Ffynnon Taf i Crosskeys


This post describes an 14 mile linear walk from Taffs Well to Crosskeys in the south Wales valleys, via Craig yr Allt, Ruperra Castle, and Mynydd Machen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


 Ffynnon Taf i CrosskeysTWCK

Hyd: 14 milltir
Her: canolig/anodd
Amser: tua 7 awr
Lluniaeth: Ffynnon Taf, Black Cock – Mynydd Caerffili, Draethen, Crosskeys
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Ffynnon Taf a Crosskeys. 6 tren yr awr rhwng Caerdydd a Ffynnon Taf, ac un yr awr o Gaerdydd i Crosskeys (Llun i Sadwrn)

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Cyn cychwyn y tro yma, rhaid wrth gyfaddefiad bach. Fe gofiwch fod y teithiau llinellol presennol yn ein tywys yn ôl o Faesteg i Lyn Ebwy. Maent felly ym mynd o’r gorllewin i’r dwyrain, a gyda ni wedi gorffen yn Ffynnon Taf y tro diwethaf, mae’n iawn fod y daith hon yn cychwyn yno ac yn ein hebrwng i Crosskeys. Ond, y gwir amdani ydi fy mod i fy hun wedi gwneud y daith hon ddwywaith, ac mai’r ffordd arall o gwmpas fuodd hi bob tro – sef o Crosskeys i Ffynnon Taf. Mae yna reswm da am hynny – gydag un trên yr awr o Gaerdydd i Crosskeys ond chwech i Ffynnon Taf, roedd yn gwneud synnwyr i mi orffen yn Ffynnon Taf gan wybod na fyddai rhaid i mi aros yn hir am drên tuag adref, pryd bynnag y buaswn yn gorffen. Hefyd, rhaid ystyried bod y beint yn Fagin’s yn fwy boddhaol ar ddiwedd taith nag a fyddai ar ei dechrau!

Felly, gyda hynny o ddatguddiad allan o’r ffordd, rhowch eich anghrediniaeth o’r neilltu, ac ymunwch gyda mi ar daith ffantasi o Ffynnon Taf i Crosskeys…. Darllen y cofnod yn llawn…

Mynydd Dinas a Foel Fynyddau


This post describes a 11 mile circular walk up Mynydd Dinas and Foel Fynyddau from Pont-rhyd-y-fen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd Dinas a Foel Fynyddau


Hyd:
11 milltir
Her: canolig/anodd
Amser: tua 5-6 awr
Man cychwyn a gorffen: Pontrhydyfen
Uchder: Mynydd Dinas (258m) a Foel Fynyddau (370m).
Categori: Marilyn (x 2)

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a Manylion ar OutdoorActive


Weithiau byddaf yn gwneud gwaith ymchwil cyn mynd ar daith er mwyn canfod pethau o ddiddordeb i ymweld â hwy ar y ffordd. Dro arall, byddaf yn dod at draws llefydd yn annisgwyl wrth gerdded ac yn edrych i mewn iddyn nhw ymhellach ar ôl dod nôl (mae’r adfeilion ar ochr y Garth yn esiampl berffaith o hynny).

Photo 23-08-17 14 39 35

Cwm Afan o Foel Fynyddau

Ar gyfer y daith yma, fy nhybiaeth cyn cychwyn oedd mai pentref Pontrhydyfen* ei hun fyddai’r prif ddiddordeb, ac yr un oedd fy nghred ar ôl i mi fod hefyd. Ond wedyn, drwy hap wrth chwilio am rywbeth arall, dyma ddarganfod fy mod – yn gwbl ddiarwybod i mi – wedi dod ar draws un o ryfeddodau’r Forgannwg ddiwydianol ar gopa Foel Fynyddau. Mwy am hynny nes ymlaen….

Darllen y cofnod yn llawn…

Gornestau Cerdded

Ddoe, bum ar daith o Crosskeys i Ffynnon Tâf. Bydd disgrifiad yma yn y man, ond dim ond nodyn byr ydi hwn am gyd-ddigwyddiad bach a arweiniodd fi ar drywydd darllen annisgwyl.

Fel y byddaf yn aml yn gwneud ar ôl taith, mi chwiliais am enwau rhai llefydd ar y ffordd ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. O chwilio am dafarn yr Hollybush yn Draethen be ddaeth i’r golwg oedd dwy sdori gyfochrog o 1903. Roedd un yn ymwneud a Draethen, ond tafarn yr Hollybush yn yr Eglwys Newydd oedd dan sylw yn y llall. Roedd y ddwy yn son am ornestau cerdded o’r cyfnod, rhywbeth nad oeddwn wedi clywed amdanynt o’r blaen ac – yn ddigon naturiol – a hawliodd fy niddordeb. Ac felly dyna fy mhrynhawn Sul wedi mynd yn chwilota am fwy o wybodaeth.

Mae’r canlyniadau yn yr edefyn trydar isod (cliciwch i weld y cyfan).

Cyd-ddigwyddiad arall ydi ein bod yn digwydd bod wedi cael sgwrs fer yn Ffynnon Tâf efo dyn yr oedd ei ferch yn rasio cerdded, ac yn ddeilydd record Prydain dros 5 kilomedr (21 munud os dwi’n cofio’n iawn). Yn anffodus, dydw i heb allu canfod unrhyw fanylion amdani ar y we – eironig braidd ei bod yn haws dod o hyd i hanes cerddwyr o ganrif yn ôl na rhai cyfoes!

Llanharan i Ffynnon Taf


This post describes an 11 mile linear walk from Llanharan to Taffs Well in the south Wales valleys, via Llantrisant and Garth Hill, with several places of historical interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Llanharan i Ffynnon Taf

Hyd: 11 milltir
Her: canolig
Amser: tua 5 awr
Lluniaeth: Llanharan, Llantrisant a Ffynnon Taf
Man cychwyn a gorffen:  Llanharan a Ffynnon Taf. Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau le gan newid yng Nghaerdydd. Dim gwasanaeth i Lanharan ar y Sul.

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Cyn i mi ganolbwyntio am gyfnod ar ‘dri chopa Caerffili’ (Mynydd Machen, Mynydd y Lan, a Mynydd Twyn Glas), roedd y daith linellol ddiwethaf wedi dod a ni i Lanharan – pentref yng ngororau’r Fro rhwng Llantrisant a Phen-y-bont. Aiff a’r daith nesaf hon a ni oddi yno dros Fynydd Garthmaelwg i Lantrisant, ac yna dros y Garth i gwm Taf gan orffen ym mhentref Ffynnon Taf. Dyma ardal o dirwedd gymysg sy’n rhychwantu’r ffin rhwng y Blaenau a’r Fro, gyda thiroedd mynyddig a choediog am yn ail gyda thir amaethyddol ffrwythlon. Mae Llanharan a Llantrisant yn ganolfannau hanesyddol a drawsnewidiwyd dros y ddwy ganrif ddiwethaf gan eu lleoliad ar derfyn deheuol y maes glo, ond sydd wedi cadw nifer o’u nodweddion hynafol, tra bo Ffynnon Taf yn bentref diwydiannol sy’n digwydd bod yn gartref i unig ffynnon dwym Cymru.

Darllen y cofnod yn llawn…

Mynydd y Lan


This post describes a 9 mile circular walk up Mynydd y Lan, near Crosskeys. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd y Lan

Hyd: 9 milltir
Her: canolig
Amser: tua 4-5 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmfelinfach
Uchder: 381m
Categori:Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey

Map a Manylion ar OutdoorActive


Fe fyddwch wedi sylwi nad oeddwn wedi cymryd rhyw lawer at y bryn diwethaf i mi ymweld ag o, Mynydd Twyn-glas, yn rhannol oherwydd ei gopa gwastad, di-nodwedd, ond hefyd oherwydd rhyw deimlad o ddiflastod cyffredinol o gwmpas y lle. Efallai mai fi oedd yn cael diwrnod gwael, oherwydd mae pen Mynydd y Lan yr un mor wastad, a hyd yn oed yn fwy di-nodwedd – tydi o ddim hyd yn oed wedi haeddu ymweliad gan yr OS a’u pileri concrid. Ond diawch, mi wnes i fwynhau’r daith yma. Mae’n siwr bod cyfuniad o dywydd braf a chwmni da wedi helpu, ond mae llawer o’r clod yn perthyn i’r bryn ei hun a’i gyffiniau oherywdd dyma ardal ddiddorol tu hwnt, yn llawn hanes amrywiol.

Darllen y cofnod yn llawn…

Mynydd Twyn Glas


This post describes a 4 mile circular walk up Mynydd Twyn-glas  from Upper Cwmbrân. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd Twyn Glas

Hyd: 4 milltir
Her: hawdd
Amser: tua 2 awr
Man cychwyn a gorffen: Cwmbrân Uchaf
Uchder: 472m
Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey


Map a Manylion ar OutdoorActive


Nid pob bryn a chopa sydd yn gydradd o ran eu hapêl. Mae’n anochel bod rhai yn fwy diddorol, yn cynnig gwell golygfeydd, neu fwy o her (ac felly boddhad) na’i gilydd. Mae’r pedwar copa sydd wedi eu trafod eisoes i gyd yn rai ble bydd y rhai sy’n gwneud yr ymdrech i’w cyrraedd yn cael eu gwobrwyo mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn anffodus, er mai dyma’r uchaf o gryn dipyn, tydi’r un peth ddim yn wir am Fynydd Twyn Glas, .

P1020972

Blaen Brân

Er bod digon o ddiddordeb i’w gael ar ei lethrau (dyma fam-fynydd Twmbarlwm, dair milltir i’r de ar hyd crib wastad) mae’r copa ei hun yn ddinodwedd heblaw am y mastiau a pheilonau trydan niferus. A tra ceir golygfeydd ar y ffordd i fyny, erbyn cyrraedd y top, mae’r rhain wedi eu cuddio gan y copa gwastad. Dyma fryn felly sy’n debygol o apelio at gerddwyr sydd un ai yn y busnes o gasglu Marilyns, neu sy’n pasio heibio ar eu ffordd i rywle arall: rhywbeth y byddwn yn ei wneud ar y cymal Crosskeys i Bont-y-pŵl o’r teithiau llinellol. Yn y cyfamser, dyma daith gylch fer o Gwmbrân Uchaf – rhywle sydd werth ymweld ag o – i’r rhai sydd eisiau gallu dweud ‘bûm i yno’, heb ormod o ymdrech.

Darllen y cofnod yn llawn…

Mynydd Machen


This post describes a 7.5 mile circular walk up Mynydd Machen from Lower Machen, with an additional section along the Rhymney river. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Mynydd Machen

Hyd: 7.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 4 awr
Man cychwyn a gorffen: Machen Isaf
Uchder: 362m
Categori:Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey

Map a Manylion ar OutdoorActive


Gyda thri o gopaon cyfleus (o Gaerdydd o leiaf) de Morgannwg wedi eu cwblhau, mae’n amser croesi’r ffin hanesyddol i Sir Fynwy am y tro cyntaf. Dilynai’r ffin hanesyddol rhwng Morgannwg a Gwent yr un hŷn fyth rhwng cantrefi Senghennydd a Gwynllŵg. Y ffin honno oedd yr afon Rhymni o’i tharddiad i’r môr, ond torrwyd ar y dilyniant hanesyddol gydag ail-drefnu 1974 pan osodwyd y ffin rhwng siroedd newydd Morgannwg Ganol a Gwent yn bennaf ar hyd y gadwyn o fryniau i’r dwyrain – y gadwyn sy’n cynnwys Mynydd Machen. Golygodd hyn rannu plwy hanesyddol Machen, gyda’r rhan uchaf ym Morgannwg Ganol a’r hanner isaf yng Ngwent: rhaniad sy’n parhau heddiw gyda’r naill yn sir fodern Caerffili a’r llall yng Nghasnewydd.

P1020925

Eglwys Mihangel Sant, Machen Isaf

Dyma ardal o bwys strategol dros y canrifoedd, ble mae dyffryn y Rhymni yn lledu wrth iddi ymlwybro o’r Blaenau tua’r Fro (ystyr Machen ydi ‘gwastatir Cein’, gyda Cein yn enw person sy’n anhysbys erbyn heddiw). A thra datblygodd pentref modern Machen o gwmpas y diwydiannau trwm o’r 17eg ganrif ymlaen, mae canolbwynt hanesyddol yr ardal ymhellach i lawr y dyffryn ym Machen Isaf wedi cadw ei naws wledig a hynafol.

Nid dyma’r ffordd fyrraf na chyflymaf i fyny Mynydd Machen, ond mae’n daith sy’n caniatáu ymweld ag ambell i le o ddiddordeb hanesyddol yn y dyffryn islaw hefyd. Os byddai’n well gennych gasglu’r copa a mynd adref yna fe welwch o’r map fod yna opsiynau digon syml ar gyfer gwneud hynny, gan ddechrau ym Machen Uchaf neu Isaf.

Darllen y cofnod yn llawn…

Cefn Eglwysilan: tro bach hamddenol


This post describes an easy 4 mile circular walk around Cefn Eglwysilan from the Rose & Crown, Eglwysilan. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


CefnEglwysilan2

Cefn Eglwysilan

Hyd: 4 milltir
Her: hawdd
Amser: llai na 2 awr
Man cychwyn a gorffen: Rose & Crown, Eglwysilan
Uchder: 382m
Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey

Map a Manylion ar OutdoorActive


Rwy eisoes wedi disgrifio taith i fyny Cefn Eglwysilan o Senghennydd, ond mi soniais ar ddechrau honno bod sawl ffordd haws o fynd i fyny’r bryn bach arbennig yma.

Dyma felly dro hawdd ei dilyn y gall unrhywun ei gwneud, gan gynnwys teuluoedd a rhai sydd newydd gael llond bol o ginio Sul yn y Rose & Crown! Cylchdaith syml, 4 milltir o hyd, o amgylch Comin Eglwysilan gan gynnwys copa Cefn Eglwysilan. Mae’n cynnwys golygfeydd bendigedig i bob cyfeiriad ar ddiwrnod clir – o’r Bannau i’r mor a thu hwnt. Dim gormod o ddringo, bron dim pobl, a thafarn (a/neu eglwys wrth gwrs!) i orffen. Yn wir, be na bai am wehilion cymdeithas sy’n mynnu defnyddio’r comin fel tomen sbwriel, byddai’r daith yma yn agos at fod yn berffaith.

O faes parcio’r Rose & Crown, trowch i’r chwith ac yna ewch syth yn eich blaen yn y groesffordd a dilyn y trac at y comin. Bosib bydd rhaid i chi ddringo dros y giat, oherwydd awydd dealladwy ffermwyr i atal cerbydau rhag cael mynediad at y tir agored. Dilynwch yr un llwybr ar hyd ymyl y comin, nes cyrraedd trac arall sy’n troi i’r chwith. Dilynwch hwn at y mastiau, ac yna ar draws y pant at yr ail gopa sydd a philer ar ei gopa. (Mae cadw i’r dde yn helpu osgoi y tir gwlypaf). Oddi yno, dilynwch grib y bryn tua’r de ac yna’r ffordd fynydd i ddod a chi’n ôl at eich man cychwyn.

Yr olygfa i’r de, yn cynnwys Mynydd Meio, Craig yr Allt, Y Garth, Ceunant Taf, Caerdydd, Penarth a Mor Hafren

 

 

Sarn i Lanharan


This post describes a 10.5 mile linear walk from Sarn (Bridgend) to Llanharan in the south Wales valleys, via Blackmill and Mynydd y Gaer with several places of historical interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Sarn i Lanharan

Hyd: 10.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 5 awr
Lluniaeth: Melin Ifan-ddu a Llanharan
Man cychwyn a gorffen: gorsafoedd tren Sarn ger Penybont, a Llanharan (rhwng Llantrisant a Phencoed). Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau le a Phenybont/Caerdydd, ac yn uniongyrchol o’r naill i’r llall. Dim gwasanaeth ar y Sul.

Map a manylion ar Ordnance Survey

Map a manylion ar OutdoorActive


Daeth y daith linellol ddiwethaf a ni o Faesteg i Sarn – maestref i Ben-y-bont sydd bellach yn adnabyddus am ei gwasanaethau traffordd, McArthur Glen, a Gareth Thomas, ond sydd hefyd yn cynnwys eglwys ganoloesol plwyf Llansanffraid-ar-ogwr. Aiff a’r daith nesaf hon a ni oddi yno, ar hyd yr afon Ogwr hyd at Melin Ifan Ddu, ac yna tua’r dwyrain ar hyd Mynydd y Gaer a Mynydd Maendy i Lanharan wrth droed Mynydd Garthmaelwg.
Y daith o Felin Ifan Ddu i Lanharan ydi fy hoff ran o gefnffordd Morgannwg, gyda thir agored Mynydd y Gaer yn cynnig golygfeydd gwych dros y Fro a’r môr i’r de, yn ogystal a’r ucheldir tua’r gogledd. Mae cerdded hen ffordd y plwy heibio Llandedr ar Fynydd fel teithio yn ôl drwy amser.
Photo 07-01-2017, 11 29 57

Melin Ifan Ddu o Graig Tal-y-fan

O orsaf Sarn, pasiwch eglwys San Ffraid a chroesi’r afon Ogwr ger y caeau pêl-droed. Mae’r daith yn parhau i ddilyn yr afon gan ymuno a llwybr hen Reilffordd Cwm Ogwr ym Mrynmenyn. Yn anterth oes y rheilffyrdd, roedd cyffyrdd Brynmenyn a Tondu ymysg y prysuraf yn ne Cymru, gyda threnau i ac o, Maesteg, Blaengarw, Nant-y-moel, Gilfach Goch, Llanharan, Porthcawl, Margam, a Chaerdydd i gyd yn pasio drwyddynt. Ddwy filltir ar ôl gadael yr orsaf, ble mae Nant Clydwyn yn ymuno a’r Ogwr ger hen ryd (1), mae gennych ddewis rhwng cadw at yr un llwybr am ddwy filltir arall , neu gymryd detour ar hyd Craig Tal-y-fan. Mae’r dewis cyntaf yn fwy gwastad a syml, tra bo’r ail yn golygu ychydig o ddringo ond yn cynnig golygfeydd ehangach o’r herwydd.

Darllen y cofnod yn llawn…

Mapio Cwm yr Aber

Fe ddechreuodd taith Mynydd a Chefn Eglwysilan yn Senghennydd, ym mlaen Cwm Aber: un o gymoedd llai’r maes glo. Wrth edrych ar hen fapiau Ordnance Survey o’r ardal, fel y byddaf yn gwneud yn aml wrth baratoi i fynd i ardal newydd, fe sylwais fod yna rywbeth diddorol am y mapiau o’r cwm yma, nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen.

Cwm Aber, sydd hefyd wedi cael ei adnabod yn y gorffennol fel Cwm Tridwr a Chwm Parc, oedd un o’r rhannau olaf o’r maes glo i gael ei ddatblygu. Ar ddiwedd yr 1880au, pan oedd diwydiant glo’r Rhondda yn ei anterth, a phentrefi mor ddiarffordd â Glyncorrwg, Blaengarw a Bedlinog eisoes ar y map, roedd y cwm bach yma ar gyrion Caerffili heb ei gyffwrdd.

Fel mewn sawl ardal arall, pan drefolwyd yr ardal yn y pen draw, datblygodd megis dros nos, ymledodd fel tân gwyllt, a ddaeth a thrasiedi i’w ganlyn. Yn wir, heblaw bod trychineb ddiwydiannol fwyaf Prydain wedi digwydd ym mhwll yr Universal ym 1913, debyg na fyddai Senghennydd a Chwm Aber yn ddim mwy na throednodyn bach yn hanes y maes glo. Ond y cyfle unigryw mae datblygiad hwyr Cwm yr Aber yn ei roi i rywun fel fi sy’n hoff o bori hen fapiau, ydi bod posib ei olrhain o’r cychwyn cyntaf drwy fapiau County Series yr Ordnance Survey, a gyhoeddwyd gyntaf yn yr 1870/80au, pan oedd y cwm yn dal i fod yn gwbl wledig.

Darllen y cofnod yn llawn…