Llanharan i Ffynnon Taf


This post describes an 11 mile linear walk from Llanharan to Taffs Well in the south Wales valleys, via Llantrisant and Garth Hill, with several places of historical interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Llanharan i Ffynnon Taf

Hyd: 11 milltir
Her: canolig
Amser: tua 5 awr
Lluniaeth: Llanharan, Llantrisant a Ffynnon Taf
Man cychwyn a gorffen:  Llanharan a Ffynnon Taf. Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau le gan newid yng Nghaerdydd. Dim gwasanaeth i Lanharan ar y Sul.

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Cyn i mi ganolbwyntio am gyfnod ar ‘dri chopa Caerffili’ (Mynydd Machen, Mynydd y Lan, a Mynydd Twyn Glas), roedd y daith linellol ddiwethaf wedi dod a ni i Lanharan – pentref yng ngororau’r Fro rhwng Llantrisant a Phen-y-bont. Aiff a’r daith nesaf hon a ni oddi yno dros Fynydd Garthmaelwg i Lantrisant, ac yna dros y Garth i gwm Taf gan orffen ym mhentref Ffynnon Taf. Dyma ardal o dirwedd gymysg sy’n rhychwantu’r ffin rhwng y Blaenau a’r Fro, gyda thiroedd mynyddig a choediog am yn ail gyda thir amaethyddol ffrwythlon. Mae Llanharan a Llantrisant yn ganolfannau hanesyddol a drawsnewidiwyd dros y ddwy ganrif ddiwethaf gan eu lleoliad ar derfyn deheuol y maes glo, ond sydd wedi cadw nifer o’u nodweddion hynafol, tra bo Ffynnon Taf yn bentref diwydiannol sy’n digwydd bod yn gartref i unig ffynnon dwym Cymru.

Photo 15-02-16 10 49 10

Llanharan House

O orsaf drenau Llanharan, ewch tua’r sgwâr (mae’n rhy gynnar, siawns, i alw i mewn i’r Turberville) a throi i’r chwith wrth dafarn yr High Corner (ditto). Ar ôl pasio eglwys y plwyf at y chwith, trowch i’r dde i ddod at lwybr sy’n eich arwain o gwmpas cefn plasty Llanharan House (1). Bu’r plas yn gartref i genedlaethau o uchelwyr lleol, gan gynnwys Richard Hoare Jenkins a oedd yn Uwch Siryf Morgannwg adeg Gwrthryfel Merthyr ym 1831, ac a fu felly yn gyfrifol am oruchwylio crogi Dic Penderyn.

Dilynwch y llwybr yn raddol i fyny ochr y bryn nes i chi gyrraedd Coedwig Llantrisant ar Fynydd Garthmaelwg. At y chwith i’r llwybr, mae’r ‘Egg Well’ (2) yr arferai fod yn lleoliad ffeiriau, gydag ymwelwyr yn dod i yfed ei dwr sylffwr.

Photo 15-02-16 11 50 37

Ynysmaerdy

O’r fan hon, mae’r daith yn dilyn bron yn union lwybr taith y Gefnffordd yr holl ffordd i Ffynnon Taf, gydag arwyddion ar hyd y ffordd. At ôl dilyn llwybrau coedwigaeth i lawr Mynydd Garthmaelwg, ac yna ar hyd ffordd gul am ychydig, fe ddewch at gyn safle Glofa Llantrisant yn Ynysmaerdy (3). Ar yr wyneb, gall yr adeiladau ymddangos fel siediau amaethyddol digon arferol, ond mewn gwirionedd dyma un o’r enghreifftiau mwyaf cyflawn o adeiladau glofaol sydd wedi goroesi yn yr ardal. Maent yn cynnwys yr hen bwerdy mawr y tu ôl i’r ffermdy ar y dde, ynghyd a dau bwerdy llai, gweithdai, a storfa. Maent wedi goroesi er i’r pwll gau yn gymharol gynnar ym 1941, wedi ffrwydrad ar yr wyneb a laddodd bedwar dyn.

Photo 15-02-16 12 25 05

Billy Wynt

O Ynysmaerdy, dilynwch y llwybr at y ffordd fawr a’i chroesi, cyn cychwyn dringo llethr Y Graig. O gadw’n ddigon uchel fe ddewch at dwr dirgel ‘Billy Wynt’ (4) gyda golygfeydd eang dros ddyffryn Elai a thu hwnt. Dilynwch y llwybr ar hyd Y Graig nes cyrraedd tref Llantrisant (5). Ar ôl croesi’r Sgwâr gyda’i gerflun o Dr William Price**, ewch i lawr Erw Hir gyda’i dai newydd cyn troi oddi ar y stryd ar i lwybr ar y dde. Daw hwn a chi i gyffiniau Cross Inn a dylech ddilyn y ffordd fawr am gyfnod cyn ei chroesi a dilyn y llwybr heibio fferm Rhiwbrwdwal drwy’r coed i Riwsaeson. Ar ben y llethr ar y dde i chi mae bryngaer o’r Oes Haearn. Mae mapiau cynnar yr OS yn ei nodi fel safle tybiedig brwydr Rhiwsaeson yn 873. Er gwaetha’r cyfuniad o enwau lleoedd fodd bynnag (mae hefyd fferm Cae yr Arfau tua milltir i ffwrdd ger Creigiau), yr unig ffynhonnell ar gyfer y frwydr honedig hon yw Brut Gwent – un o ffugiadau Iolo Morganwg – does dim tystiolaeth hanesyddol iddi ddigwydd mewn gwirionedd.

Photo 15-02-16 12 44 12

Dr William Price

O Riwsaeson, dilynwch y llwybr ar draws y caeau at dafarn Ceasars ar Ffordd Creigiau (daw ei henw o’r Nant y Cesair gyfagos, yn hytrach nag unrhyw ymwelydd Rhufeinig o bwys…). Ar ôl dilyn y ffordd am gyfnod a throi i’r chwith ar ffordd arall lai, rydych mewn coedwig arall, ac yn dringo’n serth i fyny Craig Gwilym ac ymlaen at Soar ar y ffordd rhwng Pentyrch ac Efailisaf. Oddi yma, mae’r llwybr dros y Garth (6) ac i lawr i bentref Gwaelod-y-garth yn amlwg.

Trowch i’r dde wrth dafarn y Gwaelod, ac wedyn i’r chwith i lawr llwybr cerdded sy’n croesi’r Taf dros Bont Siôn Philip (7). Agorwyd hon ym 1926, gan gymryd lle’r fferi a arferai gludo teithwyr ar draws yr afon yn y fan hon. Ar ôl cyrraedd y ffordd fawr drwy bentref Ffynnon Taf, trowch i’r dde i basio’r ffynnon (8) a’r dafarn sy’n dwyn ei henw – mae’n werth mynd lawr at y ffynnon i weld mwy am ei hanes. O barhau ar hyd yr un ffordd, fe ddewch dros bont droed at yr orsaf drennau.

Photo 15-02-16 15 24 52

Edrych tua’r dwyrain o’r Garth


* Fe welwch o’r map fod yna opsiwn fwy uniongyrchol o Llanharan House i’r fan hon, sy’n mynd o gwmpas troed y bryn yn hytrach na mynd drosto. Tra bo llwybr cyhoeddus wedi ei ddangos yr holl ffordd ar y map, gan nad ydw i wedi ei gerdded fy hun, allaf i ddim gwarantu ei fod yn glir.
** Os oes gennych ddiddordeb o gwbl ym mywyd y dyn rhyfeddol yma, bywgraffiad Dean Powell ohono ydi un o’r llyfrau gorau o’i fath i mi ei ddarllen, a rwy’n ei argymell yn fawr.

Gadael sylw