Ddoe, bum ar daith o Crosskeys i Ffynnon Tâf. Bydd disgrifiad yma yn y man, ond dim ond nodyn byr ydi hwn am gyd-ddigwyddiad bach a arweiniodd fi ar drywydd darllen annisgwyl.
Fel y byddaf yn aml yn gwneud ar ôl taith, mi chwiliais am enwau rhai llefydd ar y ffordd ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. O chwilio am dafarn yr Hollybush yn Draethen be ddaeth i’r golwg oedd dwy sdori gyfochrog o 1903. Roedd un yn ymwneud a Draethen, ond tafarn yr Hollybush yn yr Eglwys Newydd oedd dan sylw yn y llall. Roedd y ddwy yn son am ornestau cerdded o’r cyfnod, rhywbeth nad oeddwn wedi clywed amdanynt o’r blaen ac – yn ddigon naturiol – a hawliodd fy niddordeb. Ac felly dyna fy mhrynhawn Sul wedi mynd yn chwilota am fwy o wybodaeth.
Mae’r canlyniadau yn yr edefyn trydar isod (cliciwch i weld y cyfan).
Cyd-ddigwyddiad arall ydi ein bod yn digwydd bod wedi cael sgwrs fer yn Ffynnon Tâf efo dyn yr oedd ei ferch yn rasio cerdded, ac yn ddeilydd record Prydain dros 5 kilomedr (21 munud os dwi’n cofio’n iawn). Yn anffodus, dydw i heb allu canfod unrhyw fanylion amdani ar y we – eironig braidd ei bod yn haws dod o hyd i hanes cerddwyr o ganrif yn ôl na rhai cyfoes!