This post describes a 11 mile circular walk up Mynydd Dinas and Foel Fynyddau from Pont-rhyd-y-fen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Mynydd Dinas a Foel Fynyddau
Hyd: 11 milltir
Her: canolig/anodd
Amser: tua 5-6 awr
Man cychwyn a gorffen: Pontrhydyfen
Uchder: Mynydd Dinas (258m) a Foel Fynyddau (370m).
Categori: Marilyn (x 2)
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Weithiau byddaf yn gwneud gwaith ymchwil cyn mynd ar daith er mwyn canfod pethau o ddiddordeb i ymweld â hwy ar y ffordd. Dro arall, byddaf yn dod at draws llefydd yn annisgwyl wrth gerdded ac yn edrych i mewn iddyn nhw ymhellach ar ôl dod nôl (mae’r adfeilion ar ochr y Garth yn esiampl berffaith o hynny).

Cwm Afan o Foel Fynyddau
Ar gyfer y daith yma, fy nhybiaeth cyn cychwyn oedd mai pentref Pontrhydyfen* ei hun fyddai’r prif ddiddordeb, ac yr un oedd fy nghred ar ôl i mi fod hefyd. Ond wedyn, drwy hap wrth chwilio am rywbeth arall, dyma ddarganfod fy mod – yn gwbl ddiarwybod i mi – wedi dod ar draws un o ryfeddodau’r Forgannwg ddiwydianol ar gopa Foel Fynyddau. Mwy am hynny nes ymlaen….
Roedd y daith hon eisoes i fod yn fargen o fath, gan ei bod yn caniatáu ymweld â dwy Farilyn mewn un tro hwylus, sef Mynydd Dinas (258m) a Foel Fynyddau (370m). Bydd unrhyw un sydd wedi teithio ar hyd yr M4 tua’r gorllewin yn gyfarwydd efo Mynydd Dinas, gan mai dyma’r bryn sy’n codi’n serth uwchben y ffordd tra’ch bod yn eistedd mewn traffig ger Port Talbot, a thra nad yw’r copa ei hun yn rhyw ddiddorol iawn, mae golygfeydd bendigedig o’r arfordir i’w cael ar y ffordd i fyny. Mae Foel Fynyddau yn uwch, ond gan ei bod yn cuddio y tu ôl i’w chwaer fach mae’n llai amlwg i’r sawl sy’n pasio ar y ffordd fawr.

Y Bont Fawr
Mae’r daith yn cychwyn felly ym Mhontrhydyfen sydd, fel mae ei enw yn awgrymu, yn hen fan croesi ar y ffordd o Langynwyd i Gastell-nedd. Mae’n enwog heddiw wrth gwrs fel man geni’r actor Richard Burton a’r cantorion Ivor Emmanuel, Rebecca Evans a Geraint Griffiths (be sydd raid i enillydd Cân i Gymru 1984 a 1994 ei wneud i fod ar yr arwydd?!). Ond nodwedd gweladwy mwyaf trawiadol y pentref, ac yn wir y cwm i gyd, ydi’r ddwy bont sy’n croesi’r afonydd Afan a Pelenna. Rydym yn croesi’r Bont Fawr ar gychwyn y daith, ac yn cael golygfa dda o’r Bont Goch wrth wneud hynny. Pont ddŵr oedd y Bont Fawr yn wreiddiol, wedi ei hadeiladu yn 1824-27 i gludo dŵr o’r afon Afan i yrru’r olwyn ddŵr yng ngwaith haearn Oakwood, tra mai pont reilffordd wedi ei chodi ar droad yr 20fed ganrif i gludo glo i ddociau Port Talbot ydi’r Bont Goch gyda’i deg bwa uchel.

Port Talbot o lethrau Mynydd Dinas
O ddechrau ym maes parcio Rhyslyn, ar ôl croesi’r Bont Fawr rydym yn dilyn y llwybr beics o Bontrhydyfen i Gwmafan, ymlaen drwy’r pentref hwnnw, ac yna ar hyd glan yr afon am ychydig cyn gadael y prif lwybr i groesi drwy ystâd o dai newydd at y ffordd fawr. Rhaid croesi’r ffordd a dilyn y ffordd fechan at fferm Pantdu. Yno, mae’r llwybr yn pasio o flaen y tŷ ac i ben draw’r ardd ble mae pont a chamfa yn dod a chi at lethrau rhedynog Mynydd Dinas. Parhewch i ddilyn y llwybr o gwmpas ochr y bryn nes i chi ddod at groesffordd o lwybrau, ble dylech ddilyn Llwybr yr Arfordir i fyny grisiau i’r dde.

Copa Mynydd Dinas
Ar ôl dringo am gyfnod, mae’r llwybr yn lefelu cyn dod a chi at groesffordd arall. I gyrraedd y copa, rhaid dilyn y llwybr o’ch blaen sy’n mynd ar i fyny, cyn troi i’r dde oddi ar hwnnw a cherdded drwy amrywiaeth o dyfiant er mwyn cyrraedd y piler. Does dim golygfa arbennig o’r copa ei hun, ond fe gewch chi olwg glir o Foel Fynyddau tua’r gogledd.
Dylech wedyn ddychwelyd i’r groesffordd a throi i’r dde er mwyn dilyn Llwybr yr Arfordir i lawr at Flaen Baglan. Oddi yno trowch i’r dde a dilyn y ffordd am tua milltir i gyfeiriad Foel Fynyddau nes y gwelwch lwybr ceffyl yn mynd i’r dde. Ger y casgliad o gytiau ar y chwith, mae llwybr yn dilyn ymyl y goedwig at giât sy’n dod a chi at fynydd-dir agored. Oddi yno mae’n daith syml i’r copa.

Copa Foel Fynyddau
Ac eithrio’r golygfeydd eang i sawl cyfeiriad, ar yr olwg gyntaf ymddengys nad oes dim o ddiddordeb ar y copa – oni bai bod gennych hoffter anarferol o fastiau efallai. Ond dafliad carreg o’r piler OS mae pentwr o gerrig a rwbel y tybiais ar y pryd oed yn weddill ar ôl gosod y mastiau, neu’r ffordd goedwigaeth efallai. Ond na, mae’r rhain olion rhywbeth llawer mwy arbennig. Ar ôl sefydlu Gweithfeydd Copr Cwmafan tua 1830, adeiladwyd ffos neu sianel orchuddiedig yr holl ffordd i fyny ochr y Foel o Gwmafan gyda simnai frics 30 troedfedd o uchder ar ei ben a adwaenid fel Stac y Foel – dilynwch y ddolen i weld llun a mwy o hanes. Eu pwrpas oedd codi’r mwg gwenwynig ymhell uwchlaw’r pentref a’i drigolion, er mae’n ymddangos nad oedd y ffermwyr oedd yn pori’r mynydd cweit mor hapus am y peth.

Olion y sdac a’r simnai o’r awyr
Yn filltir o hyd ac yn esgyn 1,000 troedfedd o’r gwaelod i’r top, mae’n rhaid mai dyma un o’r simneiau hiraf ac uchaf a welodd y byd erioed! Does ryfedd fod beirdd lleol yn canu amdano. Daeth y gwaith copr I ben ym 1906 a disistrwyd y sdac yn fwriadol ym 1940 rhag ofn iddo gael ei ddefnyddio gan awyrenau’r Almaen fel arwydd o leoliad Abertawe.
Mae’r siwrne’n ôl o’r copa i’r man cychwyn yn rhwydd – dilynwch y trac i mewn i’r goedwig a pharhau i’w ddilyn wrth iddo ymlwybdro drwy’r coed yr holl ffordd i lawr ochr y bryn hyd at waelod y cwm. Ar waelod y llethr, fe ddewch at Lwybr Treftadaeth Richard Burton sydd yn croesi’r Bont Goch ac yn dod a chi’n ôl i’r

Capel Bethel Pontrhydyfen
pentref ei hun. Ar eich ffordd yn ôl at y maes parcio fe basiwch am yr eildro hen Eglwys Sant Ioan (bellach yn dŷ preifat) a chapel Bethel y Bedyddwyr (‘endearingly ham-fisted’ ydi disgrifiad John Newman o’i bensaerniaeth), cyn croesi eto y Bont Fawr i gyrraedd yn ôl i’r maes parcio.
————————————————————–
*Mae Pontrhydyfen yn rhan o Barc Coedwig Afan, ardal sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys nifer o lwybrau cerdded.