Ar ôl bwriadu gwneud ers talwm, ond wedi methu a gwneud y dyddiad am amrywiol resymau am y bedair mlynedd ddiwethaf, ddoe mi gymrais ran yn Her Tri Chopa De Cymru am y tro cynta.
Taith her yn ardal Y Fenni a’r Mynyddoedd Duon wedi ei threfnu gan Grŵp Awyr Agored Caerdydd ydi hon, gyda dewis o bedair her – efydd, arian, aur a platinum. Yr olaf o’r rhain wnes i a chriw o ffrindiau o Tiger Bay Ramblers ddoe.
Tra bo’r dair her arall yn deithiau cylch o wahanol bellteroedd yn cychwyn a gorffen yn Y Fenni, mae’r her platinum yn daith linellol o Landdewi Nant Honddu dros Bâl Mawr, Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl i’r Fenni. Roedd tua 200 o bobl yn gwneud y daith hon, i gyd yn cael eu cludo ar fysiau o’r Fenni i’r man cychwyn am 8 o’r gloch yn y bore. Tra bo rhaid cael eich cerdyn wedi ei farcio ar ben y tri copa ac ym mhentref Llanbedr rhwng Pen Cerrig Calch a Phen y Fâl, does dim rhaid dilyn llwybr penodol rhwng y llefydd hynny er roedd y rhan fwya o bobl, fel ni, i weld yn dilyn y llwybr a awgrymir ar y wefan.
Taith o dros 19 milltir i gyd felly gyda dros 5,700 troedfedd o ddringo – mae gan y tri mynydd lethrau hir a serth i’w dringo, a rhaid disgyn reit yn ol i lawr i’r dyffryn rhwng bob un. Fe arhosodd ein criw i gyd efo’i gilydd gan wneud y daith mewn 9 awr a hanner. Gallwch weld y trac ar Viewranger yma.
Hon oedd y daith hir gyntaf i mi ei gwneud eleni, ac er i mi fwynhau yn fawr mae’n deg dweud mod i’n reit stiff a diog heddiw! Bydd rhaid cael mwy o ymarfer cyn yr her nesaf, sef y Rhondda Rollercoaster ar y 12fed o Fai.