Castell-nedd i Rhydaman


This post describes a 20 mile linear walk in south Wales from Neath to Ammanford, via Pontardawe. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Castell-nedd i Rhydaman

Hyd: 20 milltir
Her: anodd
Amser: tua 10 awr
Lluniaeth: Castell-nedd, Pontardawe, Rhydaman
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Castell-nedd a Rhydaman. Byddwch angen gwiro yr amseroedd tren a sicrhau bod gennych amser i ddal tren yn ol i’r man cychwyn. Mae’n bosib y bydd natur yr amserlen yn ei gwneud yn haws gwneud y daith y ffordd arall, gan orffen yng Nghastell-nedd. Lluniaeth ar gael yng Nghastell-nedd, Pontardawe, a Rhydaman.

Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Dyma ni o’r diwedd felly wedi cyrraedd cymal olaf y daith hir o’r Fenni i Rhydaman, o Sir Fynwy i Sir Gâr, drwy galon Morgannwg. Ar y ffordd, rydym wedi croesi maes glo de Cymru. o dref farchnad hanesyddol y Fenni yn nyffryn llydan a glas yr Wysg ar gyrion y Mynyddoedd Duon, i dref ddiwydiannol Rhydaman wrth droed y Mynydd Du unig.

Er y pellter daearyddol, a’r gwahaniaethau diwyllianol, rhwng y ddwy dref mae ganddynt lawer yn gyffredin hefyd. Rydym yn gorffen fel y gwnaethom gychwyn, ymysg y cylch o hen weithfeydd haearn sy’n amgylchynu y maes glo ei hun. Sefydlwyd gwaith haearn yng Nghastell-nedd, fel yng Nglyn Ebwy, ar ddiwedd y 18eg ganrif, pan oedd rhan helaeth de Cymru yn dal i fod yn wledig a diarffordd, a tua chanrif cyn anterth y diwydiant glo.

Mae’n addas efallai ein bod yn coroni’r gyfres gyda’r cymal hiraf oll, gyda taith o ugain milltir –  yn anffodus, mae rheilffyrdd yn mynd yn fwy prin wrth i ni fynd tua’r gorllewin! Siwrne saff i chi.

Darllen y cofnod yn llawn…

Glyn Ebwy i’r Fenni


This post describes a 16 mile linear walk in south Wales from Ebbw Vale to Abegravenny, via Blaenavon. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Glyn Ebwy i’r Fenni

Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Glyn Ebwy, Blaenafon, Y Fenni
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Glyn Ebwy a’r Fenni. Trên  bob awr rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy (Llun i Sadwrn), gydag un neu ddau yr awr o’r Fenni.

Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Am bron i hanner canrif, rhanwyd Ewrop gan y ‘llen haearn’. Ond mae’r ”mynydd haearn’, neu’r Blorens, wedi rhannu de Cymru am lawer iawn yn hirach. I’r gorllewin o’r mynydd hwn ceir cymoedd cul a rhostiroedd llwm; y Klondyke Cymreig wedi ei siapio gan lo a haearn; tai teras a chapeli Fictorianiaidd; gwleidyddiaeth radical crud y chwyldro diwydianol a’r gwasanaeth iechyd. I’r dwyrain ar y llaw arall mae gwastadeddau ffrwythlon; cestyll Normanaidd; pentrefi bach gwledig gyda’u eglwysi canoloesol; perllannau, a hyd yn oed ambell i winllan; tai crand efo gerddi mawr.

Er ei fod bellach o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perthyn y Blorens yn ddaearegol i’r maes glo: y talp olaf o dywodfaen yn gwahanu cymoedd Gwent a dyffrynoedd llydan Wysg a Gwy i’r dwyrain. Ond bu cysylltiad agos erioed rhwng trigolion blaenau cymoedd Gwent a’u tref farchnad hanesyddol yn y Fenni, a chyn dyfod y rheilffyrdd, roedd y Blorens yn rhwystr yr oedd rhaid ei groesi er mwyn cael cynyrch gweithfeydd haearn Blaenafon at y môr a’r byd.

Wedi ei lleoli ble mae’r Wysg yn gadael y mynyddoedd, mae’r Fenni yn safle strategol o bwys ers canrifoedd. Cododd y Rhufeiniaid a’r Normaniaid gaerau yn y Fenni i amddiffyn eu llwybrau tua’r gorllewin ac i gadw llygad ar Gymry anystywallt y bryniau. Mae’n le priodol iawn felly ar gyfer pen draw dwyreiniol y teithiau llinellol hyn drwy’r cymoedd.

Am rhyw reswm, mi wnes i’r daith hon mewn cyfeiriad gwahanol i’r lleill i gyd, gan gerdded tua’r dwyrain o Lyn Ebwy i’r Fenni. Mae’n ddigon hawdd ei gwneud i’r cyfeiriad arall gan ddefnyddio’r map.

Darllen y cofnod yn llawn…

Her Tri Chopa De Cymru

Ar ôl bwriadu gwneud ers talwm, ond wedi methu a gwneud y dyddiad am amrywiol resymau am y bedair mlynedd ddiwethaf, ddoe mi gymrais ran yn Her Tri Chopa De Cymru am y tro cynta.

Taith her yn ardal Y Fenni a’r Mynyddoedd Duon wedi ei threfnu gan Grŵp Awyr Agored Caerdydd ydi hon, gyda dewis o bedair her – efydd, arian, aur a platinum. Yr olaf o’r rhain wnes i a chriw o ffrindiau o Tiger Bay Ramblers ddoe.

Tra bo’r dair her arall yn deithiau cylch o wahanol bellteroedd yn cychwyn a gorffen yn Y Fenni, mae’r her platinum yn daith linellol o Landdewi Nant Honddu dros Bâl Mawr, Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl i’r Fenni. Roedd tua 200 o bobl yn gwneud y daith hon, i gyd yn cael eu cludo ar fysiau o’r Fenni i’r man cychwyn am 8 o’r gloch yn y bore. Tra bo rhaid cael eich cerdyn wedi ei farcio ar ben y tri copa ac ym mhentref Llanbedr rhwng Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl, does dim rhaid dilyn llwybr penodol rhwng y llefydd hynny er roedd y rhan fwya o bobl, fel ni, i weld yn dilyn y llwybr a awgrymir ar y wefan.

Taith o dros 19 milltir i gyd felly gyda dros 5,700 troedfedd o ddringo – mae gan y tri mynydd lethrau hir a serth i’w dringo, a rhaid disgyn reit yn ol i lawr i’r dyffryn rhwng bob un. Fe arhosodd ein criw i gyd efo’i gilydd gan wneud y daith mewn 9 awr a hanner. Gallwch weld y trac ar Viewranger yma.

Hon oedd y daith hir gyntaf i mi ei gwneud eleni, ac er i mi fwynhau yn fawr mae’n deg dweud mod i’n reit stiff a diog heddiw! Bydd rhaid cael mwy o ymarfer cyn yr her nesaf, sef y Rhondda Rollercoaster ar y 12fed o Fai.