This post describes a 16 mile linear walk in south Wales from Ebbw Vale to Abegravenny, via Blaenavon. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Glyn Ebwy i’r Fenni
Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Glyn Ebwy, Blaenafon, Y Fenni
Man cychwyn a gorffen: Gorsafoedd tren Glyn Ebwy a’r Fenni. Trên bob awr rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy (Llun i Sadwrn), gydag un neu ddau yr awr o’r Fenni.
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Am bron i hanner canrif, rhanwyd Ewrop gan y ‘llen haearn’. Ond mae’r ”mynydd haearn’, neu’r Blorens, wedi rhannu de Cymru am lawer iawn yn hirach. I’r gorllewin o’r mynydd hwn ceir cymoedd cul a rhostiroedd llwm; y Klondyke Cymreig wedi ei siapio gan lo a haearn; tai teras a chapeli Fictorianiaidd; gwleidyddiaeth radical crud y chwyldro diwydianol a’r gwasanaeth iechyd. I’r dwyrain ar y llaw arall mae gwastadeddau ffrwythlon; cestyll Normanaidd; pentrefi bach gwledig gyda’u eglwysi canoloesol; perllannau, a hyd yn oed ambell i winllan; tai crand efo gerddi mawr.
Er ei fod bellach o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perthyn y Blorens yn ddaearegol i’r maes glo: y talp olaf o dywodfaen yn gwahanu cymoedd Gwent a dyffrynoedd llydan Wysg a Gwy i’r dwyrain. Ond bu cysylltiad agos erioed rhwng trigolion blaenau cymoedd Gwent a’u tref farchnad hanesyddol yn y Fenni, a chyn dyfod y rheilffyrdd, roedd y Blorens yn rhwystr yr oedd rhaid ei groesi er mwyn cael cynyrch gweithfeydd haearn Blaenafon at y môr a’r byd.
Wedi ei lleoli ble mae’r Wysg yn gadael y mynyddoedd, mae’r Fenni yn safle strategol o bwys ers canrifoedd. Cododd y Rhufeiniaid a’r Normaniaid gaerau yn y Fenni i amddiffyn eu llwybrau tua’r gorllewin ac i gadw llygad ar Gymry anystywallt y bryniau. Mae’n le priodol iawn felly ar gyfer pen draw dwyreiniol y teithiau llinellol hyn drwy’r cymoedd.
Am rhyw reswm, mi wnes i’r daith hon mewn cyfeiriad gwahanol i’r lleill i gyd, gan gerdded tua’r dwyrain o Lyn Ebwy i’r Fenni. Mae’n ddigon hawdd ei gwneud i’r cyfeiriad arall gan ddefnyddio’r map.
Rydym yn cychwyn yng ngorsaf dren Tref Glyn Ebwy. O’r orsaf, cerddwch tuag at y rholiwr dur (1), ac yna troi i’r dde i fyny’r ffordd. Pasiwch o dan ddwy bont, a throi i’r dde yn syth ar ôl yr ail un i fyny’r llwybr beics sy’n dod a chi i dop y bont gyntaf ger cylchfan. Ewch i gyfeiriad yr ystad ddiwydianol, ac yna toi i’r chwith rhyw 200 metr wedyn i fyny’r allt. Parhewch ar hyd y ffordd hon, dros y grid gwartheg a heibio’r mast, ac yna heibio bythynod yr hen Morning Star (2). Pan ddewch at giat ar hyd y ffordd cyn Bwlch y Garn, ewch drwy’r giat werdd ar y dde at y tir mynydd agored. Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y comin ar y chwith, ond gan gadw i’r dde a dringo ychydig pan welwch wal a ffens o’ch blaen, er mwyn pasio o amgylch y cwrs golf (3) i gyrraedd trac carregog clir.
Glyn Ebwy oedd un o ganolfanau cynnar diwydiant haearn blaenau’r cymoedd, a’r olaf i ddal gafael ar ei diwydiant dur. Sefydlwyd y ffwrnais gyntaf ar dir fferm Pen y cae yn 1790, ac wedi addasu yn llwyddianus i gynhyrchu dur yn yr 1860au parhaodd y gwaith nes ei gau ddiwedd y 1970au. Roedd y safle yn anferth, gan ymestyn am bron 3 milltir i lawr y cwm: mae’r daith hon yn cychwyn o’i ben gogleddol. Bwthyn a addaswyd yn dafarn yn y 19eg ganrif yw’r Morning Star – gadawodd y cwsmeriaid olaf ym 1984. Er ei bod yn ymddangos yn anghysbell heddiw, byddai wedi bod yn gyrchfan cyfleus ar gyfer gweithwyr glofa Bwlch y Garn a’r chwareli cyfagos. Cwrs golf y West Monmouthshire Golf Club ydi’r uchaf ym Mhrydain.

Edrych yn ol at y Grouse & Snipe o Fynydd Coety
Trowch i’r chwith ar hyd hwn a’i ddilyn nes cyrraedd Nant-y-glo. Mae arwydd brown yn dangos y cyfeiriad at y Tyrrau Crwn (4) tua 200 metr ar y dde, ond mae’r daith yn parhau i lawr y ffordd, heibio’r arhosfa bws a dros Wesley Bridge. Yn y gyffordd, trowch i’r chwith ac yna bron yn syth i’r dde i fyny Porters Road. Dilynwch hon am tua 500 medr nes y gwelwch droad i’r chwith ar ôl rhif 1, Twynderyn Flats. Ewch i fyny’r ffordd gul yma ac yna cadw i’r chwith i ddilyn y trac sy’n parhau i fyny ochr y bryn. Ewch drwy’r giat neu dros y gamfa, er mwyn parhau heibio i gasgliad o gytiau a heibio’r mast.
Codwyd Tyrrau Crwn Nant-y-glo gan y meistri haearn lleol, y Crawshay Baileys, fel amddiffynfeydd personol rhag ofn i’w gweithwyr droi yn eu herbyn yn ystod y cyfnod cythryblus ar ddechrau’r 19eg ganrif pan oedd Nant-y-glo yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau’r Scotch Cattle a’r Siartwyr. Ynghyd a Blaenafon, mae Nant-y-glo yn leoliad blaenllaw yn nofel enwog Alexander Cordell ‘Rape of the Fair Country‘, sy’n olrhain y cyfnod cythryblus hwnnw yn hanes yr ardal.
Mae’r trac yn parhau i ddringo ac yn gwneud tro pedol cyn cyrraedd y Grouse and Snipe Farm (5) (hen dafarn arall) cyn parhau at groesffordd o lwybrau mewn man corsiog. Ewch i’r dde yma, er mwyn dilyn y llwybr sy’n mynd tua’r de-ddwyrain ar hyd cefnen Cefn Coch am tua milltir a hanner. Wrth y ddau dyrbin gwynt, mae llwybr arall ar y chwith a dylech ddilyn hwn drwy’r bwlch rhwng Cefn Coch a Thwyn Ffynhonnau Goerion ac yna i lawr at drac concrid.

Blaenafon a’r Blorens o Fynydd Coety
O’r fan hon, mae sawl ffordd o gyrraedd Blaenafon. Gallech groesi’r trac concrid a pharhau at y Whistle Halt, ac yna dilyn llwybrau oddi yno i ganol y dref. Ond roeddwn am aros ar ochr y bryn am ychydig hirach, ac felly troi i’r dde ar hyd y trac a’i ddilyn am tua milltir – gan gadw i’r chwith yn hytrach na mynd i fyny at y sied fawr ar y dde – nes dod at lecyn llydan gyda cherrig mawr ble mae llwybrau bach yn ymuno a’r trac o’r ddwy ochr iddo. Trowch i lawr y llwybr i’r chwith sy’n pasio heibio olion hen fythynod Coity Mawr (6) at adfail ffermdy Coity Ganol (7) ger dwy goeden, ac yna dilyn y trac llydan ond corsiog oddi yno – gyda’r ffens ar eich chwith – nes cyrraedd y ffordd. Ewch syth yn eich blaen i lawr Forgeside Road ac yna ei dilyn i fyny’r allt ar ôl croesi’r Afon Lwyd.
Mae tref Blaenafon a’r llethrau cyfagos yn dirwedd ôl-ddiwydianol rhyfeddol, gan gynnwys pwll glo, gwaith haearn, cartrefi gweithwyr, wglwysi, capeli a sefydliadau gweithwyr, rheilffyrdd a thramffyrdd, ac olion mwyngloddio, chwarela, sgwrio, a thipio dros ganrifoedd lawer. Oherwydd hynny y cafodd ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2000. Sefydlwyd y Gwaith Haearn yn 1789, ac er iddo newid yn llwyddianus i gynhyrchu dur am gyfnod, fe gaeodd yn 1904. Fel mewn sawl tref haearn arall, daeth cloddio am lo yn fwy pwysig, gyda’r Pwll Mawr yn weithredol am ganrif rhwng 1880 a 1980, er bod pyllau llai wedi eu gweithio cyn hynny. Mae’r pwll a’r gwaith haearn ill dau bellach yn amgueddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae cymaint i’w weld ym Mlaenafon, mae’n teimlo’n anghwrtais jest pasio drwodd. Rhaid felly dod nol rywbryd eto am y diwrnod – mae yna sawl taith gerdded gylchol yn yr ardal hefyd.

Copa’r Blorens
Pan gyrhaeddwch y brif ffordd, trowch i’r chwith a’i dilyn heibio i safle Gwaith Haearn Blaenafon (8) ac yn parhau ar i fyny nes cyrraedd tafarn y Rifleman’s ar y dde. Yma, dylech ddilyn y llwybr sy’n mynd y tu ôl i’r ty gyferbyn a’r dafarn, heibio i siediau ac ymlaen at Bwll Ball. O’r pwll, mae amrywiaeth o draciau yn croesi’r dirwedd anwastad sy’n dangos olion canrifoedd o ddiwydiant haearn y dref, gan gynnwys sgwrio a chloddio am fwyn haearn. Eich nod yw’r mastiau sydd ar y gorwel tua’r gogledd ddwyrain a dylech wneud eich ffordd tuag at y rhain. O’u cyrraedd, croeswch y ffordd a dilyn y llwybr amlwg heibio i fedd Foxhunter ac ymlaen at gopa’r Blorens (9).
Y Blorens (561m) yw mynydd mwyaf adnabyddus a phoblogaidd y maes glo, er nid yr uchaf, ac mae wedi ei gynnwys o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau BrycheiniogParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar dechrau’r 19eg ganrif, gosodwyd Tramffordd Hill’s o gwmpas ochr y Blorens er mwyn cludo cynnyrch Gwaith Haearn Blaenafon a Gefail Garnddyrus at y gamlas yn Llanffwyst, ac oddi yno i ddociau Casnewydd. Byddwch yn dilyn llwybr serth y dramffordd am gyfnod wrth fynd i lawr o’r Blorens i Lanffwyst.

Llwybr Tramffordd Hill’s
O’r copa, ewch yn eich blaen ar hyd y llwyfandir nes mae’r llwybr yn troi i’r dde ar hyd ymyl llethr serth. Dilynwch y llwybr hwn er mwyn dod at y ffordd fynydd, ac oddi yno’r llwybr ar y chwith drwy’r giat i barhau ar eich ffordd i lawr heibio’r Punchbowl a pharhau ar hyd ymyl y bryn. Yng Nghwm Craf dewch at groesffordd o lwybrau, a dylech fynd i’r dde er mwyn dilyn llwybr tramffordd Hill’s (10) i lawr i Lanffwyst. Ar ôl mynd drwy’r twnel o dan y gamlas (11), ac yna croesi’r ffordd, mae’r llwybr yn mynd o dan ffordd arall a heibio i fynwent cyn cyrraedd Pont Wysg ar gyrion Y Fenni.
Bydd eich llwybr oddi yma yn dibynnu ar os ydych am ymweld â chanol y dref ai peidio, ond y ffordd gyflymaf at yr orsaf dren ydi i groesi’r bont ac yna cymryd y llwybr ar y dde sy’n dilyn glan yr afon. Ar ôl pasio Castell y Fenni ar yr ochr arall i’r afon, daw’r llwybr a chi yn ôl at y ffordd fawr, nid nepell o’r orsaf drenau.