This post provides an overview of the highest and most prominent hills in Glamorgan and Gwent. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Yn rhan 1 Marilyn yr Hump, edrychais ar y categorïau sy’n cael eu defnyddio i ddosbarthu bryniau a mynyddoedd Cymru yn ôl eu huchder a/neu amlygrwydd, gan roi rhywfaint o sylw i’r prif fynyddoedd sylweddol sydd i’w cael yn y Bannau. Blog ‘damweiniol’ oedd hwnnw mewn gwirionedd, ddaeth yn angenrheidiol pan aeth be oedd i fod yn un paragraff agoriadol i ddarn ar fryniau Morgannwg a Gwent yn dri, yn chwech, yn ddwsin! Rwan felly, gallwn symud ymlaen at yr hyn oedd fod dan sylw yn y lle cyntaf…