Mae’r wefan hon yn cofnodi crwydriadau gogleddwr yn ei fro fabwysiedig, gan gynnwys yn bennaf deithiau cerdded ym Morganwg a Gwent, ynghyd ag ambell i daith beic, a phytiau am leoedd o ddiddordeb hanesyddol yn yr ardal. Bosib y byddaf yn mentro yn bellach i ffwrdd o dro i dro hefyd….
Pan ddechrauais y wefan, doedd gen i ddim pwrpas penodol mewn golwg, ond dros amser mae wedi dod i ganolbwyntio yn bennaf ar ddau fath o deithiau cerdded: y teithiau llinellol ar draws y cymoedd yr oeddwn wedi bwriadu eu gwneud o’r dechrau, ac yna y nod o gwblhau a dogfennu pob Marilyn ym Morgannwg a Gwent. Heb os, bydd y ffocws yn newid eto dros amser.
Ceir dolenni at fapiau ar ViewRanger ar gyfer teithiau cerdded, a Strava ar gyfer teithiau beic. Mae croeso i chi gysylltu os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r teithiau.
Tra bo gen i ddiddordeb mewn hanes, tydw i ddim yn unrhyw fath o hanesydd. Fy nod felly ydi rhannu gwybodaeth yr wyf wedi ei gasglu am y mannau yr wyf yn ymweld a hwy , a byddaf yn darparu doleni at ffynhonellau neu ddarllen pellach ble bynnag mae’n bosib. Rwy’n fwy na hapus i gael fy nghywiro os ydw i wedi cam-ddeall neu gamarwain, ac wastad yn ddiolchgar iawn o gael fy mhwyntio at wybodaeth newydd neu ychwanegol.