This post describes a 5.5 mile walk up Graig Syfyrddin/Edmund’s Tump from Grosmont. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Graig Syfyrddin
Hyd: 5.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 3 awr
Man cychwyn a gorffen: Grosmont
Uchder: 423m
Categori: Marilyn
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Roedd yna reswm arall pam y bu f’ymweliad â Choed Gwent yn un mor frysiog – roeddwn am wneud y gorau o ddiwrnod rhydd drwy gwblhau dau fryn anghyfleus eu lleoliadau ar yr un diwrnod. Yr ail gopa, a’r un mwy diddorol yr olwg o’r ddau, oedd Graig Syfyrddin. Os edrychwn ar fap o Farilyns de Cymru, mae hon yn sefyll ar ei phen ei hun, cryn bellter o bob un arall, a dim ond rhyw filltir o’r ffin â Lloegr. Da o beth felly ei bod yn un sydd werth mynd allan o’ch ffordd i’w dringo, a bod modd cyfuno hynny gydag ymweliad â chastell gwerth chweil Grosmont.
Graig Syfyrddin yn Gymraeg: Edmund’s Tump yn Saesneg. Dwi wedi methu a dod o hyd i unrhyw esboniad o’r enwau hyn, ac eithrio’r cyfeiriad yma gan y bythol wybodus a chymwynasgar Dylan Foster Evans at y posibilrwydd ei bod yn dwyn enw Seru ap Glywys, un o blant ac etifeddion sylfaenydd honedig teyrnas ôl-Rufeinig Glywysing ar hen diriogaeth y Silwriaid ym Morgannwg a Gwent.
Mae’r daith ei hun yn un ddigon syml a hawdd ei dilyn, gyda llwybrau clir bron yr holl ffordd. Dechreuwch ym mhentref Grosmont, a throi i lawr y ffordd rhwng eglwys San Niclas ac Alma House, ac yna i’r chwith i lawr y trac ar ôl y ‘Little Rectory’. Dilynwch hwn ar i lawr at nant Tresenny a’r bont drosti, ac yna’n ôl i fyny’r allt yr ochr arall. Wedi i chi basio Barns Farm (enw addas iawn – mi gyfrifais i o leiaf saith ysgubor o wahanol gyfnodau!) mae’r trac yn mynd yn fwy garw, ac yn dilyn llwybr hen geuffordd nes dod a chi at bostyn gwyn ger masarnen. Ewch dros y gamfa ar y dde (nid yr un o’ch blaen), a dilyn ymyl chwith y cae hyd at gamfa arall ar y top.

Coed Syfyrddin
Trowch i’r dde i mewn i’r goedwig. Ymhen dim fe welwch arwydd Coed Syfyrddin ar y chwith, a dylech adael y prif drac i ddilyn y llwybr llai amlwg hwn drwy’r coed nes dod at gamfa yn arwain allan o’r goedwig ac i dir pori cefnen Graig Syfyrddin. Trowch i’r dde a dilyn cefn y bryn dros ddwy gamfa. Nawr, ar ôl yr ail gamfa mae yna benderfyniad i’w wneud. Mae’r llwybr cyhoeddus yn parhau i ddilyn ymyl y goedwig, ond mae’r copa i fyny’r boncyn ar y chwith, a dylid felly gael caniatâd y tirfeddiannwr (pwy bynnag y bo hwnnw) i’w gyrraedd. Wrth gwrs, fyddwn i fyth yn annog neb i dresmasu, ond pe baech am wneud hynny, efallai y bydd yn gysur nad chi fydd y cyntaf o bell ffordd…. O’r copa ceir golygfeydd eang i bob cyfeiriad, gan gynnwys y Mynyddoedd Duon tua’r gorllewin a gwastadeddau Swydd Henffordd i’r dwyrain.
Er nad ydw i’n ei defnyddio ar gyfer cofnodi fy nheithiau fy hun, byddaf yn aml yn lincio i wefan Hill-bagging – y wefan ar gyfer bobl sy’n hoffi ‘casglu’ bryniau. Mae’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol am bob bryn dan haul (yn yr ynysoedd hyn o leiaf). Ar gyfer pob bryn, ceir adroddiadau byr gan bobl sydd wedi bod i’r copa, yn adrodd eu hynt eu hunain, ac yn rhoi ambell i air o gyngor i’r sawl fydd yn ei dilyn. Er mor anfarddonol eu cyfansoddiad, mae rhai o’r cofnodion am Graig Syfyrddin wedi eu hymgorffori i mewn i gerdd gan y bardd Oli Hazzard sy’n dwyn y teitl Graig Syfyrddin or Edmund’s Tump. Gallwch ei darllen yma.

Copa Graig Syfyrddin
Beth bynnag a wnewch, byddwch angen dod yn ôl at y llwybr, a dilyn ymyl y coed rownd ochr y bryn nes cyrraedd camfa arall sy’n eich arwain yn ôl i mewn i’r goedwig. Dilynwch y llwybr, gan droi i’r dde pan mae’n cwrdd ag un arall, mwy amlwg, a dilyn hwn heibio i gatiau yn dwyn enwau fel Coed Caru a Coed Corras gyda charfanau dirgel yn llechu y tu ôl iddynt. Wedi llai na milltir fe ddewch yn ôl at yr arwydd Coed Syfyrddin a welasoch yn gynharach. Oddi yno, mater hawdd ydi hi o ddilyn ôl eich troed yn ôl i Grosmont gan fod yn siŵr o ymweld â’r castell cyn gadael.
Mae’n debyg bod rhyw fath o gastell Normanaidd wedi sefyll ar safle castell Grosmont (gros mont = bryn mawr) ers 1070, pan gododd Iarll Henffordd, William Fitz Osbern nifer o gaerau ar hyd gororau Gwent yn y blynyddoedd yn union wedi brwydr Hastings. Mae rhan fwyaf o’r hyn sydd i’w weld heddiw fod bynnag yn dyddio o’r 13eg ganrif. Yn 1405, ymosododd Glyndŵr ar y castell gyda byddin o 8,000, ond er i’r pentref gael ei losgi yn ulw, ni lwyddodd i gipio’r castell. Ynghyd a Skenfrith a White Castle, mae’n ffurfio triongl o gestyll amddiffynnol ar yr afon Mynwy a adwaenir fel y ‘Tri Chastell‘ ac sydd heddiw wedi eu cysylltu gan daith gerdded ugain milltir o hyd – un y gallaf ei hargymell yn fawr. Mae’r tri chastell mewn cyflwr rhyfeddol, ac mae castell Grosmont ar agor bob dydd gyda mynediad am ddim.
