This post describes an easy 4 mile circular walk around Cefn Eglwysilan from the Rose & Crown, Eglwysilan. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Cefn Eglwysilan
Hyd: 4 milltir
Her: hawdd
Amser: llai na 2 awr
Man cychwyn a gorffen: Rose & Crown, Eglwysilan
Uchder: 382m
Categori: Marilyn
Map a Manylion ar Ordnance Survey
Map a Manylion ar OutdoorActive
Rwy eisoes wedi disgrifio taith i fyny Cefn Eglwysilan o Senghennydd, ond mi soniais ar ddechrau honno bod sawl ffordd haws o fynd i fyny’r bryn bach arbennig yma.
Dyma felly dro hawdd ei dilyn y gall unrhywun ei gwneud, gan gynnwys teuluoedd a rhai sydd newydd gael llond bol o ginio Sul yn y Rose & Crown! Cylchdaith syml, 4 milltir o hyd, o amgylch Comin Eglwysilan gan gynnwys copa Cefn Eglwysilan. Mae’n cynnwys golygfeydd bendigedig i bob cyfeiriad ar ddiwrnod clir – o’r Bannau i’r mor a thu hwnt. Dim gormod o ddringo, bron dim pobl, a thafarn (a/neu eglwys wrth gwrs!) i orffen. Yn wir, be na bai am wehilion cymdeithas sy’n mynnu defnyddio’r comin fel tomen sbwriel, byddai’r daith yma yn agos at fod yn berffaith.
O faes parcio’r Rose & Crown, trowch i’r chwith ac yna ewch syth yn eich blaen yn y groesffordd a dilyn y trac at y comin. Bosib bydd rhaid i chi ddringo dros y giat, oherwydd awydd dealladwy ffermwyr i atal cerbydau rhag cael mynediad at y tir agored. Dilynwch yr un llwybr ar hyd ymyl y comin, nes cyrraedd trac arall sy’n troi i’r chwith. Dilynwch hwn at y mastiau, ac yna ar draws y pant at yr ail gopa sydd a philer ar ei gopa. (Mae cadw i’r dde yn helpu osgoi y tir gwlypaf). Oddi yno, dilynwch grib y bryn tua’r de ac yna’r ffordd fynydd i ddod a chi’n ôl at eich man cychwyn.
Yr olygfa i’r de, yn cynnwys Mynydd Meio, Craig yr Allt, Y Garth, Ceunant Taf, Caerdydd, Penarth a Mor Hafren


