This post describes an 14 mile linear walk from Taffs Well to Crosskeys in the south Wales valleys, via Craig yr Allt, Ruperra Castle, and Mynydd Machen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Ffynnon Taf i Crosskeys
Hyd: 14 milltir
Her: canolig/anodd
Amser: tua 7 awr
Lluniaeth: Ffynnon Taf, Black Cock – Mynydd Caerffili, Draethen, Crosskeys
Man cychwyn a gorffen: Gorsafoedd tren Ffynnon Taf a Crosskeys. 6 tren yr awr rhwng Caerdydd a Ffynnon Taf, ac un yr awr o Gaerdydd i Crosskeys (Llun i Sadwrn)
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Cyn cychwyn y tro yma, rhaid wrth gyfaddefiad bach. Fe gofiwch fod y teithiau llinellol presennol yn ein tywys yn ôl o Faesteg i Lyn Ebwy. Maent felly ym mynd o’r gorllewin i’r dwyrain, a gyda ni wedi gorffen yn Ffynnon Taf y tro diwethaf, mae’n iawn fod y daith hon yn cychwyn yno ac yn ein hebrwng i Crosskeys. Ond, y gwir amdani ydi fy mod i fy hun wedi gwneud y daith hon ddwywaith, ac mai’r ffordd arall o gwmpas fuodd hi bob tro – sef o Crosskeys i Ffynnon Taf. Mae yna reswm da am hynny – gydag un trên yr awr o Gaerdydd i Crosskeys ond chwech i Ffynnon Taf, roedd yn gwneud synnwyr i mi orffen yn Ffynnon Taf gan wybod na fyddai rhaid i mi aros yn hir am drên tuag adref, pryd bynnag y buaswn yn gorffen. Hefyd, rhaid ystyried bod y beint yn Fagin’s yn fwy boddhaol ar ddiwedd taith nag a fyddai ar ei dechrau!
Felly, gyda hynny o ddatguddiad allan o’r ffordd, rhowch eich anghrediniaeth o’r neilltu, ac ymunwch gyda mi ar daith ffantasi o Ffynnon Taf i Crosskeys….

Cefncarnau Fawr
Heblaw am y ffaith nad ydi hi erioed wedi digwydd, un peth arall i’w nodi am y daith hon ydi’r ffaith ei bod yn pasio ar y ffordd ddwy Farilyn yr ydw i eisoes wedi eu disgrifio, sef Craig yr Allt a Mynydd Machen. O’r herwydd, mae’n gorgyffwrdd mewn mannau gyda’r ddwy daith hynny, a gan nad ydw i am ailadrodd fy hun, byddai’n werth i chi ddarllen i rheiny am fwy o wybodaeth am y mannau o ddiddordeb o gwmpas y ddau fryn yna.
Gan gychwyn o orsaf drên Ffynnon Taf felly, ewch ar hyd y llwybr Taith Taf isaf am tua 3/4 milltir, cyn troi i’r dde drwy’r coed i gyrraedd y llwybr uchaf ac yna croesi hwnnw ar unwaith i ddringo i fyny Craig yr Allt. Dilynwch y grib dros y copa (1) a disgyn i lawr yr ochr arall gan barhau heibio tŷ o’r enw Ffwrnais Blwm i ddod at y ffordd. Trowch i’r dde ar hyd y ffordd a’i dilyn at dafarn y Black Cock (2). Mae’r llwybr wedyn yn croesi pont y tu ôl i’r dafarn ac yn mynd ar draws dau gae brwynog cyn mynd mewn i goed ble mae’n mynd i lawr llethr at drac clir ger adfeilion Cefncarnau Fawr. Trowch i’r chwith a dilyn y trac hwn at yr A469, ac yna croesi’r ffordd honno i barhau yn yr un cyfeiriad heibio Blaen-nofydd ychydig i fyny’r allt. Rydych bellach ar lwybr Taith Cefnffordd Rhymni, a bydd arwyddbyst y daith honno yn eich tywys am 5 milltir ar hyd crib Cefn Onn, i lawr Craig y Llan, ac yna drwy Goed Craig Ruperra i bentref Draethen.

Byncer
Y mae sawl peth i hawlio ein diddordeb ar y daith rhwng Blaen-nofydd a Draethen. Yn gyntaf, dyma’r enwau hynod sydd ar rai o’r coedwigoedd hynafol ar hyd y grib hon: Coed Coesau-whips (yn deillio mae’n debyg o’r arfer o brysgoedio), Coed y Squire a Choed y Bwdrwm. Mae hen odynau calch i’w gweld ar Gefncarnau a Chraig y Llan (3). Ar Graig y Llan hefyd mae byncer o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi ei adfer yn ddiweddar fel y gall y cyhoedd ei gyrraedd (4). Ond lleoliad mwyaf arbennig y daith heb os ydi cragen ryfeddol Castell Ruperra (5), er yn anffodus rhaid i ni fodloni ar ei hedmygu dros ben wal. Wedi ei chodi yn 1626 gan Sir Thomas Morgan, un arall o’r teulu boneddigaidd y deuthom ar eu traws gyntaf ar daith Mynydd Machen, arhosodd y castell yn y teulu ar hyd y canrifoedd, gan gael ei ddefnyddio fel ‘ail gartref’ i Dy Tredegar. Mae tranc llinach y Morganiaid yn yr 20fed ganrif wedi ei adlewyrchu yn ffawd y castell, sydd wedi bod yn wag ers cael ei ddinistrio gan dan am yr eilwaith yn ei hanes yn 1941.

Castell Ruperra
O’r castell, dilynwch Daith Cefnffordd Rhymni i lawr Craig Ruperra i gyrraedd pentref Draethen wrth dafarn yr Hollybush, sy’n werth ymweliad os oes amser. Mae yna hefyd yr opsiwn o gymryd detour byr i gopa’r graig, sydd yn ei dro wedi bod yn lleoliad i fryngaer Oes Haearn, castell mwnt a beili Normanaidd, a hafdy yn eiddo i’r Morganiaid.
O’r Hollybush, dilynwch y ffordd i gyfeiriad Machen Isaf tan ar ôl y bont, pan ddylech ymuno a’r llwybr ar y chwith a’i ddilyn ar hyd glan yr afon Rhymni tan y Pandy. Yno, trowch i’r dde, croesi’r ffordd fawr, dilyn ffordd y chwarel gyferbyn ac yna’r llwybr cyhoeddus sydd yn dringo heibio Castell Meredydd (6) a’r Parc at Llan-danglws. Oddi yno mae ffordd ac wedyn trac amlwg yn eich arwain i fyny at gopa Mynydd Machen (7) ac ail Farilyn y dydd.
Mae’r daith o Fynydd Machen i Crosskeys wedyn yn rhwydd. Dilyn y grib am gyfnod i gyfeiriad y tomenni, cyn troi lawr llwybr i’r dde sy’n dod a chi at ffordd fechan. Yma mae gennych ddewis rhwng dilyn y ffordd ei hun i lawr i’r dde, neu’r llwybr cyhoeddus sy’n mynd i lawr drwy’r cae o’ch blaen ac yna drwy goedwig cyn ail-ymuno a’r ffordd yn agos at waelod y bryn. Ewch o dan y bont sy’n cludo ffordd yr A467 ac yn eich blaen i stryd fawr Crosskeys, gan droi i’r chwith i gyrraedd yr orsaf drenau.
Hysbysiad Cyfeirio: Crosskeys i Bontypwl | Silwria