Mae Cylchdaith Caradog yn daith 124 milltir o hyd o amgylch ardal cymoedd de Cymru. Wedi ei rhannu yn 11 cymal, pob un yn cychwyn a gorffen mewn gorsaf dren, mae’n gyflwyniad delfrydol i gyfoeth naturiol a hanesyddol yr ardal.
Caradog oedd arweinydd gwrthsafiad y Silwriaid yn erbyn y gorchfygwyr Rhufeinig yng nghanol y ganrif gyntaf OC, a diolch i haneswyr Rhufeinig mae’n un o’r unigolion cynharaf yng Cymru y mae cofnod hanesyddol ohono. Mae nifer o fryniau, caeri, a mannau eraill drwy Gymru a’r gororau yn dwyn ei enw neu’n hawlio cysylltiad ag o hyd heddiw, gan gynnwys rhai ar y gylchdaith hon.

Yn naturiol, gellir gwneud y gylchdaith mewn unrhyw gyfeiriad, gan gychwyn gydag unrhyw un o’r cymalau (does dim hyd yn oed rhaid ei gwneud mewn trefn!). Gellid hefyd gyfuno rhai o’r cymalau haws i wneud un taith hirach. Ond i mi, yng Nglyn Ebwy mae’r daith yn cychwyn a gorffen, ac yn erbyn y cloc y mae’n cael ei disgrifio yma. Y rheswm am hynny yw mai cnewyllyn y syniad oedd y pum taith o Lyn Ebwy i Faesteg a gynhwyswyd yn y gyfrol Walking in the South Wales Valleys. Dyfeiswyd y chwe taith arall sy’n cau’r cylch yn ddiweddarach, a’u cyhoeddi ar y wefan hon.
O’r herwydd, nid oes disgrifiadau manwl o’r pum cymal cyntaf i’w cael yma ar hyn o bryd, er rwy’n gobeithio gallu eu hychwanegu yn y dyfodol. Er hynny, dylai’r mapiau sydd wedi eu cynnwys isod ar gyfer y cymalau hynny fod yn fwy na digon i ganiatáu i gerddwr abl ganfod ei ffordd. Dilynwch y dolenni i OutdoorActive neu’r OS er mwyn gweld map y gellir ei lawrlwytho fel GPX. Mae disgrifiadau llawn ar gyfer y chwe taith arall – sef ail hanner y cylch, o Faesteg yn ôl i Lyn Ebwy – ar gael yma, ac mae dolenni at y tudalennau perthnasol isod.
Dyma felly amlinelliad byr o 11 cymal Cylchdaith Caradog – cliciwch ar y dolenni a’r mapiau isod am fwy o fanylion am bob cymal.
1. Glyn Ebwy i Bontlottyn: 8.5 milltir, Hawdd / Cymhedrol. Taith ar draws tri cwm – Ebwy, Sirhywi a Rhymni, a dwy grib – Cefn Manmoel a Mynydd Bedwellty. Yn cynnwys y fynwent colera anghysbell yn Cefn Goleu, Tredegar. OutdoorActive. Ordnance Survey

2. Pontlottyn i Droedyrhiw: 8 milltir, Hawdd / Cymhedrol. O gwm Rhymni i’r Taf trwy’r Taf Bargoed. Amrywiaeth o dirweddau, gan gynnwys Carn y Bugail gyda’i safleoedd o Oes y Cerrig a Rhufeinig, pentref dymunol Bedlinog, a Mynydd Cilfach-yr-Encil uwchben Merthyr Tudful. OutdoorActive. Ordnance Survey

3. Troedyrhiw i Aberdâr: 11 milltir, Cymhedrol. Cymoedd Taf a Chynon. Mae’r rhan gyntaf yn wastad gan ei bod yn dilyn y Tâf ar hyd hen dramffyrdd a llwybrau tynnu, gan gynnwys trwy Aberfan. Yr ail ran yn dilyn y grib ar hyd Twyn Brynbychan a Mynydd Merthyr cyn disgyn i Aberdâr.
OutdoorActive. Ordnance Survey

4. Aberdâr i Don Pentre: 11 milltir, Cymhedrol / Anodd. O’r Cynon i’r Rhondda Fawr trwy gymoedd Aman a Rhondda Fach. Yn cynnwys gwersyll Rhufeinig yn Twyn y Briddallt a thref Glynrhedynog. Mae’r llethrau’n dod yn fwy serth ac yn fwy ysblennydd wrth i ni fynd tua’r gorllewin.
OutdoorActive. Ordnance Survey

5. Ton Pentre i Faesteg: 13 milltir, Anodd. O’r Rhondda Fawr i’r Llynfi, trwy’r Ogwr a’r Garw. Y golygfeydd mwyaf mynyddig o’r holl deithiau, gan gynnwys cymoedd rhewlifol a sgarpiau serth, gyda dringfeydd i gyd-fynd. Yn cynnwys safleoedd cyn-hanesyddol yng Ngwersyll Maendy a Chrug yr Afan.
OutdoorActive. Ordnance Survey

6. Maesteg i Sarn: 12 milltir, Canolig. O Faesteg i Sarn ger Penybont, yn dilyn Ffordd y Gyfraith ar hyd Mynydd Margam a Mynydd Baedan. Yn cynnwys carneddi o’r Oes Efydd, caeri o’r Oes Haearn a beddrod ôl Rufeinig. Disgrifiad.

7. Sarn i Lanharan: 10.5 milltir, Canolig. I fyny dyffryn yr Ogwr i ddechrau at bentref hanesyddol Melin Ifan-Ddu – croesffordd bwysig ar hyd y canrifoedd. Oddi yno dros Fynydd y Gaer – lleoliad posib un o frwydrau Caradog – a heibio adfeilion Llanbedr-ar-Fynydd, cyn gorffen yn Llanharan. Disgrifiad.

8. Llanharan i Ffynnon Taf: 11 milltir, Canolig. Taith ddifyr tu hwnt ar hyd y gefnffordd, yn cynnwys plasdy Llanharan House, hen lofa Ynysmaerdy, tref hanesyddol Llantrisant, dirgelwch Rhiwsaeson, copa’r Garth a phentrefi dymunol Gwaelod y Garth a Ffynnon Taf. Disgrifiad.

9. Ffynnon Taf i Crosskeys: 14 milltir, Canolig/Anodd. Taith ddiddorol a braf arall sy’n cynnwys dau Farilyn – Craig yr Allt a Mynydd Machen, dwy gastell – Ruperra a Meredydd, coed lu, a mwy na’r arfer o gyfleon i dorri syched ar hyd y daith. Disgrifiad.

10. Crosskeys i Bontypŵl: 9 milltir, Hawdd/Canolig. Yr hawsaf o’r teithiau, yn cychwyn a gorffen ar lan camlas gyda chrib hir Mynydd Henllys a Mynydd Twyn Glas rhyngddynt yn ein harwain i berfeddion yr hen Sir Fynwy. Ar y ffordd mae bryngaer y Twmbarlwm ac olion yr hen arfer o ‘sgwrio’ am fwyn haearn. Disgrifiad.

11. Pontypŵl i Lyn Ebwy: 16 milltir, Anodd. Cymal hir i orffen yn cysylltu dwy o ganolfannau pwysicaf y diwydiant haearn. Mae rhan helaeth y daith ar dir mynydd ac yn cynnwys golygfeydd agored yn ogystal a sawl peth bach annisgwyl ar y ffordd. Disgrifiad.

Mae Cylchdaith Caradog yn un o ddwy daith pellter hir y gellir eu gwneud o gyfuno’r teithiau unigol ar y wefan hon. Mae’r llall – Ymdaith Olwen – yn lwybr llinellol 98 milltir o’r Fenni i Rydaman