Craig yr Allt


This post describes a short 3.5 mile circular walk up Craig yr Allt, along with information on some points of interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.


Craig yr Allt

Hyd: 3.5 milltir
Her: hawdd
Amser: tua awr a hanner
Man cychwyn a gorffen: mynwent Tŷ Rhiw
Uchder: 273m
Categori: Marilyn

Map a Manylion ar Ordnance Survey


Map a Manylion ar OutdoorActive



Ar un adeg, mae’n bosib y byddai cerdded o ben y Garth i gopa Graig yr Allt wedi bod yn dro bach digon hamddenol ar hyd y gefnen dywodfaen rhwng y ddau gopa. Nid felly heddiw: dros 5 miliwn o flynyddoedd, mae cyfuniad o ddŵr, rhew, ac amser wedi agor hollt ddofn rhwng y ddau fryn a’u hysgaru’n llwyr. A diolch am hynny, oherwydd mae gennym felly ddau fryn sydd yn cynnig golygfeydd godidog dros geunant Taf a deheuoedd Morgannwg.

photo-20-12-2016-13-38-41

Pont y rheilffordd

Mewn ffordd, Craig yr Allt (273m) ydi bryn anghofiedig yr ardal. Nid yn unig mae’n byw yng nghysgod ei chwaer fawr yr ochr arall i’r Taf, ond mae hefyd yn llawer llai adnabyddus a phoblogaidd na’i chwaer fach, Mynydd Caerffili (271m), ychydig dros filltir i’r dwyrain. Ar un llaw, mae hyn yn anhêg. Yn ogystal a chynnig golygfeydd bendigedig, mae Craig yr Allt yn fynydd golygus ynddo’i hun. Mewn gwlad o gopaon gwastad, dyma grib goch drawiadol y gellir ei gwerthfawrogi o bell*. Ar y llaw arall, mae’n dda o beth nad oes gan Graig yr Allt faes parcio dafliad carreg o’r copa, na chaffi hwylus ar gyfer plant. Yn wahanol i’w gymdogion, yn amlach na pheidio cewch fwynhau’r olygfa o ben Craig yr Allt mewn tawelwch a llonydd.

Mae sawl ffordd o fynd i fyny, gan ddibynnu ar ba mor bell yr hoffech gerdded, ond mae’r llwybr yma, sydd yn cychwyn wrth y fynwent yn Tŷ Rhiw, yn rhoi taith digon dymunol gyda  rhai olion diwydiannol i’w gweld ar y ffordd.

Ar ôl mynd drwy goedwig fechan, ewch o dan fwa uchel y bont rheilffordd (1) a dilyn llwybr digon clir ar draws y caeau tuag at ffermdy Craig yr Allt. Cyn cyrraedd y ffermdy, byddwch yn pasio stablau ac ysgol farchogaeth Rockwood (2), sydd yn dwyn enw’r gwaith glo a oedd ar y safle yng nghanol yr 20fed ganrif.

photo-20-12-2016-14-21-23

Copa Craig yr Allt

Cysylltwyd y gweithfeydd yma i brif ganolfan Rockwood i lawr y dyffryn gan dramffordd – mae ei llwybr i’w gweld yn glir wrth i chi agosau at y stablau. Fe welwn ben arall y dramffordd yn nes ymlaen.

Ar ôl pasio Rockwood, a thŷ Craig yr Allt ei hun (lleoliad o bwys yn hanes y Bedyddwyr yn yr ardal yn yr 17eg ganrif) rhaid troi i’r chwith oddi ar y ffordd fynediad i gychwyn dringo tuag at gopa’r bryn. Mae yna un darn digon serth cyn i’r llwybr fynd yn fwy gwastad eto wrth groesi rhan uchaf y grib. O’r copa. ceir golygfeydd eang dros gwm Taf, Nantgarw, Caerffili a chwm Rhymni, a Mynydd Eglwysilan i’r gogledd. Mae’r llwybr yn disgyn yn igam-ogam tuag at lwybr Taith Taf. Hen lwybr cangen Penrhos o Reilffordd y Barri sydd yma, a agorwyd ddechrau’r 20fed ganrif i gludo glo Cwm Rhymni i ddociau’r Barri, a oedd yn cystadlu efo dociau’r Ardalydd Bute yn Nghaerdydd. Roedd y gangen hon yn ymuno gyda’r brif linell o’r Barri i’r Rhondda yng nghyffordd Tynycaeau ger Sain Ffagan.

img_5709 Twnnel y dramffordd

Tua 600 medr at ôl ymuno a’r llwybr, mae adeiladau ystâd ddiwydiannol i’w gweld at y dde. Dyma hen safle glofa Rockwood, ac os edrychwch i’r dde o’r llwybr fe welwch dwnnel bach o dan yr hen reilffordd gyda chledrau ynddo (3): dyma ble roedd y dramffordd o’r gwaith glo yn uwch i fyny’r mynydd yn croesi’r rheilffordd.

Tua tri chan medr yn bellach ar hyd Llwybr Taf, mae llwybr arall yn troi lawr i’r chwith i ddod a chi’n ôl at y bont a welsoch ar ddechrau’r daith.

*Mae’r llun ar ben y dudalen yn dangos Craig yr Allt fel y mae i’w gweld o’r Garth

2 sylw ar “Craig yr Allt

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Ffynnon Taf i Crosskeys | Silwria

Gadael ymateb i Carl Morris Diddymu ymateb