Castell-nedd i Rhydaman


This post describes a 20 mile linear walk in south Wales from Neath to Ammanford, via Pontardawe. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Castell-nedd i Rhydaman

Hyd: 20 milltir
Her: anodd
Amser: tua 10 awr
Lluniaeth: Castell-nedd, Pontardawe, Rhydaman
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Castell-nedd a Rhydaman. Byddwch angen gwiro yr amseroedd tren a sicrhau bod gennych amser i ddal tren yn ol i’r man cychwyn. Mae’n bosib y bydd natur yr amserlen yn ei gwneud yn haws gwneud y daith y ffordd arall, gan orffen yng Nghastell-nedd. Lluniaeth ar gael yng Nghastell-nedd, Pontardawe, a Rhydaman.

Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Dyma ni o’r diwedd felly wedi cyrraedd cymal olaf y daith hir o’r Fenni i Rhydaman, o Sir Fynwy i Sir Gâr, drwy galon Morgannwg. Ar y ffordd, rydym wedi croesi maes glo de Cymru. o dref farchnad hanesyddol y Fenni yn nyffryn llydan a glas yr Wysg ar gyrion y Mynyddoedd Duon, i dref ddiwydiannol Rhydaman wrth droed y Mynydd Du unig.

Er y pellter daearyddol, a’r gwahaniaethau diwyllianol, rhwng y ddwy dref mae ganddynt lawer yn gyffredin hefyd. Rydym yn gorffen fel y gwnaethom gychwyn, ymysg y cylch o hen weithfeydd haearn sy’n amgylchynu y maes glo ei hun. Sefydlwyd gwaith haearn yng Nghastell-nedd, fel yng Nglyn Ebwy, ar ddiwedd y 18eg ganrif, pan oedd rhan helaeth de Cymru yn dal i fod yn wledig a diarffordd, a tua chanrif cyn anterth y diwydiant glo.

Mae’n addas efallai ein bod yn coroni’r gyfres gyda’r cymal hiraf oll, gyda taith o ugain milltir –  yn anffodus, mae rheilffyrdd yn mynd yn fwy prin wrth i ni fynd tua’r gorllewin! Siwrne saff i chi.

Darllen y cofnod yn llawn…

Glyn Ebwy i’r Fenni


This post describes a 16 mile linear walk in south Wales from Ebbw Vale to Abegravenny, via Blaenavon. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Glyn Ebwy i’r Fenni

Hyd: 16 milltir
Her: anodd
Amser: tua 8 awr
Lluniaeth: Glyn Ebwy, Blaenafon, Y Fenni
Man cychwyn a gorffen:  Gorsafoedd tren Glyn Ebwy a’r Fenni. Trên  bob awr rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy (Llun i Sadwrn), gydag un neu ddau yr awr o’r Fenni.

Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive


Am bron i hanner canrif, rhanwyd Ewrop gan y ‘llen haearn’. Ond mae’r ”mynydd haearn’, neu’r Blorens, wedi rhannu de Cymru am lawer iawn yn hirach. I’r gorllewin o’r mynydd hwn ceir cymoedd cul a rhostiroedd llwm; y Klondyke Cymreig wedi ei siapio gan lo a haearn; tai teras a chapeli Fictorianiaidd; gwleidyddiaeth radical crud y chwyldro diwydianol a’r gwasanaeth iechyd. I’r dwyrain ar y llaw arall mae gwastadeddau ffrwythlon; cestyll Normanaidd; pentrefi bach gwledig gyda’u eglwysi canoloesol; perllannau, a hyd yn oed ambell i winllan; tai crand efo gerddi mawr.

Er ei fod bellach o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perthyn y Blorens yn ddaearegol i’r maes glo: y talp olaf o dywodfaen yn gwahanu cymoedd Gwent a dyffrynoedd llydan Wysg a Gwy i’r dwyrain. Ond bu cysylltiad agos erioed rhwng trigolion blaenau cymoedd Gwent a’u tref farchnad hanesyddol yn y Fenni, a chyn dyfod y rheilffyrdd, roedd y Blorens yn rhwystr yr oedd rhaid ei groesi er mwyn cael cynyrch gweithfeydd haearn Blaenafon at y môr a’r byd.

Wedi ei lleoli ble mae’r Wysg yn gadael y mynyddoedd, mae’r Fenni yn safle strategol o bwys ers canrifoedd. Cododd y Rhufeiniaid a’r Normaniaid gaerau yn y Fenni i amddiffyn eu llwybrau tua’r gorllewin ac i gadw llygad ar Gymry anystywallt y bryniau. Mae’n le priodol iawn felly ar gyfer pen draw dwyreiniol y teithiau llinellol hyn drwy’r cymoedd.

Am rhyw reswm, mi wnes i’r daith hon mewn cyfeiriad gwahanol i’r lleill i gyd, gan gerdded tua’r dwyrain o Lyn Ebwy i’r Fenni. Mae’n ddigon hawdd ei gwneud i’r cyfeiriad arall gan ddefnyddio’r map.

Darllen y cofnod yn llawn…

Wyt ti’n gwybod y ffordd i Gaerfyrddin?


This post describes three different routes for cycling from Cardiff to Carmarthen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


O dro i dro byddaf yn cael cyfle i feicio rhwng Gaerdydd a Chaerfyrddin, a death yr achlysur diwethaf dros y penwythnos. Rwy bellach wedi rhoi cynnig ar dair ffordd wahanol: ysgwnni oes gan rhywun awgrymiadau eraill fyddai werth rhoi cynnig arnynt?

Cliciwch ar y mapiau isod i agor y dudalen berthnasol yn Strava a gweld mwy o fanylion…

Darllen y cofnod yn llawn…

Marilyn yr Hump


This post provides an overview of the different classes of hills by height and prominence, in the context of south Wales. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Fel pob stereoteip, tydi’r un sy’n cysylltu cerddwyr/mynyddwyr gyda’r tueddiad i fod yn farfog, i wisgo sandalau gyda sannau, a hoffter o ‘gwrw go iawn’ ddim wastad yn dal dŵr, ond mae’n debygol y byddai diagram Venn mawr y ddynoliaeth yn dangos nad yw’r dybiaeth yn ddi-sail ychwaith. Debyg bod yr un peth yn wir pan mae’n dod at gerddwyr/mynyddwyr, a hoffter o ddosbarthu, rhestru a chasglu: dyna’r unig esboniad posib am y ffaith fod nifer o bobl wedi mynd ati dros y blynyddoedd gategoreiddio ein bryniau a mynyddoedd. Pinacl modern yr arfer hon heb os ydi gwefan Hill-bagging.co.uk. Darllen mwy…