This post describes a 16 mile linear walk from Pontypool to Ebbw Vale in the south Wales valleys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Pont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy
Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Pont-y-pŵl, Six Bells, Glyn Ebwy
Man cychwyn a gorffen: Gorsafoedd tren Pont-y-pŵl (Pont-y-pŵl a New Inn) a Glyn Ebwy. Trên neu ddau bob awr rhwng Caerdydd a Pont-y-pŵl, ac un yr awr o Lyn Ebwy (Llun i Sadwrn)
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Weithiau, fe fydd taith yn eich siomi, gyda’r addewid oedd wedi ei awgrymu ar y map o flaen llaw ddim yn cael ei wireddu. Dro arall, does dim ar bapur i awgrymu y bydd taith yn un arbennig o ddiddorol, ond o’i cherdded fe ddewch ar draws lleoedd a phethau annisgwyl i’ch atgoffa o’r pleser sydd i’w gael o gerdded llwybrau newydd. Taith felly oedd hon o Bont-y-pŵl i dref Glyn Ebwy, gyda pharc Pont-y-pŵl, tirwedd ôl-ddiwydiannol Cwm Nant Ddu, ffordd frics Cwm Nant y Groes, hanes dyfarnwr pêl-droed, a daeareg a golygfeydd y Darren Ddu i gyd yn berlau annisgwyl.

Parc Pont-y-pwl
Gorffennodd y daith linellol ddiwethaf yng ngorsaf Pont-y-pŵl a New Inn, ac yno felly’r cychwyn y daith hon. O’r platfform, ewch i fyny’r ffordd at y fynedfa ac yna croesi’r ffordd fawr er mwyn mynd lawr ffordd arall gyferbyn, heibio tŷ ar y dde at iard Torfaen Salvage. Yn syth ar ôl yr iard, mae llwybr ar y dde rhwng y wal a’r ffens sy’n arwain at danffordd ar y dde (bydd y rhai sydd wedi gwneud y daith flaenorol o Crosskeys wedi bod drwyddi o’r blaen, o’r cyfeiriad arall). Ar ôl pasio drwy’r danffordd, dilynwch yr Afon Lwyd nes i’r llwybr ddringo at y gamlas uwchlaw. Trowch i’r dde ar hyd y gamlas a chroesi’r bont dros yr afon, cyn troi yn ôl lawr i’r dde i ffwrdd o’r llwybr camlas ac yna i’r chwith er mwyn pasio drwy dwnnel bach oddi tan y gamlas. Parhewch i’r un cyfeiriad nes cyrraedd y ffordd fawr gyferbyn a’r fynedfa i barc Pont-y-pŵl.
Mae’r parc (1) ymysg y parciau trefol mwyaf diddorol i mi ddod ar eu traws, gyda hanes yn mynd yn ôl i 1689 pan brynwyd y tir gan deulu’r Hanburys – y meistri haearn lleol – ar gyfer ystâd breifat. Mae’r parc yn gartref i dîm rygbi enwog y dref, a chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yno ym 1924. Gosodwyd y gatiau haearn crand ar y fynedfa ym 1720, a dylech fynd drwyddynt er mwyn mynd drwy’r parc, gan gadw i’r dde ar ôl pasio’r cae rygbi, er mwyn gadael y parc heibio Amgueddfa Pont-y-pŵl. Croeswch Park Road at yr arosfa bws, yna parhau ar draws i groesi ffordd arall at y palmant yr ochr draw.

Pont ar draws y llwybr
Trowch i’r dde ar hyd y ffordd, heibio’r Ganolfan Waith, nes gwelwch lwybr beics ar ochr arall y ffordd. Croeswch eto a dilyn y llwybr hwn am yn agos at hanner milltir nes cyrraedd Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Pontnewynydd. Trowch i’r chwith dros y bont, yna dilyn y ffordd i’r dde ger yr orsaf betrol, cyn croesi ger y Capel Bedyddwyr er mwyn mynd i fyny Merchants Hill. Ar ôl tua 100 metr, trowch i’r dde ar hyd y llwybr beics – dyma hen lwybr cangen Pont-y-pŵl a Tal-y-wain o Reilffordd Sir Fynwy.

Glofa Blaenserchan
Ymhen rhyw filltir, dewch at bont sy’n croesi’r llwybr. Ewch i fyny’r llethr at y bont (mae’r llwybr hawsaf a welais i ar y dde ar ôl pasio o dan y bont) a’i chroesi. Dilynwch y llwybr drwy’r giatiau heibio Ivy Cottage at y ffordd ac yna troi i’r dde. Yn y groesffordd, dilynwch y trac caregog yn syth ymlaen nes ail-ymuno â’r ffordd ger dau fwthyn.
Trowch i’r chwith i fyny’r ffordd hon, ac yna drwy’r giât fawr werdd ac ar hyd y trac sy’n pasio drwy dirwedd ôl-ddiwydianol (2) sy’n amlygu hanes glofaol y cwm cul yma. Mae’r llwybr yn pasio lleoliad Glofa’r Llanerch (1840-1947), lleoliad trychineb ym 1890 pan laddwyd 176 o ddynion a bechgyn gan ffrwydrad tanddaearol. Islaw, yng ngwaelod y cwm, roedd Glofa Blaenserchan, a gaewyd mor ddiweddar â 1985, ac y mae rhai o’i adfeilion yn dal i’w gweld. Ar ôl tua milltir, mae’r trac yn lledu am gyfnod, ac fe welwch lwybr ar y dde yn codi drwy’r coed a’r rhedyn.

Coed y Gilfach
Dilynwch y llwybr yma at adfail ffermdy Blaen-nant-ddu, ac yna heibio iddo ac ar draws y ffordd fynydd. Trowch i’r dde a dilyn y wal ar ymyl y comin nes dewch at ddwy giât fawr ynddi, ger tyrbin gwynt. Croeswch y gamfa, a dilyn ymyl chwith y cae dros ddwy gamfa arall nes cyrraedd coed ffawydd Coed y Gilfach.
Dilynwch y trac i lawr drwy’r goedwig, a pharhau ar ei hyd pan mae’n troi yn siarp i’r chwith. Yma, am gyfnod byr mae wyneb y trac wedi ei wneud o frics o wahanol liwiau (3), gyda nifer ohonynt yn dwyn y cerfiad ‘Tillery’ sy’n dangos eu bod wedi eu gwneud mewn gwaith brics a leolwyd tua hanner milltir i ffwrdd, rhwng Six Bells ac Abertyleri, ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ar waelod y llethr, ewch drwy’r giât fechan ger y ffens (gan gadw’r ffens ar y dde i chi) er mwyn parhau yn yr un cyfeiriad, heibio i gae pêl droed, ac ymlaen drwy’r coed ac i lawr Windsor Road.

Cwm Nant y Groes
Parhewch i fynd i lawr allt drwy Six Bells, gan groesi’r brif ffordd (Bridge Street) er mwyn mynd i lawr heibio Alexandra Terrace ac o dan hen bont rheilffordd ger y goleuadau. Ymlaen wedyn heibio Tŷ Ebbw Fach (4), gyda’r plac i’r dyfarnwr pêl-droed Mervyn Griffiths: fo oedd y dyfarnwr ym ‘Matthews Final’ cwpan FA Lloegr ym 1953, ac yn llumanwr yn ffeinal cwpan y Byd y flwyddyn wedyn. Six Bells oedd lleoliad un o drychinebau mawr olaf maes glo de Cymru, gyda 45 o ddynion wedi eu lladd gan ffrwydriad tanddaearol ym Mehefin 1960. Safai’r lofa ar y tir gyferbyn â Ty Ebbw Fach, ble codwyd y ‘Gwarcheidwad’ i nodi hanner can mlwyddiant y drychineb yn 2010.
Ar ôl croesi’r bont dros yr Ebwy Fach, trowch i’r dde ar unwaith, gyda thai teras ac Eglwys Sant Ioan ar y chwith i chi, a’r afon ar y dde. Cyn hir, fe ddewch at randiroedd a siediau – trowch i’r dde i fynd heibio’r rhain a dilyn llwybr beics at y briffordd.

Sgarp ffawt y Darren Ddu
Trowch i’r chwith ar hyd y briffordd, ac yna rhyw 300 medr wedyn ei chroesi er mwyn dilyn y trac ar y dde ar ol yr arwyddion 40mya. Dilynwch y trac heibio dau fwthyn a drwy giât, a pharhau i fyny ochr y bryn nes mae’n cyrraedd fferm yr Arail (5), sy’n sefyll ar safle hen fynachdy yn perthyn i Abaty Llantarnam. Mae’r llwybr yn parhau drwy iard y fferm i ymuno a thir mynydd agored yr ochr draw. Dilynwch y trac ar hyd cefn y mynydd nes cyrraedd wal gerrig. Ewch drwy’r bwlch yn y wal yna troi i’r dde i ddilyn y wal ar draws y gefnen. Pan gyrhaeddwch y goedwig ar ymyl ddwyreiniol y gefnen, trowch i’r chwith er mwyn parhau tua’r gogledd. Oddi yma, mae gennych daith o tua 3 milltir i’r un cyfeiriad ar hyd Cefn yr Arail a’r Darren Ddu at Fynydd Carn-y-cefn.

Glyn Ebwy
Bydd y llwybr yn llai amlwg ar adegau, a dylech fod yn ofalus o’r holltau yn y ddaear – gellir eu hosgoi drwy gadw yn agosach at ganol y gefnen, er byddwch wedyn yn colli’r golygfeydd gorau o ddyffryn yr Ebwy Fach islaw. Mae’r craciau, a’r sgarpiau cyfagos, yn arwydd o ffawt ddaearegol y Darren Ddu (6), sydd o bosib wedi ei ‘hail-fywiogi’ gan effeithiau cloddio yn y mynydd islaw (ceir ysgrif ddiddorol am ffawtau’r maes glo yma). Daw’r llwybr yn amlycach eto wrth agosáu at gopa Mynydd Carn-y-cefn (bydd rhaid i chi adael y llwybr i’r chwith os am ymweld â chopa’r Marilyn ei hun). Wrth ddechrau colli uchder ar ol pasio’r copa, mae sawl opsiwn o ran mynd i lawr at dref Glyn Ebwy, ond yr hawsaf i’w ddilyn (neu’r hawsaf i’w esbonio o leiaf!) ydi i droi i’r chwith wrth droed y llethr cyntaf ac yna dilyn yr hen ‘incline’ i lawr at y ffordd ger Bwlch y Garn. Daw’r ffordd hon a chi yn y man at gylchfan a phont, ac o’r bont fe welwch yr orsaf reilffordd ar y chwith i chi ar hen safle’r gwaith dur, a oedd wrth gwrs yn leoliad i Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mwy am Lyn Ebwy y tro nesaf, pan fyddwn yn cwblhau ein taith tua’r dwyrain drwy fynd oddi yno i’r Fenni.

Hen swyddfeydd y gwaith dur yng Nglyn Ebwy – cartref Archifau Gwent heddiw