This post describes a 20 mile linear walk in south Wales from Neath to Ammanford, via Pontardawe. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Castell-nedd i Rhydaman
Hyd: 20 milltir
Her: anodd
Amser: tua 10 awr
Lluniaeth: Castell-nedd, Pontardawe, Rhydaman
Man cychwyn a gorffen: Gorsafoedd tren Castell-nedd a Rhydaman. Byddwch angen gwiro yr amseroedd tren a sicrhau bod gennych amser i ddal tren yn ol i’r man cychwyn. Mae’n bosib y bydd natur yr amserlen yn ei gwneud yn haws gwneud y daith y ffordd arall, gan orffen yng Nghastell-nedd. Lluniaeth ar gael yng Nghastell-nedd, Pontardawe, a Rhydaman.
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Dyma ni o’r diwedd felly wedi cyrraedd cymal olaf y daith hir o’r Fenni i Rhydaman, o Sir Fynwy i Sir Gâr, drwy galon Morgannwg. Ar y ffordd, rydym wedi croesi maes glo de Cymru. o dref farchnad hanesyddol y Fenni yn nyffryn llydan a glas yr Wysg ar gyrion y Mynyddoedd Duon, i dref ddiwydiannol Rhydaman wrth droed y Mynydd Du unig.
Er y pellter daearyddol, a’r gwahaniaethau diwyllianol, rhwng y ddwy dref mae ganddynt lawer yn gyffredin hefyd. Rydym yn gorffen fel y gwnaethom gychwyn, ymysg y cylch o hen weithfeydd haearn sy’n amgylchynu y maes glo ei hun. Sefydlwyd gwaith haearn yng Nghastell-nedd, fel yng Nglyn Ebwy, ar ddiwedd y 18eg ganrif, pan oedd rhan helaeth de Cymru yn dal i fod yn wledig a diarffordd, a tua chanrif cyn anterth y diwydiant glo.
Mae’n addas efallai ein bod yn coroni’r gyfres gyda’r cymal hiraf oll, gyda taith o ugain milltir – yn anffodus, mae rheilffyrdd yn mynd yn fwy prin wrth i ni fynd tua’r gorllewin! Siwrne saff i chi.
Gyda’ch cefn at fynedfa’r orsaf drenau, ewch i’r chwith i lawr The Parade a Croft Road, gan basio gwesty hanesyddol Y Castell – ble sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru ym 1881 – ar y dde, cyn troi i’r chwith oddi tan traphont y rheilffordd er mwyn cyrraedd y bont dros yr afon Nedd. Ewch i lawr y grisiau i’r chwith oddi ar y bont a dilyn y llwybr rhwng yr afon a chamlas Tennant. Parhewch gyda’r gamlas ar eich dde am tua milltir, nes gwelwch adfeilion Abaty Castell-nedd (1) ar yr ochr arall. Croeswch y bont tuag at yr Abaty a pharhau ar hyd Monestary Road at y gylchfan. Ewch i fyny’r ffordd gyferbyn a chi, ac yna troi i’r chwith bron ar unwaith ar hyd Hill Road a dilyn y stryd honno nes y dewch at The Highlands.
Gyda’i lleoliad strategol ar aber yr afon Nedd, mae hanes Castell-nedd yn mynd yn ôl at o leiaf oes y Rhufeiniaid, pan sefydlwyd caer Nidum ar lan orllewinol yr afon. Codwyd y castell sy’n rhoi ei enw i’r dref gan y Normaniaid rhwng yr 11eg a’r 13eg ganrif, tra bo’r Abaty wedi ei sefydlu yn hanner cyntaf yr 12fed ganrif. Ymhen amser daeth y diwydianau haearn a chopr yn bwysig i’r dref, ac adeiladwyd Camlesi Nedd a Tennant i gludo’r nwyddau i’r dociau.
Trowch i’r dde ac yna’r i’r dde eto i fyny’r allt, gan ddilyn Drumau Road rhwng y tai nes bod coed ar yr ochr chwith i’r ffordd. Yn fuan, fe welwch dŷ Brynderwen ar y dde, gyda llwybr ceffyl yn ystumio yn eithaf serth drwy’r goedwig nes dod allan i dir agored ger adfail ffermdy Penlan. Parhewch i ddilyn y trac ar hyd ymyl y cae at giât mewn rhes o goed. Ar ôl mynd drwy’r giât, mae’r llwybr yn dilyn y tir uchaf ar hyd crib Mynydd Drumau at y Garreg Bica (2) – maen hir 4 metr o’r Oes Efydd sydd bellach wedi ei hymgorffori i mewn i ffin y cae, ac yn gwneud gwaith fel postyn giât!
Peidiwch mynd drwy’r giât ger y garreg, ond yn hytrach torri i’r chwith a dilyn y ffens at y giât fechan yng nghornel y cae sydd yn dod a chi at drac clir unwaith eto. Dilynwch hwn ar hyd ymyl y mynydd am tua milltir eto, nes iddo ddod a chi i lawr at beilon trydan mawr. Pasiwch ar y chwith (gorllewin) i’r peilon er mwyn dilyn y llwybr i mewn i gae arall, a draw draws y cae hwnnw at y giat yn y gornel dde bellaf. Yr ochr arall i’r giat mae trac sydd yn troi yn fuan iawn yn ffordd. Trowch i’r chwith wrth stablau Tyle Coch a dilyn y ffordd am ychydig dros hanner milltir. Tua 200 metr ar ôl pasio Cilhendre Fach, mae llwybr ar y dde yn arwain at bentref Alltwen.
Trowch i’r chwith i lawr Lon y Wern ac yna croesi’r ffordd i barhau ar hyd llwybr cyhoeddus. Parhewch yn yr un cyfeiriad nes cyrhaeddwch faes parcio Tesco – mae’r llwybr yn parhau yr ochr arall i’r ffordd sy’n dod i mewn i’r safle. Croeswch bont dros yr Afon Tawe, troi i’r chwith a dilyn y llwybr ar hyd yr afon a’r gamlas nes cyrraedd y loc a’r bont dros y gamlas yn Nhrebanos.
Camlas Abertawe yw hon, a adeiladwyd rhwng 1794 a 1798 i gludo glo a haearn o flaenau Cwm Tawe i’r diwydianau metal a’r dociau yn ninas Abertawe. Yn wreiddiol, ymestynai am dros 16 milltir o Abercraf i’r môr, ac fel camlesi eraill y cymoedd, doedd ei llwybr ddim yn un hawdd. Roedd 36 loc i gyd ar ei hyd i wneud iawn am y 114 metr o wahaniaeth uchder rhwng y ddau ben, ynghyd a phum traphont i gludo’r gamlas dros lednentydd fell y Clydach, y Twrch a’r Giedd. Datblygodd diwydiannau a phentrefi Cwm Tawe ar ei hyd, nes i’r rheilffordd gymryd rhan helaeth ei busnes yn ail hanner y 19eg ganrif. Roedd wedi cau yn llwyr erbyn 1958.
Croeswch y bont ac yna’r ffordd er mwyn mynd i fyny Pheasant Road gyferbyn. Dilynwch y ffordd hon wrth iddi weithio ei ffordd i fyny ochr y bryn, gan gulhau yn raddol nes yn y pen draw rydych ar drac caregog sy’n dringo’n serth. Pan gyrhaeddwch ffordd gul, ewch i’r chwith, dde ac yna i’r dde eto ac fe ddewch at grid gwartheg. Cymerych y llwybr ar y chwith yn union wedi’r grid gwartheg ac yn fuan iawn fe welwch Gapel Gellionnen (3) o’ch blaen ar ymyl y tir agored.
Gellionnen ydy’r cyntaf o ddau gapel hanesyddol ar yr ucheldir rhwng Cwm Tawe a Dyffryn Aman y byddwch yn mynd heibio iddynt. Gellionnen sydd a’r hanes hiraf – yn wir dyma un o’r capeli hynaf yn yr ardal gyfan – wedi ei sefydlu gyntaf gan anghydffurfwyr yn 1692. Dyddia’r adeilad presenol yn ol i 1801, yn fuan wedi i’r capel ddod yn achos Undodaidd. Er ei fod yn ymddangos yn ddiarffordd heddiw, ar y pryd roedd ei leoliad ger croesffordd yn ei wneud yn hygyrch i addolwyr o ardal eang. Achosodd y newid mewn diwynyddiaeth rwyg yng nghynulleidfa Gellionnen, gyda chyfran yn gadael yn 1802 i sefydlu’r achos newydd yn Baran, ger croesffordd fynyddig arall tua dwy filltir tua’r gogledd ar Fynydd Carnllechart. Gellir dysgu llawer mwy am hanes y ddau gapel ar wefan Welldigger, yma ac yma.
O’r capel, parhewch yn yr un cyfeiriad i ddod at ffordd fechan. Trowch i’r chwith a cherdded ar hyd y ffordd wrth iddi fynd i lawr allt, a chroesi nant fechan. Yn fuan wedi’r nant, mae giat fawr ar y dde, a dylech fynd drwyddi a dilyn y trac clir heibio adeiladau fferm Llechart Fach. Pan ddaw’r trac at gae, trowch i’r chwith er mwyn cychwyn i fyny’r llethr – trowch i’r dde ar ôl y gorlan er mwyn parhau i ddringo gyda’r clawdd ar y chwith i chi nes dewch at fynydd-dir agored Mynydd Carnllechart. Mae’r siambr gladdu (4) ar dir ychydig yn uwch ar y dde i chi.

Mae Carn Llechart yn dyddio o droad yr Oes Efydd tua 2,000 o flynyddoedd Cyn Crist, gyda chylch o hyd at 25 o gerrig yn sefyll o gwmpas siambr gladdu. Dyma un o fy hoff leoliadau ar hyd y daith – wrth oedi am ennyd yn nhawelwch y llecyn anghysbell yma, mae posib teimlo’n syndod o agos at y bobl hynny a greodd y gofeb hon 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wir, mae’n bosib iawn bod rhai ohonynt yn dal yma, wedi eu claddu o fewn y cylch.
O’r siambr gladdu, dilynwch y llwybr amlwg sydd yn mynd tua’r gogledd ar hyd ysgwydd y mynydd. Yn y man, fe welwch Gapel y Baran (5) o’ch blaen a dylech anelu amdano.
O’r capel, ewch i fyny’r trac a chroesi’r ffordd er mwyn dringo ar eich union i gopa Bryn Mawr, sydd wedi ei nodi gan biler yr OS. O’r copa, ewch yn eich blaen yn yr un cyfeiriad gan gadw i’r chwith pan welwch wal a ffens o’ch blaen er mwyn dod at giat, a dilyn y trac i lawr tua’r pant a thrwy giat arall. Ar y chwith, fe welwch amlinelliad bwthyn a arferai sefyll yma, o’r enw Pant y Boblen (6). Fel mae’n digwydd, mae’r daith yma hyd yn hyn wedi glynu yn agos at y ffin fodern rhwng siroedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ond yma, rydych yn croesi’r ffin llawer mwy hanesyddol rhwng Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, ac felly rhwng de a gorllewin Cymru. Mae’n bosib hyd yn oed mai hon oedd y ffin rhwng llwythi’r Silwriaid a’r Demetae cyn dyfod y Rhufeiniaid i Gymru. Mae’n foment arwyddocaol felly, yn enwedig os ydych wedi cerdded y teithiau hyn yr holl ffordd o’r Fenni yn y dwyrain, ac yn arwydd bod pen y daith yn agosáu o’r diwedd!
Oddi yma, dilynwch drac y fferm wynt i fyny’r llethr gyferbyn a’i ddilyn am tua 2 filltir wrth iddo wneud ei ffordd tuag at Fanc Cwmhelen ac yna Mynydd y Betws. Ar ôl tyrbin rhif 7, mae llwybr ar y dde sy’n arwain ar draws y rhostir. Wedi croesi darn o dir corsiog, dylech adael y llwybr a throi i’r chwith er mwyn ennill y tir uchaf a’i ddilyn at biler concrit yr OS.
O’r piler, trowch i’r dde (gogledd-orllewin) a mynd i lawr at y trac. Pasiwch i’r chwith o’r Full Moon a mynd drwy’r giat i ddilyn llwybr corsiog. Ewch dros y gamfa i gae bychan ac ar draws hwnnw at iard y fferm Llethrlan Fawr, gan droi i’r chwith yn union ar ôl y sied. Fe ddewch at drac carregog (ac o bosib gwlyb!), a dylech droi i’r dde i lawr hwn nes dod, drwy giat, at iard fferm Tir Elaenor Morgan. Ewch yn eich blaen i lawr y ffordd, a phan mae’r ffordd yn troi tua’r chwith, ewch yn syth ymlaen i lawr y llwybr. Ar ôl croesi nant fechan fe ddewch eto at ffordd. Ewch i’r dde i lawr y ffordd am tua 100 metr, heibio mynedfa i dŷ ar y dde, ac yn fuan wedyn fe welwch giat mochyn yn y clawdd. Ewch drwyddi i mewn i’r cae ac yna drwy ddwy giat arall i ddod at bont. Croeswch honno a throi i’r chwith er mwyn dilyn y llwybr ar hyd y nant nes dod at ffordd fechan arall. Ewch i’r chwith i lawr hon, a phan ddewch at ffordd fwy, ewch i’r chwith ac yna i’r dde i lawr y llwybr sydd unwaith eto yn dilyn y nant.
Yn y man, fe ddewch at y ffordd fawr drwy Betws a dylech droi i’r dde i’w dilyn heibio’r parc a dros yr afon Aman i ganol tref Rhydaman ei hun. Oddi yno, dilynwch Lon Tir-y-Dail i gyrraedd yr orsaf drenau.
Datblygodd tref Rhydaman o amgylch pentref bach gwledig Cross Inn, a oedd wedi cymryd enw’r gwesty a safai ger man croesi’r afon yn darparu loches i deithwyr rhwng Abertawe a Llandeilo. Newidiwyd yr enw ym 1880, wrth i Rydaman dyfu yn sgîl datblygiad y diwydiant glo caled yn nyffryn Aman. Mae’n debyg bod Betws ymysg y canolfanau hynaf yn yr ardal, gyda’r enw yn awgrymu ei fod yn gartref i sefydliad crefyddol hanesyddol, a roddodd yn ei dro ei enw hefyd i Fynydd y Betws yr ydych newydd gerdded drosto.
Dyma, o’r diwedd, ben y daith – boed honno wedi cychwyn i chi yng Nghastell-nedd, neu yn Y Fenni. Gobeithio i chi fwynhau’r siwrne!

