This post describes a 9 mile linear walk from Crosskeys to Pontypool in the south Wales valleys, via Twmbarlwm and Mynydd Maen. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Crosskeys i Bont-y-pŵl
Hyd: 9 milltir
Her: hawdd/canolig
Amser: tua 7 awr
Lluniaeth: Crosskeys a Pont-y-pŵl
Man cychwyn a gorffen: Gorsafoedd tren Crosskeys a Pontypwl (Pont-y-pŵl a New Inn). Tren bob awr rhwng Caerdydd a Crosskeys, ac un neu ddau yr awr o Bont-y-pŵl (Llun i Sadwrn)
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive
Daeth y ddiwethaf o’r teithiau llinellol a ni o bentref Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd, ar hyd ymylon deheuol ucheldir Morgannwg, cyn croesi’r Rhymni i gyrraedd y Sir Fynwy hanesyddol a gorffen yn Crosskeys, yn nwfn yng nghymoedd Gwent ar lan yr afon Ebwy. Yn yr hen Sir Fynwy/Gwent byddwn yn aros felly am dair taith olaf y gyfres a fydd yn ein tywys yn y pen draw i dref y Fenni.

Y gamlas yn Crosskeys
Ar ôl taith o 14 milltir y tro diwethaf, mae’r daith hon yn gymharol fer a syml o’r ‘cwm gorllewinol’ i’r ‘cwm dwyreiniol’, fel y gelwir yr Ebwy a’r Llwyd yng nghyd-destun Sir Fynwy. Byddwn yn croesi Mynydd Henllys, Mynydd Maen a Mynydd Twyn-glas, ond gan mai enwau ar rannau gwahanol o’r un bryn yw’r rhain mewn gwirionedd, mae rhan helaeth y dringo yn digwydd ar ddechrau’r daith, o Crosskeys at Twmbarlwm. Mae’r daith hefyd yn cychwyn a gorffen ar wahanol ganghennau o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, sydd o bosib y gamlas sydd wedi ei chadw orau yn ne Cymru i gyd.

