rhannu yn ddau, a dylech droi i’r dde, ond mae’n werth edrych yr ochr arall i’r wal yn gyntaf er mwyn gweld un o’r rhannu mwyaf amlwg o Glawdd Senghennydd. Mae’r clawdd yn ei gyfanrwydd yn dros 7 milltir o hyd ac amgylchynu rhan uchaf cwm Aber. Wedi ei godi yn y 13eg ganrif, gyda ffos ar yr ochr fewn a ffens ar y top, roedd yn amgàu parc ceirw at ddefnydd arglwyddi Normanaidd newydd Caerffili. Mae’r parc wedi gadael ei ôl ar enwau yr ardal, gan gynnwys ffermdai Parc Mawr, Parc Newydd a Ty’n y Parc, yn ogystal Nant Cwm Parc – prif lednant Nant yr Aber.

Edrych dros y cwm o Parc Mawr
Mae gan Gefn Eglwysilan ddau gopa o’r un uchder – un gyda mastiau arno, a’r llal gyda philer yr OS. Mae’r trac yn mynd a chi at y mastiau, ac oddi yno mae’r ail gopa yn syth o’ch blaen, ond mae’n werth dilyn y llwybr sy’n cadw i’r dde er mwyn osgoi’r tir mwyaf corsiog yn y pant rhwng y ddau. O’r ail gopa, dylech droi tua’r dwyrain i ganfod llwybr arall fydd yn eich arwain eto at y wal sych ar ffin y comin. Ewch drwy’r giât a dilyn y llwybr clir i lawr heibio Parc Mawr ac yn ôl i’r man cychwyn yn Senghennydd.

Hysbysiad Cyfeirio: Mapio Cwm yr Aber | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Cefn Eglwysilan: tro bach hamddenol | Silwria