Dirgelwch y Bedol


This post looks at the possible history of a horseshoe that was found under our house near Whitchurch Common, Cardiff. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Photo 04-02-2018, 14 04 48Rydan ni wedi bod yn cael gwaith wedi ei wneud ar y tŷ yn ddiweddar, ac wrth gloddio wrth ochr y ty yn yr hydref daeth yr adeiladwyr o hyd i hen bedol rydlyd. Rŵan, gewch chi neb llai ofer-goelus na fi, ond dwi yn hoff o hen bethau, yn enwedig rhai sy’n fy nghysylltu efo’r gorffennol gwledig. Felly, yn ogystal â glanhau y bedol (asid sitrig a lot o sgwrio), dwi wedi bod yn ceisio canfod mwy o’i hanes hefyd.

I gychwyn, dyma edrych i weld ym mha gae y’i collwyd, a diolch i wefan Lleoedd Cymru LlGC mi allaf weld bod ein tŷ yn sefyll mewn cae o’r enw Pump Erw Waun oedd, yn 1840, yn rhan o fferm Ty’n y Parc. (Roedd ffermdy Ty’n y Parc ei hun yn ymyl lle mae’r orsaf betrol Tesco ar gornel Manor Way a Ffordd Ty’n y Parc heddiw). Pum Erw Waun ydi cae rhif 260 ar y map, ac mae’r triongl goch yn dangos lle ganfuwyd y bedol.

Photo 28-09-2017, 19 25 14

Map Degwn 1840 (Lleoedd Cymru)

Beth am ei hoedran felly? Codwyd y tŷ yn y 1930au – degawd a welodd y caeau glas i’r gogledd o Gaerdydd yn diflannu dan goncrid, gyda chodi’r strydoedd lu o ‘semis’ sy’n nodweddiadol o ardaloedd yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina, Birchgrove a’r Mynydd Bychan. Rhaid felly ei bod yn o leiaf 80 oed, ond roeddwn am wybod mwy.

Darllen y cofnod yn llawn…

Gornestau Cerdded

Ddoe, bum ar daith o Crosskeys i Ffynnon Tâf. Bydd disgrifiad yma yn y man, ond dim ond nodyn byr ydi hwn am gyd-ddigwyddiad bach a arweiniodd fi ar drywydd darllen annisgwyl.

Fel y byddaf yn aml yn gwneud ar ôl taith, mi chwiliais am enwau rhai llefydd ar y ffordd ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. O chwilio am dafarn yr Hollybush yn Draethen be ddaeth i’r golwg oedd dwy sdori gyfochrog o 1903. Roedd un yn ymwneud a Draethen, ond tafarn yr Hollybush yn yr Eglwys Newydd oedd dan sylw yn y llall. Roedd y ddwy yn son am ornestau cerdded o’r cyfnod, rhywbeth nad oeddwn wedi clywed amdanynt o’r blaen ac – yn ddigon naturiol – a hawliodd fy niddordeb. Ac felly dyna fy mhrynhawn Sul wedi mynd yn chwilota am fwy o wybodaeth.

Mae’r canlyniadau yn yr edefyn trydar isod (cliciwch i weld y cyfan).

Cyd-ddigwyddiad arall ydi ein bod yn digwydd bod wedi cael sgwrs fer yn Ffynnon Tâf efo dyn yr oedd ei ferch yn rasio cerdded, ac yn ddeilydd record Prydain dros 5 kilomedr (21 munud os dwi’n cofio’n iawn). Yn anffodus, dydw i heb allu canfod unrhyw fanylion amdani ar y we – eironig braidd ei bod yn haws dod o hyd i hanes cerddwyr o ganrif yn ôl na rhai cyfoes!

Mapio Cwm yr Aber

Fe ddechreuodd taith Mynydd a Chefn Eglwysilan yn Senghennydd, ym mlaen Cwm Aber: un o gymoedd llai’r maes glo. Wrth edrych ar hen fapiau Ordnance Survey o’r ardal, fel y byddaf yn gwneud yn aml wrth baratoi i fynd i ardal newydd, fe sylwais fod yna rywbeth diddorol am y mapiau o’r cwm yma, nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen.

Cwm Aber, sydd hefyd wedi cael ei adnabod yn y gorffennol fel Cwm Tridwr a Chwm Parc, oedd un o’r rhannau olaf o’r maes glo i gael ei ddatblygu. Ar ddiwedd yr 1880au, pan oedd diwydiant glo’r Rhondda yn ei anterth, a phentrefi mor ddiarffordd â Glyncorrwg, Blaengarw a Bedlinog eisoes ar y map, roedd y cwm bach yma ar gyrion Caerffili heb ei gyffwrdd.

Fel mewn sawl ardal arall, pan drefolwyd yr ardal yn y pen draw, datblygodd megis dros nos, ymledodd fel tân gwyllt, a ddaeth a thrasiedi i’w ganlyn. Yn wir, heblaw bod trychineb ddiwydiannol fwyaf Prydain wedi digwydd ym mhwll yr Universal ym 1913, debyg na fyddai Senghennydd a Chwm Aber yn ddim mwy na throednodyn bach yn hanes y maes glo. Ond y cyfle unigryw mae datblygiad hwyr Cwm yr Aber yn ei roi i rywun fel fi sy’n hoff o bori hen fapiau, ydi bod posib ei olrhain o’r cychwyn cyntaf drwy fapiau County Series yr Ordnance Survey, a gyhoeddwyd gyntaf yn yr 1870/80au, pan oedd y cwm yn dal i fod yn gwbl wledig.

Darllen y cofnod yn llawn…

Dafydd Morgan (1840-46) a gwyrth y we

Rwy’n byw yn yr Eglwys Newydd ger Caerdydd ers bron dair blynedd bellach, ond dim ond yn ddiweddar yr ymwelais am y tro cyntaf a safle’r hen Eglwys Fair ar Old Church Road (Hen Ffordd yr Eglwys neu Ffordd yr Hen Eglwys, tydw i ddim yn gwybod- mae’r naill a’r llall yn ddisgrifiad cywir debyg…)

file-06-12-2016-21-44-43

Dafydd Morgan 1840-46

Darllen mwy…