This post describes a 5 mile circular walk up Allt-y-grug from Cwm-twrch, near Ystradgynlais. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Mynydd Allt y Grug
Hyd: 5 milltir
Her: hawdd
Amser: tua 2-3 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmtwrch Isaf
Uchder: 338 medr
Categori: Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Mae sawl gwahanol gyd-deithiwr wedi bod gyda mi ar y teithiau sydd wedi eu disgrifio yma hyd yn hyn: weithiau yn unigolyn neu ddau, weithiau yn grwp o gerddwyr o Tiger Bay Ramblers neu Glwb Mynydda Cymru. Dydw i ddim yn tueddu i’w crybwyll nhw fel arfer, ond mae’n briodol y tro yma i son am fy nghydymaith mwya ffyddlon, sydd wedi bod efo fi ar bob un o’r naw Marilyn hyd yma, sef Heledd fy merch. Tydi Heledd ddim yn ddwy oed eto, felly mewn pac ar fy nghefn y mae hi wedi bod yn teithio, a mae’r ffaith fy mod wedi gallu mynd a hi efo fi wedi caniatau i mi wneud llawer mwy o gerdded dros y ddwy flynedd ddiwethaf na fyddai wedi bod yn bosib fel arall. A bod yn onest, tydi safon y sgwrs heb fod yn grêt, ond ma hi wedi bod yn cadw fyny efo fi heb unrhyw drafferth chwarae teg iddi hi….
Y rheswm dwi’n crybwyll Heledd rwan ydi am ei bod yn debygol mai hon oedd taith olaf Heledd am beth amser. Y rheswm am hynny ydi – a dwi’n gwybod nad ydi hyn yn beth cwrtais i ddeud am ddynes o unrhyw oed – mae hi wedi mynd yn rhy drwm!

Heledd ar Pen-y-Ghent hâf diwethaf
Ar ben hynny, rwy’n amau bod y Marilyns sy’n weddill yn anoddach ar y cyfan na’r rhai sydd wedi bod, ac felly beryg y bydd rhaid i Heledd ymddeol o’i rôl ‘cefn llwyfan’ efo Silwria – am y tro o leiaf. Efallai y gwnaiff hi ail-ymuno â mi eto pan mae’n ddigon hen i dynnu ei phwysau ei hun, er mae’n siŵr y bydd hi’n meddwl bod ganddi bethau gwell i wneud efo’i hamser erbyn hynny….
Mae peth amser wedi pasio ers i mi ymweld â Marilyn newydd, ac felly yng nghanol mis Mawrth, ar ddiwrnod braf rhwng y glaw a’r eira yr es efo Heledd, a Betsan y wraig, i fyny Mynydd Allt y Grug – un o’r rhai lleiaf ym Morgannwg.
Os am dicio’r bocs o fod wedi ymweld â’r copa yn unig, mae posib ei gyrraedd drwy daith fer yno ac yn ôl o Ystalyfera, ond, fel arfer, roeddem am wneud taith iawn ohoni, ac felly dyma gychwyn ym mhentref Cwmtwrch er mwyn creu taith gylch o tua 5 milltir.

Ffynnon Cwmtwrch
Mae’r afon Twrch – sydd a’i tharddiad ar grib y Mynydd Du – yn dynodi’r ffin hanesyddol rhwng siroedd Brycheiniog a Morgannwg (Powys a Chastell-nedd Port Talbot heddiw). Ym Mhowys y cychwynnwn y daith felly, ger Capel Newydd y drws nesaf i’r Swyddfa Bost yng Nghwmtwrch Isaf. Ond buan y dychwelwn i Forgannwg wrth groesi’r bont dros yr afon ar ôl pasio ar y dde i’r capel. Daw hyn a ni at Ffynnon Cwmtwrch (1), ffynnon sylffwrig a ddenai ymwelwyr lawer tua throad yr 20fed ganrif oherwydd ei gallu honedig i wella nifer o afiechydon.
O’r ffynnon, ewch fyny’r grisiau at y ffordd, a throi i’r dde ac yna i’r chwith i fyny ffordd lai. Dilynwch y ffordd hon am dros hanner milltir nes dod at drac ar y chwith gyda giât fawr fetel ar ei draws, a giât mochyn wrth ei ochr (anwybyddwch drac tebyg cynharach sydd heb giât mochyn). Ewch i fyny’r trac ac yna drwy ddwy giât mochyn arall sy’n eich arwain at gae corsiog. Dilynwch y clawdd ar eich chwith, gan anwybyddu’r trac sy’n mynd drwy giât fawr arall i fynd fyny’r llethr yn yr un cae. Yn y pen draw fe ddewch at giât arall a chamfa yng nghornel uchaf y cae, sy’n eich arwain at ffordd fechan. Croeswch y ffordd a dilyn y trac wrth iddo droi tua’r dde a dechrau dringo yn raddol.

Y geuffordd
Am y 3/4 milltir nesaf, rydych yn dilyn hen geuffordd hynod iawn (2), yn gyntaf drwy’r coed ac yna ar hyd ymyl y bryn agored gyda chloddiau uchel bob ochr i chi. Mae map cyntaf yr OS o 1830 yn dangos bod y geuffordd yn rhan o rwydwaith o draciau a gysylltai’r hanner dwsin o ffermydd ar ysgwydd Allt y Grug, ac sy’n dal i fodoli heddiw fel llwybrau cyhoeddus.
Mae’r llwybr yn pasio drwy fuarth fferm Carreg Pentwyn, ac yna’n dilyn ymyl y goedwig hyd at gamfa sy’n arwain at rostir. Mae’r tir hwn yn llawn traciau o fath gwahanol: rhai wedi eu creu gan, neu ar gyfer, cerbydau 4×4 modern. Mae modd dilyn y traciau hyn at gopa Tarren y Gigfran (3) ac yna Allt y Grug (4) ei hun – drwy gyd-ddigwyddiad, mae’r ddau gopa’r un uchder a’i gilydd, ac mae golygfeydd eang i’w cael o’r ddau.

Tarren y Gigfran o Allt y Grug
Gwnewch eich ffordd yn ôl at ymyl y comin a dilyn y llwybr yn ôl at y man ble mae llwybr arall yn troi i lawr i’r dde drwy giât mochyn arall tuag at fferm Penlan Fach. Ewch drwy’r giât fawr i gyrraedd ffordd fach a throi i’r dde ar ei hyd, ac yna ei dilyn nes cyrraedd hen ffermdy Allt y Grug (5) ar gyrion Ystalyfera. Trowch i’r chwith heibio’r tŷ, ac yna’r gronfa ddŵr, cyn croesi camfa wrth giât fferm Gilfach Goch. Yn fuan wedyn, trowch i’r dde i lawr ceuffordd arall ac yna ar draws cae i ddychwelyd at y ffordd yr oeddech arni ar ddechrau’r daith. Dilynwch ôl eich traed yn ôl i’r man cychwyn.

Penlan Fach, Ystalyfera a’r brniau tu hwnt