Mynydd Twyn Glas


This post describes a 4 mile circular walk up Mynydd Twyn-glas  from Upper Cwmbrân. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd Twyn Glas

Hyd: 4 milltir
Her: hawdd
Amser: tua 2 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmbrân Uchaf
Uchder: 472m
Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey


Map a Manylion ar OutdoorActive


Nid pob bryn a chopa sydd yn gydradd o ran eu hapêl. Mae’n anochel bod rhai yn fwy diddorol, yn cynnig gwell golygfeydd, neu fwy o her (ac felly boddhad) na’i gilydd. Mae’r pedwar copa sydd wedi eu trafod eisoes i gyd yn rai ble bydd y rhai sy’n gwneud yr ymdrech i’w cyrraedd yn cael eu gwobrwyo mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn anffodus, er mai dyma’r uchaf o gryn dipyn, tydi’r un peth ddim yn wir am Fynydd Twyn Glas, .

P1020972

Blaen Brân

Er bod digon o ddiddordeb i’w gael ar ei lethrau (dyma fam-fynydd Twmbarlwm, dair milltir i’r de ar hyd crib wastad) mae’r copa ei hun yn ddinodwedd heblaw am y mastiau a pheilonau trydan niferus. A tra ceir golygfeydd ar y ffordd i fyny, erbyn cyrraedd y top, mae’r rhain wedi eu cuddio gan y copa gwastad. Dyma fryn felly sy’n debygol o apelio at gerddwyr sydd un ai yn y busnes o gasglu Marilyns, neu sy’n pasio heibio ar eu ffordd i rywle arall: rhywbeth y byddwn yn ei wneud ar y cymal Crosskeys i Bont-y-pŵl o’r teithiau llinellol. Yn y cyfamser, dyma daith gylch fer o Gwmbrân Uchaf – rhywle sydd werth ymweld ag o – i’r rhai sydd eisiau gallu dweud ‘bûm i yno’, heb ormod o ymdrech.

P1020973

Glofa Cwmbrân

Parciwch ym maes parcio Coetir Cymunedol Blaen Brân (cyfeirnod grid ST272 968) a dilyn y llwybr drwy’r giât ym mhen pellaf y maes parcio. Yn y groesffordd o lwybrau, trowch i’r dde i groesi’r nant a dilyn ymyl y goedwig nes dod allan i dir mynydd agored drwy giât fetel werdd. Fe welwch fast teledu ar y bryn uwchlaw a dewis o lwybrau yn arwain ato. O’r mast, mae llwybr clir yn parhau tuag at y copa ei hun, sy’n ddigon hawdd ei fethu ynghanol y grug ar y chwith, ond mae llwybr arall yn eich arwain yn ol ato os digwydd i chi ei basio. Yn ogystal â philer yr OS, mae yno ar y copa garreg derfyn yn nodi’r ffin rhwng plwyfi Panteg a Llanfrechfa Uchaf.

P1020980

Y Sgwâr

O’r copa, dilynwch y llwybr yr ydych newydd ymuno ag o i gyfeiriad de. Mae’n disgyn yn raddol i ddechrau, ac yna’n fwy serth i lawr tuag at Gronfa Ddŵr Blaen Brân a Chwmbrân Uchaf islaw. Ar ôl pasio drwy ddwy giât arall, dewch at hen safle pwll glo Cwmbrân/Mine Slope (1837-1916)  (1). Oddi yno, peidiwch â pharhau ar hyd yr un llwyr, ond troi ar eich sodlau ac yna i’r chwith i ddod i’r Sgwâr. Codwyd tai y Sgwâr i gartrefu gweithwyr y pwll glo a’r gwaith brics yn yr 1930au, ac yn wreiddiol roedd yn sgwâr cyflawn gan gynnwys tafarn ag ysgoldy.  Erbyn heddiw, dim ond dwy res sydd yn dal i sefyll, ynghyd â chapel Ebeneser y Methodistiaid Cyntefig (enwad newydd i fi, rhaid cyfaddef), ond mae yna rhyw awyrgylch arbennig i’r gymuned fach hanesyddol yma allai wneud i chi feddwl eich bod yn Sain Ffagan.

P1020979

Capel Ebeneser

O’r Sgwâr, gallwch ddilyn y ffordd yn ôl lawr i’r maes parcio a’ch man cychwyn.

Yn ogystal a’r dolenni yn y testun uchod, ceir lluniau a mapiau o Gwmbrân Uchaf yma.

 

3 sylw ar “Mynydd Twyn Glas

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Mynydd y Lan | Silwria

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Llanharan i Ffynnon Taf | Silwria

  3. Hysbysiad Cyfeirio: Crosskeys i Bontypwl | Silwria

Gadael sylw