Fe ddechreuodd taith Mynydd a Chefn Eglwysilan yn Senghennydd, ym mlaen Cwm Aber: un o gymoedd llai’r maes glo. Wrth edrych ar hen fapiau Ordnance Survey o’r ardal, fel y byddaf yn gwneud yn aml wrth baratoi i fynd i ardal newydd, fe sylwais fod yna rywbeth diddorol am y mapiau o’r cwm yma, nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen.
Cwm Aber, sydd hefyd wedi cael ei adnabod yn y gorffennol fel Cwm Tridwr a Chwm Parc, oedd un o’r rhannau olaf o’r maes glo i gael ei ddatblygu. Ar ddiwedd yr 1880au, pan oedd diwydiant glo’r Rhondda yn ei anterth, a phentrefi mor ddiarffordd â Glyncorrwg, Blaengarw a Bedlinog eisoes ar y map, roedd y cwm bach yma ar gyrion Caerffili heb ei gyffwrdd.
Fel mewn sawl ardal arall, pan drefolwyd yr ardal yn y pen draw, datblygodd megis dros nos, ymledodd fel tân gwyllt, a ddaeth a thrasiedi i’w ganlyn. Yn wir, heblaw bod trychineb ddiwydiannol fwyaf Prydain wedi digwydd ym mhwll yr Universal ym 1913, debyg na fyddai Senghennydd a Chwm Aber yn ddim mwy na throednodyn bach yn hanes y maes glo. Ond y cyfle unigryw mae datblygiad hwyr Cwm yr Aber yn ei roi i rywun fel fi sy’n hoff o bori hen fapiau, ydi bod posib ei olrhain o’r cychwyn cyntaf drwy fapiau County Series yr Ordnance Survey, a gyhoeddwyd gyntaf yn yr 1870/80au, pan oedd y cwm yn dal i fod yn gwbl wledig.
Mae’r map cynharaf, a gyhoeddwyd ym 1885, yn dangos nad oes dim yn rhan uchaf y cwm ble mae Senghennydd heddiw ond llond dwrn o ffermdai. Ymhellach i lawr y cwm, mae casgliad o adeiladau ar y gyffordd a ddaeth ymhen amser i fod yn ganolbwynt pentref Abertridwr. Adeiladau’r economi wledig ydynt: melin, efail, a thanerdy, ynghyd a thafarn y Pantêg (agorwyd 1864) a chapel yr Annibynwyr, Adulam (adeiladwyd 1856), ynghyd a llond llaw o fythynnod. Mae melin arall nepell i’r dwyrain ar y ffordd i Gaerffili. Er y darlun o dirlun gwledig di-newid fodd bynnag, mae yna gliw bach i’r hyn sydd i ddod: dau shaft treialu, un yn Abertridwr ei hun ac un ymhellach i’r gogledd.
Suddwyd pwll yr Universal ym mhen uchaf y cwm ym 1891 a phan ddechreuodd gynhyrchu glo bum mlynedd yn ddiweddarach roedd 236 o ddynion yn gweithio yno. Erbyn troad y ganrif roedd yna yn nes at 1,500. Mae’r ail fap, a fapiwyd 1896-99, yn dangos fod craidd y pentref presennol yn ei le, yn cynnwys ysgolion, gwesty (Gwern y Milwr), tafarn (yr Universal), Swyddfa’r Post, eglwys, a pum capel – i gyd wedi eu hadeiladu rhwng 1895-99. Agorwyd cangen Aber rheilffordd y Rhymni yn 1894. Mae’r tyddyn oedd yn dwyn yr enw hynod Bendy’r Hwch wedi ei lyncu gan adeiladau’r Universal, tra bod y drafodaeth ddifyr yma o enwau ffermydd yr ardal yn tystio fod Gwern y Milwr, a roddodd ei enw i’r gwesty yng nghanol y pentref, bellach yn adfail. Ceir blas ar y croeso oedd i’w gael yn y hwnnw, ac o ba mor ddiarffordd a ‘newydd’ yr oedd Senghennydd yn 1898 yn yr adroddiad papur newydd yma o siwrnai anturus yno o Bontypridd.
Roedd Abertridwr tua phum mlynedd y tu ôl i Senghennydd o ran datblygiad, gyda’r gwaith o suddo pwll y Windsor heb gychwyn tan 1895, a glo heb ei godi tan 1902. Mae amseriad ffortunus y mapio yn golygu fod hynny’n cael ei adlewyrchu ar y map, gyda dim ond hanner dwsin o derasau a Swyddfa’r Post wedi ymddangos ers y map cyntaf. Mae’r rheilffordd newydd yn mynd drwy ganol yr hen dreflan, a nifer o chwareli bach i gyflenwi carreg adeiladu wedi ymddangos, ond dim golwg eto o gapeli na thafarndai newydd.
Buan iawn y datblygodd Abertridwr yn bentref glofaol cyflawn, gyda chwe chapel newydd yn cael eu codi o fewn y blynyddoedd nesaf, a Neuadd y Gweithwyr yn agor yn 1911. Erbyn trydydd argraffiad y map yn 1919, mae ôl troed y pentref yn debyg iawn i’r hyn y mae’n dal i fod ganrif yn ddiweddarach, gyda rhesi a rhesi o dai yn ymestyn i’r gogledd, de a ‘r dwyrain, tair tafarn/gwesty newydd (yr Aber, y Royal a’r Windsor), a hen anheddau Aber Fawr, Ty’n y Parc, a’r Mill Cottages wedi cael eu hamgylchynu yn llwyr gan y pentref newydd.
Erbyn 1919, mae ol troed Senghennydd hefyd wedi cyrraedd ei faint terfynol fwy neu lai, gyda datblygiad ‘rhuban’ ar hyd y briffordd yn golygu ei fod wedi cyrraedd ymyl ogleddol Abertridwr wrth y Windsor Hotel. Mae’r rhuban yma o ddatblygiad yn cynnwys dau gapel, a dwy eglwys newydd (in Gatholig), yn ogystal â Chlwb Ceidwadol.
Yn ogystal â’r Windsor Hotel ar ffin ddeheuol y pentref, mae tafarn newydd y Leigh yn y canol, mewn adeilad oedd eisoes ar y map blaenorol. Bu trwyddedu tafarndai a gwestai yn ystod y cyfnod yma yn fater dadleuol tu hwnt, ac o’r herwydd bu perchnogion Gwern y Milwr a’r Leigh wedi canfod eu hunain am wahanol gyfnodau yn methu a chael trwydded ar gyfer adeiladau sylweddol yr oeddynt wedi buddsoddi ynddynt. Gellir olrhain rhywfaint o’r hanes drwy adroddiadau papurau newydd o 1896, 1897, 1898, 1899 a 1901. Ni chafodd trydydd gwesty, y Parc, fyth drwydded alcohol, ac fe’i addaswyd yn hytrach yn sefydliad gweithwyr (‘Club’ ar y map mwyaf diweddar) ac erbyn heddiw mae’n ganolfan gymunedol ac yn gartref i Amgueddfa Dreftadaeth Cwm Aber.
Wrth reswm, dim ond amlinelliad moel iawn o ddatblygiad a hanes ardal a ellir ei gael drwy edrych ar fapiau: rhaid edrych fan arall am hanes dynol a chymdeithasol. I unrhyw un sydd â diddordeb, mae’r ddau lyfr a ganlyn yn rhoi hanes cynhwysfawr o ddwy gymuned Senghennydd ac Abertridwr: J Basil Philips, (1991): Abertridwr Through the Ages a Michael Lieven, (1994): Senghennydd: Universal Pit Village, 1890-1930.
- Daw’r holl ddelweddau mapiau o wefan old-maps.co.uk. Cliciwch at y delweddau i fynd i weld y map gwreiddiol at y wefan. Copyright and database rights Old-Maps.co.uk 2017. All rights reserved.





