This post describes a 10.5 mile linear walk from Sarn (Bridgend) to Llanharan in the south Wales valleys, via Blackmill and Mynydd y Gaer with several places of historical interest en route. Click here for a GoogleTranslate version of this post.
Sarn i Lanharan
Hyd: 10.5 milltir
Her: canolig
Amser: tua 5 awr
Lluniaeth: Melin Ifan-ddu a Llanharan
Man cychwyn a gorffen: gorsafoedd tren Sarn ger Penybont, a Llanharan (rhwng Llantrisant a Phencoed). Gwasanaethau rheolaidd rhwng y ddau le a Phenybont/Caerdydd, ac yn uniongyrchol o’r naill i’r llall. Dim gwasanaeth ar y Sul.
Map a manylion ar Ordnance Survey
Map a manylion ar OutdoorActive

Melin Ifan Ddu o Graig Tal-y-fan
O orsaf Sarn, pasiwch eglwys San Ffraid a chroesi’r afon Ogwr ger y caeau pêl-droed. Mae’r daith yn parhau i ddilyn yr afon gan ymuno a llwybr hen Reilffordd Cwm Ogwr ym Mrynmenyn. Yn anterth oes y rheilffyrdd, roedd cyffyrdd Brynmenyn a Tondu ymysg y prysuraf yn ne Cymru, gyda threnau i ac o, Maesteg, Blaengarw, Nant-y-moel, Gilfach Goch, Llanharan, Porthcawl, Margam, a Chaerdydd i gyd yn pasio drwyddynt. Ddwy filltir ar ôl gadael yr orsaf, ble mae Nant Clydwyn yn ymuno a’r Ogwr ger hen ryd (1), mae gennych ddewis rhwng cadw at yr un llwybr am ddwy filltir arall , neu gymryd detour ar hyd Craig Tal-y-fan. Mae’r dewis cyntaf yn fwy gwastad a syml, tra bo’r ail yn golygu ychydig o ddringo ond yn cynnig golygfeydd ehangach o’r herwydd.

Traphont Melin Ifan Ddu

Copa Mynydd y Gaer
Ymddengys fod Mynydd y Gaer yn ganolfan o bwys i Silwriaid Oes yr Haearn: mae’r gaer ei hun ychydig i’r de-ddwyrain o’r copa, ar esgair sydd yn edrych dros y gwastadeddau tua’r de. Mae’n debyg bod brwydr wedi digwydd ar lethrau’r mynydd rhwng y brodorion a byddin Rufeinig yn ystod eu hymgyrchoedd yn ne Cymru yn ystod y ganrif gyntaf oed Crist. Cwm Rhydymilwyr oedd maes y gad, tra bo copa gwastad Mynydd y Gaer wedi ei adnabod yn y gorffennol fel Mynwent y Milwyr. Mae’r enw Twyn Caradog ar feddrod ar Fynydd Maendy gerllaw hefyd awgrymu cysylltiad gyda’r un cyfnod.

Llanbedr at Fynydd
Aiff hen ffordd y plwy a chi heibio i adfail hen eglwys y plwy Llanbedr ar Fynydd (Llanbad) (4). Mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, er mae’n debyg bod adeiladau crefyddol wedi bodoli ar yr un safle cyn hynny. Roedd yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer priodasau ac angladdau ganol yr 18fed ganrif, ac mae cerrig bedd o’r cyfnod hwnnw i’w gweld o hyd. Ar un adeg, byddai lleoliad yr eglwys wedi bod yn fan canolog ar gyfer trigolion ardal wledig eang, a cynhaliwyd ffeiriau yn iard yr eglwys. Ond dros amser death y capeli anghydffurfiol yn y pentrefi diwydiannol newydd yn fwy cyfleus i bobl: yn 1830 codwyd eglwys San Pedr newydd ym mhentref Brynna ar y gwastadedd islaw a gadawyd Llanbedr ar Fynydd i’r elfennau. Ceir mwy o hanes a gwybodaeth ar wefan Welldigger a FreeStGeorge’s. Yn ddiweddar, mae’r eglwys wedi canfod ei hun yng nghanol stori ryfedd braidd, ble mae’r perchennog yn honni iddo ganfod tystiolaeth y mai dyma leoliad bedd y Brenin Arthur (tystiolaeth sydd heb argyhoeddi archeolegwyr a haneswyr eraill, mae’n deg dweud!) ac wedyn ffraeo efo’r ffermwr lleol dros ffens.
O’r eglwys, mae’r daith yn parhau i’r un cyfeiriad ar hyd Ffordd y Bryniau nes cyrraedd croesffordd o lwybrau ger Mynydd Meiros, ble dylech droi i’r dde a dilyn y llwybr i lawr ochr y bryn am filltir i Lanharan a diwedd y daith. Ychydig cyn y groesffordd, fe welwch greigiau ar eich chwith uwchben y llwybr, gyda’r geiriau ‘Dduw Cariad Yw’ (5) wedi eu cerfio a phaentio arnynt. Unwaith eto, mae Welldigger yn adrodd yr hanes yn llawer gwell na fedrwn i.Pan gyrhaeddwch chi Llanharan, mae tafarndai’r High Corner a’r Tuberville yn gyfleus ar gyfer torri syched tra’n aros am y trên nesaf.

Hysbysiad Cyfeirio: Llanharan i Ffynnon Taf | Silwria
S`mai Silwria?
Gog arall (o Ddyffryn Nantlle) yn galw.
Minna` hefyd wedi ymweld ag Eglwys Llanbed Ar Fynyddydd oherwydd yr hanes Arthuraidd yn fy achos i.
Ddim am ei farnu yn hanes mor ryfedd a hynny wrth ddarllen fersiwn/dadansoddiad Blackett a Wilson am y brenin chwedlonnol. Gwerth darllen un o`u llyfrau niferys at y pwnc ble maen`t yn cyflwyno eu tystiolaeth wrth fynd ati i gynnig mai Arthwys ap Meurig oedd y gwir berson o gig a gwaed a cyfeirir hanes a chwedlonnau ato fel yr Arthur.
Gwell I mi son yma nad ydwyf innau `chwaith yn hanesydd o unrhyw ddisgrifiad, dim ond bod gennyf chwilfrydedd am yr oes Arthuraidd a gwreiddiau ein pobl sef ein cenedl ni Y Cymry, y gwir Frythoniaid. Mae llyfrau Blackett a Wilson yn atgyfnerthu ac yn wir yn pwysleisio`r ffeithiau hyn i`r holl fyd!
Os nad ydyw prynu e.e. eu llyfr The Holy Kingdom (sy`n grynhodeb o`u cyhoeddiadau Arthuraidd) yn apelio atoch, gwerth i mi nodi bod llawer o ddarnau fideo o ragleni dogfen ac yn wir darlithoedd gan Alan Wilson i`w cael ar YouTube. Mae rhain yn cynnwys eglurhadiadau manwl, llawn at sut y maen`t yn dod at eu gasgliadau, gwerth oriau mawr o fideo a dweud y gwir, lle gall rhywun dreulio beth sy`n weddill nosweithiau o ddiwedd y gaeaf hyn a chael hanes addysgol gwerthfawr (fel yn fy achos i) sydd yn ei dro wedi fy arwain I ymweld a safleoedd hanesyddol ym Morgannwg a Gwent, pryn ag os ydyw Arthwys ap Meurig yn profi i fod y person o gig a gwaed tu ol i Frenin Arthur ta pheidio.
O.n.
Daethpwyd a thyllu a chloddio`r safle (Llanbad) i ben yn ddisymwth gan yr awduron a gwirfoddolwyr yn gynnar yn yr wythdegau, wedi iddynt brynu`r safle gydag eu harian eu hunain a chyfrannwyr preifat eraill wedi sdorm o wynt a glaw go anghyffredin eu taro wedi ychydig ddyddiau yn unig a bu chwalu eu hadeilad cysgodol. Gwir, ni ddarganfuwyd bedd Arthur gan nad gloddwyd yn ddigon dwfn i`r tir, ond fe ddargafwyd croes haearn o`r oes Romano/Frythonaidd gyda `sgrifen mewn Lladin diffygiol yn ol arbennigwyr i`r perwyl dros enaid Arthur arni, ynghyd a charreg goffau i Rex Artorius Fili Mauricius wedi ei naddu arni. (h.y. Brenin Arthur fab Meurig).
Mewn datganiad rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, datganodd Alan Wilson eu bod wedi ail asesu tystiolaeth y man cloddio a chyfaddef y dylid eu bod wedi cloddio yn ardal safle Twyn Caradog, sy`n llythrennol dafliad carreg o eglwys Llnbedr ar Fynydd.
HoffiHoffi