This post describes a 7.5 mile circular walk up Mynydd Machen from Lower Machen, with an additional section along the Rhymney river. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Mynydd Machen
Hyd: 7.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 4 awr
Man cychwyn a gorffen: Machen Isaf
Uchder: 362m
Categori:Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Gyda thri o gopaon cyfleus (o Gaerdydd o leiaf) de Morgannwg wedi eu cwblhau, mae’n amser croesi’r ffin hanesyddol i Sir Fynwy am y tro cyntaf. Dilynai’r ffin hanesyddol rhwng Morgannwg a Gwent yr un hŷn fyth rhwng cantrefi Senghennydd a Gwynllŵg. Y ffin honno oedd yr afon Rhymni o’i tharddiad i’r môr, ond torrwyd ar y dilyniant hanesyddol gydag ail-drefnu 1974 pan osodwyd y ffin rhwng siroedd newydd Morgannwg Ganol a Gwent yn bennaf ar hyd y gadwyn o fryniau i’r dwyrain – y gadwyn sy’n cynnwys Mynydd Machen. Golygodd hyn rannu plwy hanesyddol Machen, gyda’r rhan uchaf ym Morgannwg Ganol a’r hanner isaf yng Ngwent: rhaniad sy’n parhau heddiw gyda’r naill yn sir fodern Caerffili a’r llall yng Nghasnewydd.

Eglwys Mihangel Sant, Machen Isaf
Dyma ardal o bwys strategol dros y canrifoedd, ble mae dyffryn y Rhymni yn lledu wrth iddi ymlwybro o’r Blaenau tua’r Fro (ystyr Machen ydi ‘gwastatir Cein’, gyda Cein yn enw person sy’n anhysbys erbyn heddiw). A thra datblygodd pentref modern Machen o gwmpas y diwydiannau trwm o’r 17eg ganrif ymlaen, mae canolbwynt hanesyddol yr ardal ymhellach i lawr y dyffryn ym Machen Isaf wedi cadw ei naws wledig a hynafol.
Nid dyma’r ffordd fyrraf na chyflymaf i fyny Mynydd Machen, ond mae’n daith sy’n caniatáu ymweld ag ambell i le o ddiddordeb hanesyddol yn y dyffryn islaw hefyd. Os byddai’n well gennych gasglu’r copa a mynd adref yna fe welwch o’r map fod yna opsiynau digon syml ar gyfer gwneud hynny, gan ddechrau ym Machen Uchaf neu Isaf.

Edrych tua Plas Machen
Cychwynwch wrth eglwys Mihangel Sant (1) ym Machen Isaf; eglwys ganoloesol sydd ar agor i’r cyhoedd ar brynhawniau Sul yn yr haf, gyda cherrig coffa y teulu Morgan o Dredegar yn brif atyniad. Roedd y Morganiaid yn un o deuluoedd mwyaf dylanwadol de Cymru am ganrifoedd lawer, ac un o’u tras oedd y mor-leidr enwog Henry Morgan a ddaeth yn lywodraethwr Jamaica yn y 17eg ganrif ac a roddodd ei enw i’r rum Captain Morgan.
Oddi yno, croeswch y ffordd fawr – yn y cyffiniau yma y canfuwyd olion Rhufeinig yn awgrymu bodolaeth posib gweithfeydd plwm. Dilynwch y llwybr ar draws y cae tuag at yr afon – ar y ffordd fe gewch olygfa dda o Blas Machen, prif gartref y Morganiaid nes iddyn nhw ‘uwchraddio’ i Dy Tredegar yn y 17eg ganrif. Dyw’r hyn sydd i’w weld heddiw ond treian maint y plas yn ei anterth. Y Morganiaid a adeiladodd y Bont Haearn (2) dros y Rhymni hefyd, er mwyn hwyluso’r siwrnai o Gastell Ruperra (un arall o’u cartrefi moethus) i’r eglwys a’u hystadau yn ardal Machen.

Y Bont Haearn
O’r bont, dilynwch lan yr afon i gyfeiriad y Pandy (3), ac oddi yno, dilyn llwybr yr hen ffrwd i adfeilion yr hen felin (4). Rhaid dilyn y ffordd fawr am gyfnod nes cyrraedd Church Street ym Machen (5). Yn wahanol i’r eglwys ym Machen Isaf, adeilad modern ydi Eglwys Sant Ioan, yn dyddio nôl i’r 19eg ganrif pan oedd poblogaeth y rhan yma o’r plwy yn tyfu’n gyflym o amgylch y gweithfeydd haearn a glo. Trowch i’r chwith ar ôl yr eglwys, yna i’r dde i fyny Penrhiw Lane – dyma ble mae dringo Mynydd Machen yn dechrau o ddifri!

Pen-y-trwyn a Cwm Sirhywi
Parhewch ar hyd y ffordd, ac yna ar hyd y trac caregog sy’n parhau i’r un cyfeiriad i fyny ochr y bryn. Wrth i chi godi, mae golygfa o’r cwm islaw yn agor yn raddol o’ch blaen nes i’r llwybr ddod yn fwy gwastad wrth iddo droi i’r dde ar draws pen y grib. Buan y dewch at drac coedwigaeth: dylech ei groesi a throi i’r dde i ddilyn y llwybr llai amlwg sy’n mynd i’r un cyfeiriad a’r trac ond ar yr ochr arall i’r ffens. Mae’r llwybr yn serth gyda cherrig rhydd am gyfnod cyn dod yn fwy gwastad eto wrth basio tomen rwbel ac agosáu at y copa. Gydol y cymal o’r daith, yma ceir golygfeydd eang o gymoedd Sirhywi ac Ebwy islaw, tra gyferbyn a chi ar yr ochr arall i’r cwm mae Mynydd y Lan – bryn arall y byddaf yn ymweld ag o cyn hir.

Copa Mynydd Machen
Mae’r copa y tu ôl i nifer o fastiau, wedi ei nodi gan biler yr OS a gyda mainc gyfleus am hoe fach. Wrth gyrraedd y copa mae’r olygfa tua’r de yn newid yn llwyr, gan agor allan i gynnwys holl ardal aber Hafren: o’r ddwy bont i Gasnewydd a Chaerdydd, Ynysoedd Echni a Ronech a thu hwnt i dde-orllewin Lloegr.
O’r copa, parhewch yn yr un cyfeiriad, i lawr llethr eithaf serth i gychwyn yna traciau mwy gwastad. Ymhen amser mae’r trac yn troi’n ffordd, ac fe welwch ffermdy Llan-danglws. Mae llwybr cyhoeddus ar y dde jest cyn y tŷ, ac yn croesi cae cyn pasio drwy goed a dod i fuarth fferm Pen-y-parc. Ewch yn eich blaen ar draws y buarth ac i lawr lôn y fferm, gan basio dwy set o fythynnod ar eich chwith. Ar ôl y pwythyn olaf, mae’r lôn yn dod i gae agored a dylech droi i’r chwith oddi arni a dilyn ymyl y cae.

Castell Meredydd
Yn y coed ar y chwith, yr ochr arall i nant fechan, mae adfeilion Castell Meredydd (6) a godwyd gan Meredydd Gethin, un o dywysogion Gwynllwg, yn y 13eg ganrif – yr unig gastell Cymreig sydd wedi goroesi yng Ngwent. Parhewch i ddilyn ymyl y cae nes y dewch at lwybr amlwg yn mynd i lawr rhwng y coed i gae arall islaw. Oddi yno trowch i’r chwith ar hyd y trac o dan y bont, ac yna i’r chwith eto ar hyd ffordd fechan tuag at The Volland. Pan ddewch at ben y ffordd hon, ewch yn blaen ar draws y cae i ddod a chi’n ôl at yr eglwys ym Machen Isaf.
Hysbysiad Cyfeirio: Mynydd y Lan | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Llanharan i Ffynnon Taf | Silwria
Hysbysiad Cyfeirio: Ffynnon Taf i Crosskeys | Silwria