This post describes an 11 mile linear walk from Llanharan to Taffs Well in the south Wales valleys, via Llantrisant and Garth Hill, with several places of historical interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Llanharan i Ffynnon Taf
Hyd: 11 milltir
Her: canolig
Amser: tua 5 awr
Lluniaeth: Llanharan, Llantrisant a Ffynnon Taf
Man cychwyn a gorffen: Llanharan a Ffynnon Taf. Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau le gan newid yng Nghaerdydd. Dim gwasanaeth i Lanharan ar y Sul.
Map a manylion ar Ordnance Survey
Cyn i mi ganolbwyntio am gyfnod ar ‘dri chopa Caerffili’ (Mynydd Machen, Mynydd y Lan, a Mynydd Twyn Glas), roedd y daith linellol ddiwethaf wedi dod a ni i Lanharan – pentref yng ngororau’r Fro rhwng Llantrisant a Phen-y-bont. Aiff a’r daith nesaf hon a ni oddi yno dros Fynydd Garthmaelwg i Lantrisant, ac yna dros y Garth i gwm Taf gan orffen ym mhentref Ffynnon Taf. Dyma ardal o dirwedd gymysg sy’n rhychwantu’r ffin rhwng y Blaenau a’r Fro, gyda thiroedd mynyddig a choediog am yn ail gyda thir amaethyddol ffrwythlon. Mae Llanharan a Llantrisant yn ganolfannau hanesyddol a drawsnewidiwyd dros y ddwy ganrif ddiwethaf gan eu lleoliad ar derfyn deheuol y maes glo, ond sydd wedi cadw nifer o’u nodweddion hynafol, tra bo Ffynnon Taf yn bentref diwydiannol sy’n digwydd bod yn gartref i unig ffynnon dwym Cymru.



