This post describes a 9 mile circular walk up Mynydd y Lan, near Crosskeys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Mynydd y Lan
Hyd: 9 milltir
Her: canolig
Amser: tua 4-5 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmfelinfach
Uchder: 381m
Categori:Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Fe fyddwch wedi sylwi nad oeddwn wedi cymryd rhyw lawer at y bryn diwethaf i mi ymweld ag o, Mynydd Twyn-glas, yn rhannol oherwydd ei gopa gwastad, di-nodwedd, ond hefyd oherwydd rhyw deimlad o ddiflastod cyffredinol o gwmpas y lle. Efallai mai fi oedd yn cael diwrnod gwael, oherwydd mae pen Mynydd y Lan yr un mor wastad, a hyd yn oed yn fwy di-nodwedd – tydi o ddim hyd yn oed wedi haeddu ymweliad gan yr OS a’u pileri concrid. Ond diawch, mi wnes i fwynhau’r daith yma. Mae’n siwr bod cyfuniad o dywydd braf a chwmni da wedi helpu, ond mae llawer o’r clod yn perthyn i’r bryn ei hun a’i gyffiniau oherywdd dyma ardal ddiddorol tu hwnt, yn llawn hanes amrywiol.

Islwyn
Gyda Mynydd Twyn-glas a Mynydd Machen wedi eu cwblhau, Mynydd y Lan yw’r olaf o’r dair Marilyn yn sir Caerffili i mi ymweld â hi . Rydym yma yng nghymoedd yr hen Sir Fynwy, a dyma ardal y mae’n hawdd anghofio neu anwybyddu ei threftadaeth Cymraeg, a lle gwell i gychwyn felly nag wrth fedd Islwyn, un o feirdd Cymraeg enwocaf yr 19eg ganrif, yng Nghapel y Babell, Cwmfelinfach (1). Gallwch barcio o flaen y capel ei hun, neu ychydig ymhellach i lawr y ffordd yn y maes parcio ger yr afon.
Roedd William Thomas (1832-1878) yn frodor o Ynysddu, y pentref nesaf i fyny’r cwm, ond bu’n byw yn Cwmfelinfach ac yn bregethwr rheolaidd yng Nghapel y Babell, er iddo fod yn rhy brysur gyda’i farddoni i ddod yn weinidog llawn amser ar unrhyw gapel. Ymddengys yn gymeriad ‘diddorol’ a dweud y lleiaf, gyda nid yn unig ei farddoniaeth, ond ei holl fywyd wedi ei siapio gan y brofedigaeth o golli ei ddyweddi Anne pan oedd hi’n 20 oed.
Yn ddiweddarach, priododd Martha, yr oedd ei mam yn y cyfamser wedi priodi tad Anne. Os bu i Martha ddychmygu am eiliad ei bod hi wedi cymryd lle Anne yng nghalon ei gwr, yna debyg bod geiriau olaf Islwyn wedi ei rhoi yn ei lle: Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest ti i mi. Buost yn garedig iawn. Rwyf yn mynd at Anne ‘nawr. Beth bynnag am y ffaith fod Islwyn eisoes yn sâl iawn, beryg y byddai lleisio’r fath eiriau o flaen ei wraig yn ddigon am fywyd unrhyw un! Ceir adroddiad ar ei angladd yma.
O’r capel, dilynwch y ffordd gul at yr afon a dros y bont. Ar ôl mynd fyny llethr byr, trowch i’r dde ar hyd y llwybr beicio i gyfeiriad Ynysddu. Dyma hen lwybr Rheilffordd Sirhywi, a osodwyd yn gyntaf yn 1805 fel tramffordd geffylau i gludo nwyddau haearn o weithfeydd Tredegar i ddociau Casnewydd. Fe’i uwchraddiwyd yn reilffordd ar ôl 1850, ac wedi dros ganrif a hanner o hanes, fe’i caewyd yn raddol rhwng 1960 a 1970.

Mynwent Capel Twyn Gwyn
Ychydig dros filltir yn ddiweddarch, dilynwch yr arwydd am Ynysddu. Ar ôl pasio Gwesty Ynysddu a chroesi’r afon, ewch yn eich blaen yn y groesffordd, troi i’r dde wrth Glwb y Gweithwyr Blaengar, ac yna i’r chwith i fyny llwybr ger Forest House. Wedi gwneud eich ffodd yn igam-ogam i fyny’r rhiw serth, dewch at hen Gapel Bedyddwyr Twyn Gwyn (2) a’i fynwent, sydd erbyn hyn yn dy a gardd breifat. (Pan es i heibio, roedd ar werth, ac o edrych ar wefan yr asiant, roedd wedi llwyddo i dynnu 35 o luniau heb gynnwys yr un garreg fedd – dipyn o gamp!)
Mae’r rhan hon o’r daith yn dilyn llwybr Taith y Gigfran, ac o Twyn Gwyn, daw cyfuniad o ffyrdd cefn, traciau a llwybrau cyhoeddus chi at hyd at gronfa ddŵr Nant-y-Draenog, ac yno oddi yno i fyny cae serth at fferm Cwm-cae-singrug. Dilynwch lon y fferm at y ffordd ac yna troi i’r chwith i gyrraedd Mynyddislwyn (3).

Twyn Tudur
Ar y chwith i’r ffordd mae Twyn Tudur – tomen gyda ffos yn ei amgylchynu, nad oes neb i weld yn siŵr o’i hanes. Ymysg yr hanesion a chwedlau sydd wedi tyfu o’i chwmpas mae awgrym fod y domen yn gorchuddio cyrff milwyr Rhufeinig a laddwyd gan y Silwriaid, yn feddrod brenin Cymreig cynnar, neu yn fan claddu trysor gwerthfawr. Mae yr yn mor bosib ei bod yn safle milwrol Cymreig neu Normanaidd o’r Canol Oesoedd gyda chastell o ryw fath wedi sefyll arno yn wreiddiol. Ceir cred hefyd y daw angau i gwrdd ag unrhyw un sy’n ceisio aflonyddu ar y domen, a hanes i storm ofnadwy roi stop y rhai diwethaf i geisio gwneud hynny.

Eglwys Sant Tudur
Gan llath y tu hwnt i’r domen, mae Eglwys Sant Tudur, eglwys plwy hanesyddol Mynyddislwyn: plwy eang a gynhwysai rannau mawr o gymoedd Sirhywi ac Ebwy. Fel nifer o eglwysi mynydd eraill, mae’n sefyll wrth fan cwrdd rhwydwaith o ffyrdd a llwybrau o bob cyfeiriad a fyddai wedi galluogi trigolion o ar draws y plwy i’w chyrraedd. Er bod y rhan helaeth o’r adeilad yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif pan cafodd ei hail-adeiladu ar ôl tân, ceir son amdani gyntaf ym 1102, ac mae’r ffaith iddi gael ei chysegru i sant Cymreig yn awgrymu ei bod yn llawer hŷn eto. Tybed beth oedd y berthynas rhwng yr eglwys gynnar honno a’r twyn y drws nesaf, a phwy oedd y Tudur sydd wedi rhoi ei enw i’r ddwy?

Carreg derfyn
Mae’r daith yn parhau i fyny’r bryn y tu ôl i’r eglwys, gan ddilyn wal gerrig sych ar y dde (peidiwch poeni am y maes saethu ar y chwith, er mor swnllyd ydyw!). Pan welwch dir mynydd agored ar y dde, ewch dros y gamfa a gwneud eich ffordd tuag at y mastiau teledu. Pasiwch rhwng y mastiau i barhau ar hyd trac sy’n croesi pant bach cyn codi eto drwy’r glaswellt garw a’r rhedyn tuag at y copa gwastad. Ar y ffordd, fe basiwch garreg derfyn (4) yn nodi ffin eiddo C H Burgh, Arglwydd Maenor Abercarn, a thiroedd teulu’r Hanbury o Bontypŵl (diolch i’m cydymaith Richard am ei wybodaeth wyddoniadurol yn y maes yma!).
Mae’r trac yn parhau heibio’r copa, ac wrth i chi ddechrau colli uchder, fe welwch Mynydd Machen o’ch blaen yr ochr arall i’r cwm. Mae’r trac yn cyrraedd giât fetel fawr, a dylech fynd drwyddi cyn troi ar unwaith i’r chwith a dilyn y llwybr i mewn i’r coed. Ymhen amser, mae’r llwybr yn troi tua’r dde ac ar i lawr, gan ddod a chi at drac coedwigaeth. Drwy ddilyn y trac yma i lawr ochr y bryn, fe ddewch at ffordd yr A467 ar gyrion Crosskeys. Trowch i’r dde ar hyd y ffordd hon a’i dilyn at y gylchfan, ble rydych angen cymryd y llwybr gyferbyn sy’n mynd a chi i mewn i Barc Gwledig Sirhywi (5).

Mynydd Machen a Chasnewydd
Dyma chi’n ôl felly ar yr un llwybr beicio/hen reilffordd y buoch arno ar ddechrau’r daith, a dylech ei ddilyn am tua milltir a hanner yn ôl i’ch man cychwyn. Ar y ffordd byddwch yn pasio ‘Nine Mile Point’, ble roedd Rheilffordd Sirhywi yn cwrdd a Rheilffordd Sir Fynwy, 9 milltir o fan cychwyn honno yng Nghasnewydd.

Hysbysiad Cyfeirio: Llanharan i Ffynnon Taf | Silwria