Crosskeys i Bont-y-pŵl


This post describes a 9 mile linear walk from Crosskeys to Pontypool in the south Wales valleys, via Twmbarlwm and Mynydd Maen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Crosskeys i Bont-y-pŵl

Hyd: 9 milltir
Her: hawdd/canolig
Amser: tua 7 awr
Lluniaeth: Crosskeys a Pont-y-pŵl
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Crosskeys a Pontypwl (Pont-y-pŵl a New Inn). Tren bob awr rhwng Caerdydd a Crosskeys, ac un neu ddau yr awr o Bont-y-pŵl (Llun i Sadwrn)

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Daeth y ddiwethaf o’r teithiau llinellol a ni o bentref Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd, ar hyd ymylon deheuol ucheldir Morgannwg, cyn croesi’r Rhymni i gyrraedd y Sir Fynwy hanesyddol a gorffen yn Crosskeys, yn nwfn yng nghymoedd Gwent ar lan yr afon Ebwy. Yn yr hen Sir Fynwy/Gwent byddwn yn aros felly am dair taith olaf y gyfres a fydd yn ein tywys yn y pen draw i dref y Fenni.

Photo 25-11-2017, 10 19 47

Y gamlas yn Crosskeys

Ar ôl taith o 14 milltir y tro diwethaf, mae’r daith hon yn gymharol fer a syml o’r ‘cwm gorllewinol’ i’r ‘cwm dwyreiniol’, fel y gelwir yr Ebwy a’r Llwyd yng nghyd-destun Sir Fynwy. Byddwn yn croesi Mynydd Henllys, Mynydd Maen a Mynydd Twyn-glas, ond gan mai enwau ar rannau gwahanol o’r un bryn yw’r rhain mewn gwirionedd, mae rhan helaeth y dringo yn digwydd ar ddechrau’r daith, o Crosskeys at Twmbarlwm. Mae’r daith hefyd yn cychwyn a gorffen ar wahanol ganghennau o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, sydd o bosib y gamlas sydd wedi ei chadw orau yn ne Cymru i gyd.

O orsaf drên Crosskeys felly, trowch i’r chwith i lawr y stryd yna i’r chwith eto’n fuan wedyn i fyny grisiau rhwng y tai. Croeswch y bont dros y rheilffordd yna i fyny drwy’r coed at y gamlas (1) – dyma gangen Crumlin y gamlas, sydd yn ymuno a’r brif gamlas ar gyrion Casnewydd. Trowch i’r dde a dilyn y gamlas tan yr ail bont drosti – croeswch honno a dilyn y ffordd gul i fyny’r allt gan barhau wrth iddi droi’n drac ac yna’n llwybr. Ar ôl tua milltir, fe ddewch at groesffordd o draciau ym Mhegwn y Bwlch wrth droed Twmbarlwm.

Photo 25-11-2017, 11 05 14

Pegwn y Bwlch

Ewch i fyny’r llethr serth nes cyrraedd muriau’r hen gaer a philer yr OS (2). O’r piler parhewch ar draws y copa gwastad at y mwnt sydd wedi ei amgylhcynu gan ffos. Disgynnwch oddi yno i lawr llethr serth byr cyn dilyn ymyl y goedwig ar hyd cefnen Mynydd Henllys ac yna ar draws mynydd-dir agored Mynydd Maen at y piler gwyn ar gopa Mynydd Twyn Glas (3) – rydym wedi ymweld a’r Marilyn yma o’r blaen. Os yw’n rhy niwlog i weld y piler o bell, gallwch ddilyn y trac at y mastiau ac yna troi i’r dde i ddod ato heb drafferth.

Photo 25-11-2017, 11 17 26

Cloddiau Twmbarlwm

Mae Mynydd Henllys yn ardal ddiddorol ei daeareg. Mae’r gefnen rhwng Twmbarlwm a Mynydd Maen yn is na’r tir ar y ddau ben iddi, a hynny oherwydd tirlithriad hanesyddol a welodd yr haenau uchaf o graig yn symud i lawr y llethr tua’r Nant Carn i’r gogledd-orllewin. Ymyl ddeheuol ardal y tirlithriad hwn ydi’r llethr serth yna rhwng Twmbarlwm a Mynydd Henllys.

I’r dwyrain o Fynydd Henllys ceir golygfeydd eang dros wastadedd Gwent, gyda thref Cwmbrân ar lannau’r Afon Lwyd yn union islaw. Mae’r llechwedd serth sydd yn caniatáu’r fath olygfa yn dynodi ffin y maes glo, ac mae’r terfyn daearegol hwnnw a’i ddylanwad ar y dirwedd weladwy yn amlycach yma yng nghornel de-ddwyreiniol y maes glo nag ydyw yn bron a bod unman arall. Mae map daearegol y British Geological Survey yn dangos hyn yn glir, gyda chyfres o haenau o greigiau gwahanol yn brigo ar y llethr. Dros bellter llorweddol o lai na chilomedr, mae creigiau o dri chyfnod daearegol i’w canfod, gyda’r tywodfaen ar lwyfandir Mynydd Maen yn 120-150 miliwn o flynyddoedd yn iau na honno sy’n gorwedd ar lawr y cwm.

MynyddHenllys

Daeareg yr ardal

O gopa Mynydd Twyn-glas, dilynwch y trac tua’r dwyrain heibio mast arall ac i lawr ysgwydd y bryn tuag at y ffordd fynydd. Wrth droed y llethr fe ddewch at ardal o dirwedd anwastad gyda nifer o fan lwybrau rhwng y llwyni eithin (4). Tydi’r fath anwastadedd ddim yn anarferol yn yr ardal yma, ble mae cloddio a chwarelu wedi gadael ei ôl mewn tyllau a thomenni, ond mae’r llecyn yma ychydig yn wahanol. Be sydd yma ydi olion dull cyntefig o gloddio am garreg haearn a elwid yn ‘sgwrio’ (scouring), ac a fu’n digwydd yma o’r 16eg ganrif ymlaen. Gyda’r garreg i’w chael yn agos at yr wyneb, byddai gweithwyr yn llacio’r pridd gyda chaib a rhaw cyn i ddŵr gael ei ollwng o gronfa ddŵr bwrpasol i’w olchi i ffwrdd a datguddio’r garreg. Gellid wedyn cloddio’r mwyn haearn, ynghyd ag unrhyw lo a orweddai oddi tano. Mae pant brwynog yn nodi lleoliad y gronfa ddŵr, gyda sianel ddofn yn arwain oddi wrthi tua’r gogledd.

Photo 01-01-2018, 11 15 35

Edrych i lawr at y ‘scourings’: yr hen gronfa ydi’r triongl goleuach at y dde

Dilynwch y ffordd fynydd tua’r gogledd at Benyrheol. Trowch i’r dde wrth dafarn y Lamb a dilyn y ffordd dros y grid gwartheg ac yna parhau ar ei hyd wrth iddi droi i’r dde ac yna i’r chwith. Mae ei wyneb yn dirywio am gyfnod yna yn gwella eto wrth i chi basio tŷ ar y dde. Yn fuan wedyn, mae dwy gamfa’r naill ochr i’r ffordd, ger y fynedfa i Vicarsland Cottages. Ewch dros yr un ar y dde a dilyn y llwybr i lawr y llethr at giât sydd yn dod a chi at ystâd dai. Ewch lawr at y brif ffordd ac yna ei chroesi i ddilyn llwybr sy’n mynd o dan draphont at y gamlas (5). Dyma brif gangen y gamlas, sy’n mynd yr holl ffordd o Aberhonddu i Gasnewydd: cyhoeddwyd cynlluniau i’w datblygu ymhellach yn ddiweddar. Trowch i’r chwith a dilyn y gamlas nes bod llwybr yn arwain i lawr i’r dde ar hyd glan yr Afon Lwyd, ac yna i’r chwith ar ôl y danffordd i ddod at yr orsaf drên rhyw 300 medr wedyn.

Un sylw ar “Crosskeys i Bont-y-pŵl

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Pont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy | Silwria

Gadael sylw