This post looks at the possible history of a horseshoe that was found under our house near Whitchurch Common, Cardiff. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Rydan ni wedi bod yn cael gwaith wedi ei wneud ar y tŷ yn ddiweddar, ac wrth gloddio wrth ochr y ty yn yr hydref daeth yr adeiladwyr o hyd i hen bedol rydlyd. Rŵan, gewch chi neb llai ofer-goelus na fi, ond dwi yn hoff o hen bethau, yn enwedig rhai sy’n fy nghysylltu efo’r gorffennol gwledig. Felly, yn ogystal â glanhau y bedol (asid sitrig a lot o sgwrio), dwi wedi bod yn ceisio canfod mwy o’i hanes hefyd.
I gychwyn, dyma edrych i weld ym mha gae y’i collwyd, a diolch i wefan Lleoedd Cymru LlGC mi allaf weld bod ein tŷ yn sefyll mewn cae o’r enw Pump Erw Waun oedd, yn 1840, yn rhan o fferm Ty’n y Parc. (Roedd ffermdy Ty’n y Parc ei hun yn ymyl lle mae’r orsaf betrol Tesco ar gornel Manor Way a Ffordd Ty’n y Parc heddiw). Pum Erw Waun ydi cae rhif 260 ar y map, ac mae’r triongl goch yn dangos lle ganfuwyd y bedol.
Beth am ei hoedran felly? Codwyd y tŷ yn y 1930au – degawd a welodd y caeau glas i’r gogledd o Gaerdydd yn diflannu dan goncrid, gyda chodi’r strydoedd lu o ‘semis’ sy’n nodweddiadol o ardaloedd yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina, Birchgrove a’r Mynydd Bychan. Rhaid felly ei bod yn o leiaf 80 oed, ond roeddwn am wybod mwy.
Fel mae’n digwydd, ychydig iawn o wybodaeth am hen bedolau sydd i’w gael ar y we, a ddaeth neb i’r fei wedi i mi apelio am wybodusion ar Twitter ychwaith. Felly dyma ganfod llyfr ail-law ar Amazon, Old Horseshoes gan Ivan G. Sparkes, oedd yn edrych yn addawol, ac felly yn wir y bu. Tra mai chwilio yn bennaf am syniad o’i hoedran oeddwn i, mae’n troi allan bod posib dweud llawer mwy amdani:
- mae’r bedol o fath oedd yn gyffredin (yn wir, ‘standard’ yn ôl y llyfr) yn ail hanner y 19eg ganrif, gyda chyfuniad o dyllau a hoelion sgwâr a ddefnyddiwyd gyntaf yn 1864;
- mae’r ffaith bod clip ar y blaen ond nid ar yr ochrau yn awgrymu mai ar goes blaen ceffyl y’i gosodwyd, tra bo rhaniad y saith twll yn bedwar a thri yn dangos mai ar un o’r coesau chwith oedd hi. Pedol coes chwith blaen ydi hi felly;
- yn annisgwyl i mi, oedd wedi tybio mai pedol ceffyl gwedd oedd wedi ei cholli wrth aredig neu debyg oed hi, ymddengys bod ei maint a’i steil yn profi mai oddi ar geffyl marchogaeth y daeth hi – ceffyl hela o bosib.
Mae’r ffaith olaf yn llacio’r cysylltiad tebygol gyda fferm Ty’n y Parc rhywfaint, oherwydd er ei bod ar eu tir hwy, mae’n bosib iawn felly nad un o’u ceffylau hwy oedd yn ei gwisgo.
Ceffyl pwy felly? Wel yn ôl Edgar L. Chappell yn ei gyfrol ar hanes yr Eglwys Newydd Old Whitchurch: The Story of a Glamorgan Parish (1945) roedd dwy haid o gŵn hela yn cael eu cadw yn yr ardal: un gan deulu’r Bookers (perchnogion gwaith Melin Gruffydd) yn Rhiwbeina a Fferm y Fforest, a’r llall gan y Lewises yn Nhongwynlais. Ond wrth gwrs, gallai’r ceffylau oedd yn dilyn y cŵn fod yn berchen i unrhywun.
Ar y llaw arall, mae hen drac yn pasio tua hanner can llath i ffwrdd, fel y gwelir ar fap 1900 isod. Mae’n parhau i fod yn llwybr cyhoeddus rhwng cefn tai Manor Rise a Caegwyn Road, er prin bod rheswm i neb ei ddefnyddio bellach. Ond yn y 19eg ganrif, cysylltai’r trac Waun Treoda, gyda’i dir pori, capel, tafarn a gefail, gyda ffermydd a thyddynnod i gyfeiriad Rhiwbeina a Birchgrove. Gallai felly ei bod yn eiddo i geffyl rhyw deithiwr ar hyd y llwybr hwnnw. Ond byddai’r teithiwr wedi gorfod taflu’r bedol hanner can llath dros y gwrych i mewn i’r cae, sy’n swnio’n anhebygol o wastraffus – byddai rhaid ei fod mewn tymer wael iawn am ei anffawd!
Tybed os ydi’r ffaith ei bod wedi ei chanfod mor agos at ymyl arall y cae (enw’r cae drws nesaf, oedd Cae Doctor Reeve, ac mae llinell y clawdd yn croesi ein gardd) yn awgrymu iddi gael ei cholli wrth lanio ar ôl neidio’r clawdd? Mae rhyw synnwyr yn hynny, a byddai hynny’n dod a ni’n ôl at y ceffyl hela yn fwy na thebyg….
Mae Chappell hefyd yn rhoi syniad i ni o ble gallai fod wedi cael ei gwneud a’i gosod, gyda sawl gefail gerllaw yn y cyfnod dan sylw. Yr un ar Waun Treoda drws nesa i’r Three Elms fyddai’r agosaf, er tydi honno ddim yn ymddangos ar unrhyw fap cyn 1900. Roedd rhai eraill y tu ôl i dafarn y Plough yng nghanol y pentre’, a godwyd rywdro rhwng 1840 ac 1880 yn ôl y mapiau (mae Chappell yn rhoi hanes manwl o bob capel ac eglwys lleol, ond bron ddim byd am y tafarndai!), ac un arall wrth y Three Horseshoes yr ochr draw i’r Philog (ar fap 1880, ond nid 1840). Roedd dwy arall yn Rhiwbeina, un ar y groesffordd yng nghanol y pentref a’r llall yn bellach i fyny’r rhiw. Mae mapiau 1840 ac 1880 hefyd yn dangos gefail ar safle y New Empire Chinese yng nghanol yr Eglwys Newydd, ond tydi Chappell ddim yn crybwyll honno, ac mae wedi diflannu erbyn troad yr 20fed ganrif, pan mae’r un wrth y Three Elms yn ymddangos. Cyd-ddigwyddiad, neu yr un gof yn symud ei safle tybed? Beth bynnag, mae’r rhain i gyd – ac eraill mae’n siwr – yn bosibiliadau o ran tarddiad y bedol.
Beryg mai dyne’r cwbl y mae posib ei wybod am y bedol a’i hanes tebygol. Anodd meddwl sut y gallen wybod mwy, heblaw fy mod i wedi methu rhyw gliw amlwg. Fy hun, o ystyried ei lleoliad a’r tebygolrwydd iddi fod ar goes blaen y ceffyl, rwy’n hoffi’r syniad iddi ddod i ffwrdd wrth iddo lanio ar ôl neidio’r clawdd, ond pwy a ŵyr! O ble bynnag y daeth, mae hi bellach yn hongian ar wal yr ystafell fwyta yn fy ngwylio’n sgwennu hwn, ond mae’n cadw ei chyfrinach iddi hi ei hun.



