Ymdaith Olwen

ENGLISH: Olwen’s Odyssey

Taith linellol 98 milltir ar draws cymoedd de Cymru yw Ymdaith Olwen, o’r Fenni yn y dwyrain i Rydaman yn y gorllewin. Mae wedi ei rhannu yn 8 cymal, pob un yn cychwyn a gorffen mewn gorsaf drenau.

Yn chwedl Culhwch ac Olwen, mae Ysbaddaden Bengawr yn gosod deugain o dasgau i Culhwch eu cyflawni cyn y gall briodi ei ferch Olwen.Cysylltir helfa’r Twrch Trwyth yn arbennig ag ardal dyffryn Aman, ble mae’r daith hon yn gorffen. Drwy gyd-ddigwyddiad, mae cyfanswm o ddeugain rhwystr – yn fryniau ac afonydd – i’w croesi ar hyd Ymdaith Olwen: gweler gwaelod y dudalen am restr lawn.

Trosolwg Ymdaith Olwen

Yn naturiol, gellir gwneud y daith mewn naill gyfeiriad neu’r llall, a gellid hefyd cyfuno rhai o’r cymalau haws i wneud un daith hirach. Ond o’r dwyrain i’r gorllewin y mae’n cael ei disgrifio yma, ag eithrio (am resymau na allaf eu cofio) y cymal cyntaf sydd wedi ei ddisgrifio y ffordd ‘anghywir’ o dref Glyn Ebwy i’r Fenni. Fel yn achos Cylchdaith Caradog, cnewyllyn y syniad oedd y pum taith o Lyn Ebwy i Faesteg a gynhwyswyd yn y gyfrol Walking in the South Wales Valleys. Dyfeiswyd y dair taith arall sy’n ymestyn y daith yn ddiweddarach, a’u cyhoeddi ar y wefan hon.

O’r herwydd, nid oes disgrifiadau manwl o’r pum cymal ‘gwreiddiol’ yma ar hyn o bryd – y bwriad ydi eu hychwanegu yn y dyfodol. Er hynny, dylai’r mapiau sydd wedi eu cynnwys isod ar gyfer y cymalau hynny fod yn fwy na digon i ganiatáu i gerddwr abl ganfod ei ffordd. Dilynwch y dolenni i OutdoorActive neu’r OS er mwyn gweld map y gellir ei lawrlwytho fel GPX. Mae disgrifiadau llawn ar gyfer y dair taith arall – y cymal cyntaf, a’r ddau olaf – ar gael yma, ac mae dolenni at y tudalennau perthnasol isod.

Dyma felly amlinelliad byr o 8 cymal Ymdaith Olwen – cliciwch ar y dolenni a’r mapiau isod am fwy o fanylion am bob cymal.

1. Y Fenni i Lyn Ebwy: 16 milltir, Anodd. O’r Fenni dros y Blorens i Flaenafon, cyn parhau dros Fynydd Coety i Nantyglo a Glyn Ebwy. Taith amrywiol – llawer ohoni dros dir uchel. Disgrifiad.

2. Glyn Ebwy i Bontlottyn: 8.5 milltir, Hawdd / Cymedrol. Taith ar draws tri cwm – Ebwy, Sirhywi a Rhymni, a dwy grib – Cefn Manmoel a Mynydd Bedwellty. Yn cynnwys y fynwent colera anghysbell yn Cefn Goleu, Tredegar. OutdoorActive. Ordnance Survey

3. Pontlottyn i Droedyrhiw: 8 milltir, Hawdd / Cymedrol. O gwm Rhymni i’r Taf trwy’r Taf Bargoed. Amrywiaeth o dirweddau, gan gynnwys Carn y Bugail gyda’i safleoedd o Oes y Cerrig a Rhufeinig, pentref dymunol Bedlinog, a Mynydd Cilfach-yr-Encil uwchben Merthyr Tudful. OutdoorActive. Ordnance Survey

4. Troedyrhiw i Aberdâr: 11 milltir, Cymedrol. Cymoedd Taf a Chynon. Mae’r rhan gyntaf yn wastad gan ei bod yn dilyn y Tâf ar hyd hen dramffyrdd a llwybrau tynnu, gan gynnwys trwy Aberfan. Yr ail ran yn dilyn y grib ar hyd Twyn Brynbychan a Mynydd Merthyr cyn disgyn i Aberdâr.
OutdoorActive. Ordnance Survey

5. Aberdâr i Don Pentre: 11 milltir, Cymedrol / Anodd. O’r Cynon i’r Rhondda Fawr trwy ddyffrynnoedd Aman a Rhondda Fach. Yn cynnwys gwersyll Rhufeinig yn Twyn y Briddallt a thref Glynrhedynog. Mae’r llethrau’n dod yn fwy serth ac yn fwy ysblennydd wrth i ni fynd tua’r gorllewin.
OutdoorActive. Ordnance Survey

6. Ton Pentre i Faesteg: 13 milltir, Anodd. O’r Rhondda Fawr i’r Llynfi, trwy’r Ogwr a’r Garw. Y golygfeydd mwyaf mynyddig o’r holl deithiau, gan gynnwys cymoedd rhewlifol a sgarpiau serth, gyda dringfeydd i gyd-fynd. Yn cynnwys safleoedd cyn-hanesyddol yng Ngwersyll Maendy a Chrug yr Afan.
OutdoorActive. Ordnance Survey

7. Maesteg i Gastell-nedd: 13 milltir, Canolig. O’r Llynfi i gwm Nedd dros ucheldir gorllewin Morgannwg, gan groesi dyffryn cul yr Afan ar in ffordd. Cyfle i ymweld ag Amgueddfa Glowyr de Cymru ym Mharc Coedwig Afan Disgrifiad.

8. Castell-nedd i Rydaman: 20 milltir, Anodd. Y daith hiraf o’r gyfres i orffen, ond un sydd yn werth bob cam. Abaty Castell-nedd, Carreg Bica Mynydd Drumau, capeli Gellionnen a’r Baran, siambr gladdu Carnllechart. Golygfeydd di-ri. Ac wrth gwrs, y boddhâd o orffen! Disgrifiad.

Mae Ymdaith Olwen yn un o ddwy daith pellter hir y gellir eu gwneud o gyfuno’r teithiau unigol ar y wefan hon. Cylchdaith Caradog yw’r llall, ac mae cyflwyniad i honno – taith gylch 124 milltir o hyd – i’w gael yma.

* Y 40 tasg neu rwystr ar y daith hon yw: 1. Afon Wysg; 2. Y Blorens; 3. Afon Llwyd; 4. Mynydd Coety; 5. Afon Ebwy Fach; 6. Bwlch y Garn; 7. Afon Ebwy Fawr; 8. Cefn Manmoel; 9. Afon Sirhywi; 10. Mynydd Bedwellte; 11. Afon Rhymni; 12. Cefn y Brithdir; 13. Afon Rhymni Bargod; 14. Mynydd Fochriw/Carn y Bugail; 15. Afon Taf Bargod; 16. Mynydd Cilfach yr Encil; 17. Afon Taf; 18. Mynydd Merthyr; 19. Afon Cynon; 20. Rhos Gwawr; 21. Afon Aman; 22. Twyn y Briddallt; 23. Afon Rhondda Fach; 24. Cefn y Rhondda; 25. Afon Rhondda Fawr; 26. Mynydd Maendy; 27. Werfa; 28. Afon Garw; 29. Llyndwr Fawr; 30. Afon Llynfi; 31. Foel Trawsant/Cefn yr Argoed; 32. Afon Afan; 33. Craig y Gyfylchi; 34. Afon Pelenna; 35. Blaen-cwmbach; 36. Afon Nedd; 37. Mynydd Drumau; 38. Afon Tawe; 39. Mynydd Carnllechart/Mynydd y Betws; 40. Afon Aman